BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Cinio CaruGwledd o Ferched
Gorffennaf 2005
Diwedd y flwyddyn diwethaf cefais alwad ffôn yn swyddfa'r Fenter Iaith gan ymchwilydd o gwmni teledu Chwarel yng Nghricieth.
Gofynnwyd i ni holi pobl sengl yr ardal os hoffent gymryd rhan yn y sioe ddêtio Cinio Caru. Wedi wythnos o holi pob person sengl yr ochr yma i glawdd Offa, yr ateb arferol oedd "No Way" neu "Mae gen i ormod o gywilydd".

Felly pan ffoniais y cwmni yn ôl gyda'r newyddion drwg, meddyliais, pam ddim cynnig fy hun? Mae Dad wedi bod yn poeni ers blynyddoedd pryd y bydd yn Daid.

Yn fuan wedi i mi lenwi holiadur byr, cefais glywed fy mod wedi cael fy newis ar gyfer y sioe, a chefais dipyn o sioc pan glywais mai fi oedd yn cael dewis partner (roedd yn amlwg eu bod yn brin o Wŷr Bonheddig!)

Cafodd y rhaglen ei ffilmio yng ngwesty Morgans yn Abertawe, lle cefais bryd o fwyd gwahanol iawn. Tri chwrs, chwarter awr yr un, a phob cwrs gyda merch gwahanol (tipyn mwy blasus na speed dating!) Roedd rhaid ceisio anwybyddu'r pedwar camera oedd yn fy ngwynebu, a'r ffaith fod yna Seicolegydd drws nesaf oedd yn arbenigo mewn, ac yn dadansoddi iaith y corff. Duw â ŵyr beth oedd fy nghorff i'n ei gyfathrebu!

Chwarae teg iddynt, cefais ddau beint o gwrw cyn dechrau ffilmio, er mwyn helpu fi ymlacio, ac roedd digonedd o win ar gael gyda'r pryd, ac roedd hwnnw'n llifo'n gynt nag oedd yn iach.

Mae'n ddigon anodd cynnal sgwrs â dieithryn o flaen y camerâu, heb sôn am drio bwyta pryd yn daclus a heb wneud smonach o fy nghrys. Dywedodd un o'r criw wrthyf fod yna gamera o dan y bwrdd rhag ofn i fy nhraed gamymddwyn!

Y cwbl ddyweda i yw fod y dair ferch yn wahanol iawn, a'r sgwrs yn llifo'n haws gyda rhai na'r lleill. Gresyn na wnes i lyncu llyfr 'Canllawiau Rhamant' cyn y ffilmio!

Ar ôl dewis un o'r merched, cefais glywed gan y gyflwynwraig Ffion Dafis ein bod wedi ennill trip i Ferlin. Dwi ddim am sôn am y trip hwnnw, bydd rhaid i chi wylio'r rhaglen, ond does dim perygl y bydd Mam yn buddsoddi mewn het o unrhyw fath! Ga'i gymryd y cyfle hwn i ymddiheuro'n ddiffuant am safon fy jôcs a lefel fy hiwmor!

Mwynhewch y sioe!

Aled Cottle


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy