BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
LleweniGwanwyn yn Llewenni
Mai 2008
Wel mae hi'n Wanwyn o'r diwedd ac mae'n braf bod y tywydd yn dechrau cynhesu ar ôl gaeaf oer.
'Da ni wedi manteisio ar y tywydd gwlyb i wneud gwaith adnewyddu tu fewn i'r tŷ, ond roedd gwyntoedd cryf y gaeaf wedi creu dipyn o ddifrod i doeau'r adeiladau allanol.

Mae'r tŷ a'r adeiladau yma yn gradd II* felly mae hi'n gyfrifoldeb ac yn dipyn o her edrych ar ôl y cyfan ond mae'n dod yn ei flaen yn araf deg.

Mae hi'n amser prysur o'r flwyddyn rŵan, mae'r siop wedi ail-agor ers y Pasg felly dwi'n treulio dipyn o amser yn gwneud cacennau a chawl cartref. Hefyd mae angen cael trefn ar yr ardd i dyfu'r holl lysiau a ffrwythau ar gyfer y chytnis ar jams cartref.

Mae'r ieir ifanc wedi dechrau dodwy yn ddiweddar a'r ceiliog wedi dysgu sut i ddefnyddio ei lais, yn enwedig yn gynnar yn y bore! Mae'r moch bach (roedd eu llun yn y papur fis Rhagfyr diwethaf) wedi tyfu dipyn ond maent yr un mor ddel. Roeddent mewn sgubor dros y gaeaf yn mwynhau moethusrwydd y lamp gwres pwrpasol ond maent allan erbyn hyn yn mwynhau tyllu yn y cae.

Mae moch wedi cael llawer o sylw yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd bod cost eu bwydo wedi codi'n aruthrol ac mae llawer o ffermwyr wedi rhoi'r gorau i gadw moch. Da ni newydd hau ŷd yn un o'r caeau i helpu eu bwydo yn y dyfodol.

Ar ôl yr holl waith o adnewyddu'r hen sgubor mae'n braf ei weld yn cael defnydd erbyn hyn i gynnal partïon pen-blwydd, priodasau, nosweithiau codi pres i elusennau a twmpathau dawns (cawsom dipyn o hwyl yn yr un diwethaf!)

Tan y tro nesa.

Catrin Evans

Rysait Cawl Cenin a Broccoli
Mae llwyth o frocoli porffor (purple sprouting broccoli) yn tyfu yn yr ardd ar hyn o bryd a da ni wedi bod yn ei fwyta bron bob dydd ers rhyw dau fis! 'Dwi wedi dod o hyd i'r rysáit isod ar gyfer cawl cennin a broccoli ac mae o'n andros o flasus. Does dim byd gwell na bowlen mawr o gawl cartref a darn o fasa ffres i lenwi cornel.

Cynhwysion:

i 4 person

50g (20z) o fenyn
2 taten (wedi'u torri mewn ciwbs bach)
3 cenhinen (wedi'u torri'n fan)
845ml (Peint a hanner) o stoc llysiau 200g (70z) o frocoli
200ml (7 fl.oz) o laeth
Halen a pupur

Toddwch hanner y menyn mewn sosban, ychwanegwch y tatws a 2 cenhinen. Rhowch glawr ar y sosban a'i goginio am 10 munud nes eu bod yn feddal.

Ychwanegwch y stoc, fel mae popeth ar fin berwi rhowch ar dymheredd is am 15 munud.

Ychwanegwch y brocoli a'i goginio am 8-10 munud nes ei fod yn dyner. Defnyddiwch 'blender' i gymysgu'r cyfan.

Rhowch y llaeth i fewn ynghyd a halen a pupur a'i gynhesu eto. Toddwch y menyn sydd ar ôl, ychwanegwch gweddill y cennin a'u ffrio nes eu bod wedi carameleiddio. Wrth weini, rhowch y cennin yma ar y cawl.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy