| Derbyniwyd gwahoddiad ar gais yr Urdd i ymuno yng Nghôr Unedig Aelwydydd Talaith y Gogledd i gymeryd rhan mewn cyngerdd i godi arian at Dŷ Gobaith. Ac felly i ffwrdd ag wyth ohonom i Gorwen, ar ôl ymarfer neu ddau i ymuno â chantorion o Aelwydydd Abergele, Bro Cernyw, Bro Gwerfyl, Chwilog, Gwrthern, Penllys, Llanuwchllyn, Llangwm, heb anghofio ein cyfeillion newydd o Aelwyd yr Ynys. Gyda thros 200 o leisiau roedd hi' n dipyn o wefr cael cynrychioli ein cornel fach ni o ogledd Cymru ar y llwyfan yna! Roedd hi' n gyngerdd arbennig gyda pherfformiadau gan Hogiau'r Wyddfa, y Ffarmwr Ffowc, yr unawdydd John Eifion, ac Elin Fflur a'i Band. Perlau'r noson oedd clywed Owain Llwyd yn perfformio 'Rhapsody Dyfrdwy' ar y piano, darn a oedd wedi ei gyfansoddi yn arbennig ar gyfer y noson, a pherfformiad bywiog Dewi Ellis Jones ar y marimba (xylophone enfawr i chi a fi!) Ond wrth gwrs, uchafbwynt y noson oedd y Côr i gyfeiliant yr hynod dalentog Annette Bryn Parry a than arweiniad Geraint Roberts (Dirprwy Brifathro Ysgol Emrys ap lwan, Abergele). Yng ngeiriau'r Côr, dyma sut brofiad oedd hi: Rhian Davies: "Roedd hi'n brofiad bythgofiadwy cael bod yn rhan o noson o' r fath. Ro'n i wedi gwirioni gymaint erbynyr encore wnes i anghofio'r geiriau yn llwyr!" Sian Meirion Hay: "Roedd o'n anrhydedd cael bod yn rhan o gôr mor fawr, efallai mai dyma'r cyfle olaf caf i, gan fod oedran yn dal fyny hefo fi!" Hafwen: "Roedd hi'n dda cael bod mewn côr mor fawr o leisiau ifainc, a chyfle i wneud ffrindiau newydd." Rebecca: "Roedd yr arweinydd yn ysbrydoliaeth i'r côr ac 'roedd hi'n braf cael cynrychioli y rhan yma o Ogledd Cymru"
 |