BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Athrawon ail-iaith yn gweld sefyllfa Gwlad y Basg yn debyg i GymruCymharu â Gwlad y Basg
Mai 2007
Aeth pedwar ar bymtheg o bobl o Ganolfannau Cymraeg i Oedolion ar ymweliad ag Euskadi - neu Wlad y Basg er mwyn astudio a chymharu eu dulliau dysgu a threfnu ym maes dysgu Basgeg i oedolion.
Ymhlith y pedwar ar bymtheg roedd 6 yn cynrychioli Canolfan Cymraeg i Oedolion ym Mangor.

Yn ffodus roedd dwy yn cynrychioli'r Wyddgrug sef Frances Jones o Popeth Cymraeg ac Eirian Conlon o Adran Dysgu Gydol Oes ym Mangor

Mae llawer yn gyffredin rhwng Gwlad y Basg a Chymru fel yr ydych eisioes wedi clywed o bosib os ydych wedi gwrando ar raglen Bethan Gwanas ar Radio Cymru.

Mae ganddi boblogaeth o tua 3 miliwn ac o gwmpas 20% o'r boblogaeth yn siarad Basgeg/Cymraeg.

Ond o safbwynt buddsoddi yn yr iaith ac agweddau tuag ati, roedd byd o wahaniaeth.

Mae gan y corff sy'n gyfrifol am ddysgu g Basgeg i oedolion (HABE) gyllid o 41 miliwn o Ewros y flwyddyn (tua £27,800,000), swm oedd yn gwneud i ni fod yn hynod o eiddigeddus.

Mae'r ysgolion Basgeg i Oedolion yn niferus iawn Mae'n arferol i ddysgu Basgeg i Oedolion am 10-19 awr yr wythnos (mae'n cyrsiau arferol ni yn cynnig 2 awr yr wythnos neu Wlpan fel arfer yn cynnig 5/6 awr yr wythnos).

Buom yn ymweld â gwersi Basgeg lle oedd athrawon wedi cael eu rhyddhau am y flwyddyn er mwyn dod yn rhugl yn yr iaith.

Erbyn hyn mae gostyngiad bach yn nifer yr oedolion (ifanc) sy'n dysgu'r iaith gan fod cymaint yn llwyddo i'w meistroli yn blant yn yr ysgolion.

Roedd cyfle yn ystod yr ymweliad i gwrdd â nifer o gynrychiolwyr o sefydliadau gwahanol yn ogystal â'r llywodraeth.

Roedd brwdfrydedd pawb a fuodd yn siarad â ni yn heintus. Roedd dau yn arbennig wedi creu cryn argraff arnon ni.

Un ohonynt oedd gwirfoddolwr oedd yn siarad â ni o fudiad Tatun.

Roedd y mudiad yma yn debyg o ran natur i'n mentrau iaith ni ond ar raddfa llawer mwy.

Roeddent yn gweithredu mewn tref ddim yn anhebyg i dref yr un maint a'r Wyddgrug ac yn cyflogi 120 o bobl.

Derbynient hanner eu pres mewn grantiau ond roeddent yn codi hanner y pres eu hunain trwy werthu eu gwasanaethau cynghori ac yn y blaen.

Roedd y mudiad hwn yn argraffu eu papur newydd eu hunain yn yr iaith Fasgeg ddwywaith yr wythnos, oedd yn cael ei ddosbarthu am ddim o gwmpas y dref.

Roedd y mudiad yma hefyd wedi prynu adeilad eu hunain.

Ar y lloriau uchaf oedd y swyddfeydd ond ar y llawr isaf roedd ganddynt bar/caffi i bobl y dref oedd bob amser efo staff oedd yn siarad Basg - esiampl i ni yn Yr Wyddgrug o bosib.

Bydd eisiau rhywle arnom i gymdeithasu ar ôl i holl weithgareddau'r Eisteddfod ddod i ben.

Mudiad arall a wnaeth gryn argraff arnom oedd yr AEK, mudiad sy'n dysgu Baseg yn y sector cyhoeddus.

Roedd brwdfrydedd Alberto yn siarad â ni yn heintus.

Clywsom am y dosbarthiadau a'r gweithgareddau a gynhaliwyd gan AEK.

Roedd un gweithgaredd yn digwydd tra roeddem yng Ngwlad y Basg sed ras y Korrika.

Rhedir ras y Korrika bob yn ail flwyddyn i godi ymwybyddiaeth at yr iaith yn ogystal â chodi pres at yr achos.

Mae'r rhedwyr yn talu neu cael eu noddi i redeg mesul kilometr a mae'r ras yn digwydd dydd a nos dros gyfnod o bythefnos trwy lawer o drefi a phentrefi Gwlad y Basg.

Mae un o'r rhedwyr yn cario baton i symbylu'r iaith yn cael ei phasio o berson i berson ac y tu mewn i'r baton mae neges gan fardd neu lenor enwog.

Cafwyd blas ar ddysgu'r iaith Fasgeg mewn gwersi bob bore ac yn sicr roeddem yn medru cydymdeimlo â'n dysgwyr ni ar ôl y profiad yna.

Braf oedd cael blas ar yr iaith er mae'n debyg nad ydy'n debyg i unrhyw un o ieithoedd Ewrop.

Mae hwythau hefyd yn hawlio mai eu hiaith hwy yw'r hynaf yn Ewrop er bod y lliain sychu llestri a roddom ni iddyn nhw yn honni mai ganddom ni oedd yr iaith hyna yn Ewrop!

Cawsom wersi Basgeg ar-lein, datblygiad cyffrous arall.

Aeth criw i ymweld â chanolfan breswyl i ddysgu Basgeg i oedolion (a'r mwyafrif helaeth o ddysgwyr yno yn oedolion ifanc) a chriw arall i Sefydliad Elhuyar sy'n cysylltu Basgeg efo'r byd gwyddonol a thechnolegol.

Yn sicr mae gwersi i ddysgu yma ym myd technoleg.

Mae'n ymddangos eu bod ymhell ar y blaen yn y byd cyfrifiadurol trwy gyfrwng Basgeg.

Er bod ambell her o hyd yng Ngwlad y Basg - yn enwedig o ran sicrhau hod pobl yn defnyddio'r iaith yn y gymuned - roedd yn ysbrydoliaeth fod yn rhan o'r brwdfrydedd heintus sydd yno.

Roeddem i gyd wedi elwa ac yn ddiolchgar iawn i HABE am y croeso a gawsom. Eskerrik asko - diolch yn fawr i bawb.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy