Mae cwrlo wedi bod yn hoff gêm yn yr Alban dros y canrifoedd. Roedd yn gêm Albanaidd yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae hanes cyntaf cwrlo yn yr Alban yn Abaty Paisley ym mis Chwefror 1541. Heriodd mynach yr abad i gystadlu i daflu cerrig dros y rhew. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd cwrlo yn cael ei chwarae trwy ganolbarth yr Alban. Gwnaeth beirdd o siroedd Lanark, Renfrew a Kirkcudbright ddathlu'r gêm mewn barddoniaeth. Roedd Robert Burns yn gwybod am y gêm hefyd. Gwnaeth rhai gweinidogion plwyf ganmol y gêm fel rhan o fywyd y plwyf. Roedd cwrlo'n brif ddifyrrwch yn y gaeaf, un rhan o'r plwyf yn cystadlu yn erbyn y llall neu yr holl blwyf yn erbyn plwyf arall. Erbyn 1830 roedd y gêm mor boblogaidd fel yn 1838 cafodd Clwb Cwrlo Mawr Caledonia ei sefydlu i reoli cwrlo. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg cafodd pob plwyf yn y wlad bwll cwrlo. Dechreuodd fy nhad chwarae cwrlo cyn yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ef feini cwrlo i chwarae ar Lyn Craufurdland ger Kilmarnock. Mi nes i chwarae am y tro cyntaf ar chwarel wedi rhewi ar Ddydd Calan yn 1963. Dw i'n cofio mynd efo fy nhad a'i ffrindiau i chwarel Trehearn, chwe milltir o 'nghartref. Ar ôl marcio'r rhew ac yfed 'dram' bach, dechreuodd y gêm. Sbort mawr. Pan ro'n i'n lanc ifanc mi nes i chwarae efo Clwb Cwrlo Stewarton Heather ar y llawr rhew yn Glasgow. Pan oeddem yn byw yn Hawick, mi nes i chwarae weithiau ar y llawr rhew yn Kelso. Rwan dw i'n chwarae efo'r Clwb Cwrlo 'Wheelies' yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, yn Y Fferi Isaf bob nos Lun rhwng mis Medi a mis Mawrth. Dechreuodd cwrlo cadair olwyn yn yr Alban yn 1999 ac yn Y Fferi Isaf yn 2003. Yn 2006 mi es i hefo tim Cymru i Glasgow ac yn 2008 i Prâg i chwarae yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth y Byd. Yn anffodus aethom ni ddim trwodd i'r pencampwriaeth yn Canada eleni. Dw i'n hoffi chwarae cwrlo a dw i'n falch iawn o chwarae dros Gymru.
 |