Cododd dros £600 o nawdd i Blaid Cymru yn Etholaeth Delyn.Cerddodd Phil eto eleni i goffáu'r Tywysog, y tro yma cylchdaith o 60 milltir o gwmpas Delyn, gyda'i ddarpar fab yng nghyfraith Brendan Burnett yn gwmni iddo bob cam o'r ffordd.
Cychwynodd y ddau ar ddydd Gwener 13eg Medi o Dafarn Owain Glyndŵr, Gwernymynydd, gan ymweld â Choed-llai, Mynydd Isa, Northop Hall a'r Fflint, a gorffen yn Nhreffynnon.
Roedd y daith yn cael ei chysylltu'r diwrnod hwnnw ag achos gweithwyr Friction Dynamex, Caernarfon sydd ar streic ers 18 mis.
Casglu enwau ar ddeiseb
Bu Keith a Mary Roberts a Nancy Clavering yn casglu enwau ar ddeiseb o gefnogaeth sydd yn mynd i gael ei chyflwyno i'r Senedd, tra roedd y Cynghorydd Guy Roberts, Treffynnon, a Paul Rowlinson (darpar ymgeisydd Plaid Cymru yn Nelyn) yn cyhoeddi'r neges ar y corn siarad.
Croesawyd y cerddwyr yng Ngwesty'r Stamford ar ddiwedd y dydd gan aelodau'r Blaid yng Ngharmel a Threffynnon, dan arweiniad y Cynghorydd Sirol Gron Ellis.
Ar y dydd Sadwrn cafodd Phil a Brendan gwmni Tegwyn Thomas, Gorsedd, ar daith dywysedig ar hyd Dyffryn hanesyddol Maesglas.
Ymunodd Rebecca (dyweddi Brendan), Dafydd Griffiths o'r Wyddgrug a Heddys Parri o Garmel â'r ddau ar gyfer y daith y diwrnod hwnnw - ar hyd y glannau o Faesglas i Gronant a thrwy Lanasa i Drelawnyd.
Y noson honno croesawyd y cerddwyr a' u cefnogwyr i farbiciw yng nghartref Guy a Iona Roberts yn Nhreffynnon.
Codi arian i elusen plant
Ar y dydd Sul roedd Ritchie Smyth, tafarnwr yr Owain Glyndwr yn cynnal ei ail Wyl Glyndwr i godi arian i'r elusen plant lleol sef Miles of Smiles'. Cynhaliwyd cystadlaethau It's a Knockout a Tug of war a sawl gweithgaredd arall.
Y diwrnod hwnnw, cerddodd Phil, Brendan a Rebecca o Drelawnyd drwy Gaerwys ac Afonwen, dros Foel y Parc, Penycloddiau a Moel Arthur ac yna i lawr i Bant-y-buarth, Cadole a Gwernymynydd.
Ymunodd Moi Parri (Cadeirydd y Blaid yn Nelyn) a Paul Rowlinson â nhw yng Nghaerwys. O Afonwen ymlaen cafwyd cwmni Jennie, gwraig Phil (a Broch y ci) a'u mab-yng-nghyfraith Alan Spaven a'i fab Deri.
Cerddodd y Cynghorydd Chris Bailey, Treffynnon, a Twm a Medwen Williams, Bodelwyddan, Rhianwen (merch arall i Phil) a'i merch Tanwen y filltir olaf o Wernymynydd.
Croeso tywysogaidd
Roedd croeso tywysogaidd yn eu haros yn nhafarn Owain Glyndwr ar y diwedd gan fod llu o bobl yn dal i fwynhau'r Ŵyl.
Er nad oedden nhw'n gallu cadw cwmni i Phil a'i griw, roedd Eirian Conlon a'i merched Fflur Niamh a Ciara yn benderfynol o wneud eu rhan, gan geisio nawdd am eu taith annibynnol ar hyd y filltir olaf.
'Un canlyniad pwysig i mi', meddai Phil wrth fwynhau pryd blasus yn nhafarn Owain Glyndwr ar y diwedd, 'oedd dod i 'nabod llawer o'm cyd-aelodau' n well drwy gyd-gerdded â nhw a thrwy ymlacio yn eu cwmni wedyn.' Cafodd gyfle i ddiolch i bawb a fu'n helpu, yn arbennig i Keith a Mary Roberts, a drefnodd y cyfan.
Erthygl gan Philip Lloyd