BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Andrew Williams2004, blwyddyn arbennig iawn
Ionawr 2005
Mae'n siwr bod gennych ambell ddigwyddiad yn 2004 fydd yn aros yn hir yn y cof, am byth efalIai.

Mi fydd gen i, oherwydd i rywun arall gael profiad bythgofiadwy y llynedd. Ces i gyfle i siarad ag Andrew Williams, sy'n byw yn Rhif 3, Y Clos, Yr Wyddgrug. Mab Kathleen Williams, sy'n athrawes yn Ysgol Bryn Coch a Bernard Williams, oedd yn gweithio i Gyngor Sir y Fflint ond sydd bellach yn Swyddog Datblygu i'r Gymdeithas Syndrom Downes (Gogledd Cymru) ydy Andrew ac mae ganddo frawd o'r enw Neil Williams sy'n athro yn Ysgol Maesglas, Treffynnon.

Mae Andrew yn dair ar hugain oed rwan. Mae o' n berson arbennig i'w deulu ond ar ôl cael sgwrs ag o ychydig cyn y Nadolig daeth yn berson arbennig i minnau hefyd.

O'i gadair olwyn a chyda chymorth ei dad a'i fam cefais dipyn o hanes blwyddyn arbennig yn ei hanes, sef 2004.

Ym Medi y lIynedd roedd Andrew yn cynrychioli Prydain yn y Chwaraeon Paraolympaidd yn Athens yn y gystadleuaeth taflu pwysau. Daeth Andrew o fewn trwch blewyn i ennill medal gan iddo ddod yn bedwerydd (yn y byd).

Holais sut y daeth i fod yno ac fel hyn y bu.

Yn ôl yn 1993 aeth i Glwb Chwaraeon i'r Anabl yn Nelyn a Glannau Dyfrdwy lIe dechreuodd ymddiddori mewn ambell sbort. Cafodd wahoddiad i gynrychioli Cymru yn y Gemau i rai Iau yn Blackpool pan oedd yn dair ar ddeg oed, lIe daeth yn giamster ar daflu bag ffa dros bolyn y naid polyn. Drwy'r cynllun Dreigiau Ifainc (Young Dragons) daeth i sylw Anthony Hughes awgrymodd ei fod yn rhoi cynnig ar daflu cIwb, yn y dull taflu dros ei ysgwydd.

Pan ddaeth yn un ar bymtheg oed roedd yn ddigon cryf i daflu'r pwysau oedd yn pwyso 2 cilo. Ar daflu, boed bwysau, discus neu glwb y mae Andrevv yn canolbwyntio.

Wel meddwn i mae dipyn o waith cael eich dewis i gynrychioli, nid yn unig Cymru mewn cystadleuaeth ond Prydain hefyd. Sut cest ti dy ddewis i fynd i Athens?

Roedd gan Andrew tan fis Mai 2004 i gwrdd â'r safon i gymhwyso. Bu'n waith caled iddo, gan fod rhaid iddo fod ar ei orau ym Mai ac roedd gofyn iddo fod ar ei orau eto yn Awst a Medi, os cai ei ddewis. Aeth i Lanzarote gyda sgwad Cymru ym Mawrth ac i Cyprus gydag Athletwyr Prydain yn Ebrill. Yn y gystadleuaeth ym Mhencampwriaethau Paraolympaidd Agored Gwlad Belg, y nod yn Nosbarth 32 yn y taflu pwysau oedd 6.05 metr. Taflodd Andrew 6.48 metr ac ychydig yn ddiweddarach ym Mirmingham ym Mhencampwriaeth Agored Prydain taflodd 6.35 metr, eto o fewn y gofynion. Roedd bellach gobaith iddo fynd i Athen ond bu'n rhaid iddo aros tan Mehefin i'r lIythyr holl bwysig gyrraedd ei gartref yn dweud ei fod yn sgwad Prydain.

Roedd y gystadleuaeth yn un galed ond roedd yn un o'r 24 o'r athletwyr o Gymru oedd yn sgwad Prydain oedd yn rhif 96.

Bu'n rhaid i Andrew weithio'n galed iawn o Fehefin ymlaen er mwyn bod ar ei orau yn Athen ym Medi. Mynychai Gaerdydd yn rheolaidd i weithio gyda'r athletwyr eraill o Brydain yn arbennig felIy Tanni Grey Thompson. Bu bod yn un o'r 4,000 a throsodd o gystadleuwyr o dros 200 o wledydd yn brofiad bythgofiadwy iddo ac roedd gwisgo lifrai coch, glas a gwyn tîm Prydain wedi rhoi baIchder mawr iddo.

Un stori fach am yr amser yn y pentref i athletwyr oedd hon. Roedd ei dad yn teithio o'r gwesty lIe roedd o a Kathleen yn aros a hynny gyda bws a thrên, cyn cyrraedd y parth rhyngwladol. Yno roedd rhaid i Bernard ffonio Andrew iddo ddod i'w nôl. Un diwrnod methodd ei dad a chael Andrew i ateb ei alwad ar ei ffôn symudol a theimlai'n rhwystredig iawn. Yn y diwedd ffoniodd Andrew gan egluro ei fod wedi troi ei ffôn i ffwrdd, am ei fod yng nghanol sgwrs gyda'r Tywysog Edward, oedd wedi gaIw yn y pentref.

Fu gweddilI y flwyddyn ddim yn dawel i Andrew, ar ôl dychwelyd o Athens gan iddo fynd i sawl achlysur - e.e. Rhaglen Personoliaeth Chwaraeon Cymru, a enillwyd gan Tanni Gray Thompson; Stadiwm y Mileniwm, pan gafodd o a'i gyd-athletwyr eu cyflwyno i' r dorf hanner amser yn y gêm rygbi rhwng Cymru a Rwmania; taith i Balas Buckingham i gyfarfod â'r Frenhines yn yr Hydref a chyfarfod â Rhodri Morgan.

A ninnau belIach yn 2005 holais beth fydd hanes Andrew eleni?

Mae dwy gystadleuaeth ar y gorwel, un yn America a'r lIalI yn y Ffindir. Mae'n cael ei noddi'n rhannol gan brojectau fel 'Elite Cymru' fel rhan o Gyngor Chwaraeon Cymru a chan gronfa gan Athletau Prydain (yr olaf oherwydd iddo gyrraedd safon byd yn ei berfformiadau) ond mae'n rhaid iddo a'i deulu godi lIawer o arian hefyd i gynnal ei raglen.

Os gwelwch chi o a'i dad yn ymarfer, boed ar gaeau Ysgol Bryn Coch, y gampfa ym MwcIe, y ganolfan dan do newydd yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy, Caerdydd neu Loughborough ewch ato i'w longyfarch ac i ddymuno'n dda iddo.

O ie, mae Andrew' n chwarae Hen Wlad fy Nhadau a Gwŷr Harlech ar ei beiriant CD cyn cystadlu.

Boed i dân y Ddraig Goch ei ysbrydoli i gyrraedd ei nod o daflu'r pwysau dros 7.0 metr. Dymunwn ni, ddarlIenwyr 'Papur Fama' bob IIwyddiant iddo i'r dyfodol. Gobeithio y cawn gofnodi IIwyddiannau pelIach un o fechgyn Yr Wyddgrug yn ein colofnau yn ystod 2005 a lIawer blwyddyn araIl.

Dafydd Williams yn sgwrsio ag Andrew Williams.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy