Ymunodd cannoedd o bobl o gymunedau ar draws yr ardal mewn amrywiaeth o weithgareddau cerddorol a chelfyddydol a gynhaliwyd dros bum niwrnod.
Datblygodd Gwyl Fama o Ŵyl Cilcain ac fe'i cynhelir yn y trefi a'r pentrefi o gwmpas ardal Moel Famau.
Eleni, lansiwyd yr ŵyl gyda noson farddoniaeth yn y Cross Foxes yn Nannerch. Darllenodd y bardd Aled Lewis Evans ei waith a chanodd leuan ap Sion amrywiaeth o ganeuon traddodiadol o'r ardal.
Cafwyd cynulleidfa dda yn y Dathliad o Gerddoriaeth yr Ifanc a gynhaliwyd yn Eglwys y Santes Fair, Yr Wyddgrug.
'Roeddem yn falch iawn bod Côr leuenctid Sirol Hyn Sir y Fflint a'r Gerddorfa Chwyth wedi gallu gwneud y cyfraniad pwysig hwn i'r ŵyl eleni,' meddai cadeirydd, Gŵyl Fama, David Martin.
'Nod Gŵyl Fama yw cyfoethogi bywydau pobl leol o bob oed gyda cherddoriaeth a chelfyddyd o safon a bu cyfraniad y bobl ifanc ynghyd â chefnogaeth eu teuluoedd a'u cyfeillion yn hwb mawr i ni'.
Cynhaliwyd bore o weithgareddau i blant dan wyth yn Ysgoldy Capel Gad, Cilcain dan arweiniad Lucy Clement Evans. Noddwyd y digwyddiad gan Mudiad Ysgolion Meithrin a daeth dros hanner cant o blant a'u teuluoedd i fwynhau gweithgareddau celf a chrefft yn seiliedig ar storiau Beatrix Potter.
Rhoddodd y cyngerdd ar y nos Sadwrn yng Nghapel Cilcain gyfle i gerddorfa breswyl Gŵyl Fama, Ensemble Cymru, ddangos ei doniau arbennig.
Perfformiwyd amrywiaeth o ffefrynnau clasurol, cerddoriaeth gan Joni Mitchell a sgôr ffilm gan Ennio Morricone. Ymunodd y tenor Robyn Lyn Evans, enillydd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a'r Cyffiniau, a hwy. Swynodd y gynulleidfa gyda'i berfformiad grymus.
Noson Werin
Bu'r noson werin yn Nhafarn y Dderwen, Hendre, yn llwyddiant ysgubol gyda'r cyfuniad o gerddoriaeth o Gymru ac Iwerddon gan Pen Tennyn a Gan Ainm yn denu torf sylweddol.
Dywedodd John Les Tomos, 'Roeddem yn falch o gael cynnal digwyddiad yma fel rhan o Ŵyl Fama ac o weld poblogrwydd y digwyddiad gwerin eleni mae'n debyg bydd yn rhaid i ni ystyried hurio pabell ar gyfer y flwyddyn nesaf'.
Yn ogystal a'r digwyddiadau cymunedol trefnodd yr ŵyl raglen i ysgolion.
'Roedd ein digwyddiadau i ysgolion yn hynod boblogaidd,' eglurodd David Martin. 'Comisiynwyd y sacsoffonydd Mike Hall, tiwtor jazz yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd, i gynnal
dosbarth meistr.
Roedd brwdfrydedd Mike yn heintus a'r farn gyffredinol oedd i'r gweithdy fod yn "hollol ysbrydoledig" - a dyna'r union fath o ymateb rydym eisiau am ddigwyddiadau'r Ŵyl'.
Ymunodd dau gant o ddisgyblion cynradd o Ysgolion Glanrafon, Rhoshelyg, Y Waun, Derwenfa, Southdown ac Ysgol y Foel, Cilcain ag Ensemble Cymru ar gyfer ei cynhyrchiad o ddwy o straeon Beatrix Potter yn Ysgol Maes Garmon ar y dydd Gwener.
Gyda chyflwynydd S4C Branwen Gwyn yn llefaru, daeth y deuddeg cerddor â straeon Guto'r Gwningen a Dili Minllyn yn fyw.
Bu'r Ŵyl yn cydweithio gyda thim Athrawon Bro Sir y Fflint ar y digwyddiad penodol yma.
Daeth yr ŵyl i ben ar y dydd Sul gyda gwasanaeth diolchgarwch, cyngerdd gan Jennifer Peglar a Bethan Jones, perfformwyr ifanc o'r ardal a Chymanfa Ganu yng Nghilcain gyda Trystan Lewis yn arwain ac eitemau gan y canwr ifanc Steffan Rhys Hughes.
Bu Clwb Camera Yr Wyddgrug yn cofnodi gweithgareddau'r Ŵyl gydol y pum niwrnod. Diolch i David Price a David Alien am eu cefnogaeth.
Eleni roedd yn bosib cynnal Gŵyl Fama gyda nawdd oddi wrth - Cadwyn Clwyd, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cynllun Partneriaeth Gweithredu Cymunedol Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, Mudiad Ysgolion Meithrin, Menter laith Sir y Fflint, Yr Academi , Siop y Siswrn a'r Royal Bank of Scotland.
'Rydym yn ddiolchgar i'n holl noddwyr ac yn hynod falch bod cymaint o bobl wedi cefnogi'r digwyddiadau,' meddai David Martin "Mae hon yn sail arbennig i ddechrau cynllunio ar gyfer Gŵyl Fama 2008'.
Os hoffech fwy o wybodaeth am Ŵyl Fama mae croeso i chi gysylltu a ni ar, 01352 754212 neu ewch i'n gwefan, Gŵyl Fama
Gŵyl Fama ar y BBC