Yng ngwanwyn y flwyddyn honno, bu'r côr (a minnau fel aelod ohono) o dan arweiniad Mr Rhys Jones, yn paratoi nifer o ganeuon traddodiadol yr Ariannin. Dysgwn hefyd Anthem Genedlaethol yr Ariannin. Yn ogystal, roedd offerynwyr a'r parti dawnsio gwerin yn paratoi cyfres o ddawnsfeydd arbennig o'r wlad honno. Tybiwn i beth oedd yr holl ddysgu a pharatoi?
Cyn bo hir deallwn fod y Prifathro, Mr Elwyn Evans wedi cysylltu gyda Mrs Luned Roberts de Gonzalez, Prifathrawes Coleg Gamwy, yn y Gaiman ar y pryd. Ac i ddathlu canmlwyddiant sefydlu'r Cymry yn yr Ariannin, penderfynwyd rhannu diwylliant Cymreig ar ffilm gyda disgyblion y Gaiman.
Yr adeg hynny, dysgwn am Batagonia a'r bob! aeth o Gvmru i ymsefydlu yno deallwn hefyd mai o dan awdurdod llywodraeth yr Ariannin yr oeddent yn byw, a hynny oedd y rheswm i ddysgu Anthem Genedlaethol yr Ariannin.
Felly, anfonwyd ffilm i'r wlad bell gan glywed dim mwy amdano, serch hynny roedd y stori am y Cymry wedi codi diddordeb ynof am y lle. Ers hynny mae'r cwestiynau wedi aros yn fy ngof am yr Ysgol Gymreig yn y Wladfa - pwy a welodd y ffilm? Sut le oedd y Gaiman, a beth oedd hanes yr ysgol wedyn?
Gwireddu breuddwyd - ymweld â'r ysgol
Ym mis Tachwedd eleni, cefais wireddu fy mreuddwyd. Cefais i a'm gŵr Gareth Roberts ein gwadd i weld yr ysgol tra'r oeddem yn aros yn y Gaiman gyda'r teulu, yn ystod ein hymweliad â'r Wladfa. Roedd Mrs Luned Gonzalez ei hun yno i'n cyfarch ni, er ei bod hi bellach wedi ymddeol, ond mae hi'n dal i gymryd diddordeb mawr ac yn gweithio'n agos iawn gyda'r Brifathrawes bresennol.
Wel dyna anhygoel, cael cyfarfod ag aelodau o'r staff - gyda rhai ohonynt wedi dysgu Cymraeg eu hunain, ac yn bwrw ymlaen i ddysgu'r disgyblion. Gan ei bod yn amser chwarae cawsom siarad gyda rhai o'r disgyblion ar y buarth cyn i'r gloch ganu. Yna aethom i mewn at ddosbarth o blant oddeutu 13 oed oedd yn cael gwers Gymraeg. Diflannodd y blynyddoedd, a gwelais fy hun yn eu mysg yn dysgu tros-eiriau. Roedd y dwylo'n neidio i fyny gyda'r atebion yn frwdfrydig ac yn hyderus, a phob yn un gywir.
Yna, ar ôl cyfarch y dosbarth, cawsom olwg ar y llyfrgell Cymraeg - yn hen erbyn hyn ond dal yn werthfawr. Ar y wal roedd llun o'r Coleg a'i ddisgyblion pan sefydlwyd yr ysgol yn wreiddiol ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Ac yna o flaen y fynedfa, roedd desg ysgrifennu a roddwyd i'r ysgol gan y Prif Weinidog Lloyd George. Dychmygaf nad yw'r ysgol wedi newid llawer ers 1965.
Diolch yn fawr i bawb am eu croeso ac yn arbennig i Mrs Luned Gonzalez am ei hamser a charedigrwydd tu hwnt. Pob lwc i'r dyfodol, gan obeithio y cewch lawer mwy o flynyddoedd yn dysgu iaith ein cyndadau a mwy o ddisgyblion a fydd yn awyddus i ddysgu'r iaith.
Roberta Ingman Roberts