Mae'r pwyllgor wedi bod yn gweithio'n galed iawn dros' y misoedd diwethaf a bydd llond bws o St Gregoire (sef gefeilldref Treffynnon) yn dod â 2 tîm dawnsio a Bagad o 15 o gerddorion. Hefyd fel arfer, bydd Dawnswyr Delyn a dawnswyr Cymreig o ledled Cymru yn ymuno â ni trwy'r penwythnos a bydd dros 20 o blant lleol yn gorymdeithio trwy Stryd Fawr Treffynnon am 10.15am bore dydd Sadwrn 29 Ebrill yn dawnsio'r Cadi Ha i ddechrau'r hwyl. Yn gyntaf, bydd noson lawen a thwmpath yn y Springfield gyda Dawnswyr Delyn, Ieuan ap Sion ac eraill a'r Llydawyr i orffen y noson.
Ar y dydd Sadwrn, bydd y plant yn dechrau'r hwyl gyda gorymdaith y Cadi
Ha yn Nhreffynnon a bydd y Bagad hefyd yn gorymdeithio trwy'r Stryd Fawr. Bydd dawnsio gan blant o ysgolion cynradd lleol ac oedolion o Gymru a Llydaw tan 12.30pm pan fydd yr oedolion yn mynd i'r Stamford Gate am bwffe, sesiwn cerddoriaeth a dawnsio cyn mynd i Ddyffryn Maesglas i ddawnsio yn yr Abaty a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maesglas ganol y prynhawn.
Bydd twmpath ar y nos Sadwrn yn Neuadd yr Eglwys, Stryd y Brenin, Yr Wyddgrug gyda bwyd, bar a llawer o hwyl y Fest Noz gyda'n gwesteion o Lydaw.
I gloi'r penwythnos, byddwn ym mharc gwledig Loggerheads am 11.00am ar y bore Sul cyn i'r Llydawyr fynd yn ôl gartref.
Mae'r ŵyl wedi bod yn llawer o waith trefnu, ond dwi'n ddiolchgar i bawb ar y pwyllgor, pawb sydd wedi cynnig llety am ddim i'r criw o Lydaw, staff Menter Iaith Sir y Fflint a phawb sydd wedi cyfrannu'n hael fel Cyngor Tref Treffynnon a threfnwyr cyngerdd Gŵyl Ddewi yn Theatr Clwyd.
Ond yn olaf - DEWCH YN LLU - bydd hi'n benwythnos i'w chofio!
DYDDIADUR CADI HA
Nos Wener, 28 Ebrill
Noson Lawen a Thwmpath Gŵyl Cadi yn y Springfield, Pentre Helygain, ger Treffynnon am 8 o'r gloch efo Ieuan ap Sion, 3 grŵp o St. Gregoire, Llydaw, Dawnswyr Delyn a llawer mwy.
Dydd Sadwrn, 29 Ebrill
Gŵyl Cadi Ha: 10.15 yb - Gorymdaith Bagad (o Lydaw) a llawer o gyd-ddawnsio gan blant lleol ac oedolion o ledled Cymru a Llydaw - tan 12.30 yh.
2.30 yp - Dawnsio Cymreig a Llydaweg ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maesglas (a'r Abaty Dinas Basing).
7.30 yh - Twmpath yn Neuadd yr Eglwys, Stryd y Brenin, Yr Wyddgrug efo Dawnswyr Delyn, 2 grŵp dawnsio a Bagad o St. Gregoire, Llydaw ac eraill (yn cynnwys bwyd).
Dydd Sul, 30 Ebrill
11 yb - Parc Gwledig Loggerheads, Dawnsio Llydaweg a Chymreig gan Dawnswyr Delyn a chyfeillion o ledled Cymru Llydaw.