Merch fferm o Lanpumpsaint, Sir Gaerfyrddin oedd Jennie Eirian a phriod y Parchedig J.Eirian Davies, fu'n weinidog yn Yr Wyddgrug am ddwy flynedd ar bymtheg. Cafodd Mrs Davies fywyd prysur iawn yn gwleidydda, yn pregethu, yn darlithio, yn cynadledda, yn siarad ar y radio, yn golygu a llawer mwy. Ar ben y cyfan, cadwodd aelwyd gynnes a hapus i Eirian a'u meibion, Sion a Guto.
Bu farw ar y 6ed o Fai, 1982, ac erbyn hyn, mae yna do o bobl ifanc na chafodd fantais o fod o dan ddylanwad y ddynes weithgar, dalentog hon. Dymuniad ei theulu oedd cyflwyno Gwobr Flynyddol er cof amdani, i bobl sydd wedi gwneud cyfraniad i hybu defnydd y Gymraeg ac i hyrwyddo'r bywyd Cymraeg yn nhalgylch Papur Fama
Sian Meirion
Eleni, cyflwynodd Pwyllgor Papur Fama yr anrhydedd i Sian Meirion. Dyma fraslun o gefndir Sian, fel y'i cyflwynwyd yn y cyngerdd dathlu gan Gadeirydd Pwyllgor Papur Fama, Charles Hogg.
Mae Sian yn ferch i Dafydd Meirion a Sera ac mae talent cerddorol amlwg ar y ddwy ochr- Sera wrth gwrs yn cyfansoddi ac yn chwarae'r piano a'r gitâr a chysylltiad cerddorol Dafydd ydi iddo fod yn yr ysgol efo John Lennon!
Ymddangosodd Sian ar y llwyfan am y tro cyntaf yn Eisteddfod Treuddyn, yn canu "Mynd drot drot ar y gaseg wen" yng nghystadleuaeth yr unawd o dan 5 oed.
Ar ôl derbyn ei haddysg yn Ysgol Glanyrafon ac Ysgol Maes Garmon, aeth i Brifysgol Leeds (Coleg Bretton Hall) gan ennill gradd Anrhydedd mewn Cerddoriaeth. Yna, bu'n gerddor i Gwmni Arad Goch am gyfnod, gan deithio yng Nghymru, Canada a chyfandir Ewrop.
Erbyn hyn, mae hi'n athrawes soddgrwth rhan amser o amgylch ysgolion ac hefyd yn dysgu'r piano a'r soddgrwth yn breifat. Mae Sian yn Ysgrifennydd Pwyllgor Cerdd Eisteddfod Sir Fflint 2007.
Tua chwe mlynedd yn ôl, sefydlwyd Côr y Pentan. Bryn a Sian ddaeth a chriw o bobl ifanc, oedd yn awyddus i ganu mewn côr, at ei gilydd a bu cydweithrediad hapus rhwng Sian a Bryn ar y fenter newydd. Mae'r côr yn cefnogi Eisteddfodau lleol yn ogystal a'r Genedlaethol. Maent hefyd yn diddanu cleifion a'r oedrannus yn ysbytai a chartrefi'r ardal, ac mewn nosweithiau gwerin, priodasau, oedfaeoedd a chyngherddau.
Cafwyd noson gwerth chweil ddiwedd Tachwedd yn dathlu cyfraniad Sian i fywyd Cymraeg y fro, a Sian ei hun oedd un o'r mwyaf prysur yn ystod y cyngerdd. Cawsom gip olwg ar Sian yr arweinyddes, Sian yr athrawes, Sian y gyfeilyddes a Sian y Cerddor, a braf iawn oedd gweld y teulu i gyd yn ei chefnogi. Diolch yn fawr i ti Sian am dy gyfraniad - dalia ati!