Darlledir pob rhaglen o amgylch y byd, gyda chynulleidfaoedd yn Siapan, Canada a Seland Newydd. Yn ddiau, dyma un o'r rhaglenni sydd yn neg uchaf rhaglenni ffeithiol y BBC, ac mae hi yn rhyw drysor cenedlaethol erbyn hyn. Cychwynnodd y sioe yn 1977 pan ymwelodd criw teledu lleol ag un o'r tai ocsiwn yng Ngorllewin Lloegr oedd yn cynnal diwrnod o brisio gwahanol eitemau. Deorwyd syniad am raglen newydd o hyn ac esblygodd o fod yn gyfres o chwe rhaglen hanner awr i fod yn gyfres o chwe rhaglen ar hugain yn para tri chwarter awr yr un. Mae hi bellach ar ei chweched cyfres ar hugain.
Fel un o'r dilynwyr selog, nid yr hen greiriau eu hunain sydd yn mynd â mryd i fel y cyfryw, ond y rhan lle mae gwerth yn cael ei roi ar wahanol eitemau, ac mi rydw i yn arbennig o hoff o wylio ymateb y perchennog i hynny, boed yn syndod llwyr, yn sioc neu yn siom.
Efallai y cofiwch hanes y casglwr pethau arian oedd yn cadw ei ddarnau mewn bocsus esgidiau o dan ei wely, roedd y casgliad werth tua £100,000. Neu efallai fe gofiwch am y ddau hen gomic Dandy a Beano oedd werth £7,000. Neu efallai y cofiwch y stori am yr argraffiad cyntaf o stori Beatrix Potter ddaethwyd o hyd iddo mewn ystafell foilar, oedd werth oddeutu £25,000.
Antiques Roadshow ym Mhortmeirion
Bu sioe deithiol yr 'Antiques Roadshow',yn ymweld â phentref Portmeirion ar ddydd Mercher y 12fed o Fai, 2004 rhwng 9.30 y bore a 4.30 y prynhawn. Dywed Cynhyrchydd y gyfres Simon Shaw,"Fel arfer rydan ni'n gweld tua 1500 o bobol y diwrnod ar y Sioe Deithio. Ar ddiwrnodiau arbennig iawn rydan ni'n gweld llawer mwy a bydd ein harbenigwyr yn asesu rai miloedd o eitemau rhyngddynt".
Mae'r Roadshow yn ddigwyddiad anfasnachol ac ni chodir tâl am y cyngor a'r wybodaeth a roddir. Doedd dim rhaid talu i fynd i'r pentref ar y diwrnod yma chwaith.
Roedd rhai o arbenigwyr pennaf gwledydd Prydain ar gaei i roi cyngor am ddim ar werth bob math o hen ddodrefn, arian, creiriau a chelf gain a Michael Aspel, sydd wedi cyflwyno'r Sioe Deithiol dros y bediar blynedd ddiwethaf yng nghanol yr arbenigwyr. "Mae'r Antiques Roadshow yn drysor cenedlaethol ynddi ei hun," meddai Michael Aspel. "Mae hi'n stori dditectif, yn sioe chwarae ac yn wers hanes."
Wnes i ddim amgyffred poblogrwydd gwirioneddol y sioe na pha mor bell oedd pobl yn barod i deithio i weld y rhaglen yn cael ei recordio.
Yn wir, mae rhai o ddilynwyr y rhaglen yn ceisio mynychu pob lleoliad lle y ffilmir y rhaglen, hyd yn oed pan mae'r rhaglen yn mynd dramor!
Gorfod ciwio
Doedd mam a minne ddim yn siwr pryd tasai'r adeg gorau i gyrraedd, felly dyma gychwyn o'r Wyddgrug yn weddol blygeiniol ac erbyn i ni gyrraedd Maentwrog, roedden wedi disgwyl gweld ciw yn aros i droi am Bortmeirion - ond nid felly y bu a distaw iawn oedd hi a dweud y gwir.
Wrth y fynedfa, dosbarthwyd pob eitem a rhoi tocyn i'r perchennog, ac wedyn dyma ddechrau'r ciwio - ciw ar gyfer crochenwaith, un arall i luniau, un arall i dlysau a gemwaith, un arall i ddodrefn, un i arian, un i glociau a watsys, ac un arall i lyfrau.
Does dim modd osgoi'r ciws, sydd yn pwysleisio poblogrwydd y rhaglen, ond doedden nhw ddim yn hir iawn ac roedd cymaint yn mynd ymlaen o'n cwmpas nes bod ciwio yn beth reit ddifyr.
Wrth giwio, mi welais y criw yn ffilmio dyn oedd wedi dod â llu o bysgod wedi eu stwffio mewn tanciau efo to - hyll a di-ffansi meddyliais inne, gwerth £10,000 i £15,000 meddai'r arbenigwr! Mi gawsom ddiwrnod hyfryd a'r haul yn tywynnu'n gynnes braf.
Roedd hi'n brofiad gwych gweld y rhaglen yn cael ei ffilmio, cael rhwbio ysgwyddau gyda'r arbenigwyr yr oeddwn wedi eu gweld droeon ar y teledu - Henry Sandon, Paul Atterbury, Eric Knowles a Lars Tharp. Ac mi gefais dynnu fy llun efo Michael Aspel!
10,000 o eitemau
Ar ddiwrnod arferol, mae'r tîm yn amcangyfrif eu bod yn gweld 10,000 neu fwy o eitemau rhyngddynt, gyda gwerth cyfartal o tua £50 yr eitem.
Os ydi arbenigwr yn tybio bod eitem arbennig yn werth ei ffilmio, unai os ydi o'n werthfawr, yn anarferol neu yn eitem ffug da, bydd yn gofyn i'r perchennog a fuasai o/hi yn fodlon ffilmio'r sgwrs - dydi'r perchennog ddim yn cael unrhyw wybodaeth pellach o gwbl nac yn derbyn unrhyw syniad o beth sydd gan yr arbenigwr i'w ddweud, nag ychwaith werth yr eitem. Wir yr!
Os ydi'r eitem yn un bach sydd ddim angen ffilmio trwyadl, mae uned un camera yn cael ei alw a bydd y ffilmio yn cymeryd rhyw ddeng munud.
Mi welson ni hyn yn digwydd o flaen ein trwynau, ac i rywun yr oedden yn ei hadnabod hefyd. Am gyfnod byr iawn, bu Miss Jones yn gyn athrawes arna i yn ysgol bach Abersoch. (Efallai bydd selogion yr Eisteddfod Genedlaethol yn ei hadnabod fel Margaret Jones, un o stiwardiaid ffyddlon yr Wyl). Roedd Miss Jones wedi talu £l.00 am lyfr o gerddoriaeth sol-ffa gan y cyfansoddwr Elgar.
Doedd Clive Farahar, yr arbennigwr ddim yn rhy bles fod tudalen flaen y llyfr wedi ei ddal at ei gilydd efo tâp selo. Ond er cyflwr y llyfr, roedd Miss Jones wedi sylwi yn slei bach fod y llyfr wedi cael ei arwyddo gan Elgar ei hun. Wna i ddim dweud wrthych beth ydi diwedd y stori yma, na'r gwerth a roddwyd ar y llyfr, bydd rhaid i chi wylio'r gyfres nesaf o'r Antiques Roadshow i weld drosoch eich hunain.
Ugain o arbenigwyr
Mae tua ugain o arbenigwyr yn mynychu pob sioe ac mae eu gwybodaeth o'u meysydd yn anhygoel ac eang. Buom yn busnesu wrth y bwrdd gemwaith a phethau arian am hydoedd yn rhyfeddu at ymateb chwim yr arbenigwyr wrth brisio modrwyau a chadwynni.
Rhyfeddom at gwrteisi'r arbenigwyr wrth iddynt ddweud mewn ffordd bach neis, dro ar ôl tro, nad oedd modrwyau oedd yn werthfawr i'r perchennog, ddim wir yn werth rhyw lawer! Os ydi eitem yn un o brif eitemau rhaglen, mae angen tri chamera ac nid un.
Mae'r un o'r rheolwyr recordio yn bwcio amser penodol ar gyfer y ffilmio a chan fod cryn oedi rhwng darganfod yr eitem a'r ffilmio, mae'r eitem yn cael ei roi dan glo ac mae'r perchennog yn cael aros mewn ystafell aros.
Mae ambell berchennog yn gofyn am gael mynd adref i newid ac weithiau hyd yn oed gwneud eu gwalltiau. Mae'r cyfweliad mor naturiol â phosibl ac yn anaml iawn y bydd yr arbenigwr yn cael ei stopio tra'i fod yn siarad gyda'r perchennog.
Clywais un arbenigwr yn dweud nad oedd yr Antiques Roadshow wedi dod o hyd i fawr ddim gwerthfawr ar eu taith i Bortmeirion ond roeddynt yn sicr wedi eu plesio gan y lleoliad hyfryd, y tywydd gogoneddus a'r bobl glên a hawddgar.
Do, mi fu mam a minnau wrthi yn chwilota yn yr atig ac yng nghefn cypyrddau i weld a oedd unrhyw beth addas, yn hen drysorau neu greiriau teuluol yn llechu yno.
A chyn i chi ofyn, na, doedd gan mam na minnau ddim o werth yn anffodus, a na, welwch chi ddim ohonann ni yn mynegi ein anghygrededd am werth anhygoel ein creiriau ni ar y teledu!
Gwyliwch allan am y gyfres nesaf o'r Antiques Roadshow felly - bydd hi yn cael ei darlledu rhwng mis Medi 2004 a mis Ebrill 2005 ac yn ôl a ddeallaf, bydd y rhifyn o Bortmeirion yn cael ei darlledu ym mis Ionawr.