BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Y Cynulliad CenedlaetholOdyn newydd i Castle - newyddion da i Gymru
Mae gweithwyr yn un o brif weithfeydd cynhyrchu Cymru yn dathlu dyfodol tymor hir y gwaith a newyddion da i economi'r wlad.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi caniatâd i Castle Cement fwrw ymlaen gyda buddsoddi £48 miliwn mewn odyn newydd yn eu gwaith yn Padeswood ger Yr Wyddgrug.

Heb y datblygiad allweddol hwn, byddai'r gwaith yn y diwedd wedi gorfod cau. Byddai hyn wedi arwain at golli 218 o swyddi uniongyrchol a 400 o swyddi anuniongyrchol gyda chontractwyr a chyflenwyr.

Bydd y cwmni bellach yn gallu bwrw ymlaen gydag odyn newydd i wneud y gwaith yn un o'r rhai mwyaf effeithiol ac amgylcheddol iach yn y byd. Dylai'r adeiladu gymryd tua dwy flynedd ac ar ei anterth bydd hynny'n creu gwaith i dros 500 o bobl.

Cytundebau lleol

Mae'r cwmni'n amcangyfrif y bydd gwerth £12 miliwn o gytundebau'n cael eu gosod yn lleol ar gyfer llafur, offer a defnyddiau ar y safle adeiladu.

Bydd yr odyn newydd yn disodli'r hen odynau sydd yno gan leihau'r cyfanswm o gemegau sy'n mynd i'r awyr yn sylweddol. Bydd hyn yn gymorth mawr i gyflawni strategaethau Cymru o ran yr amgylchedd a gwastraff.

"Mae hyn yn newyddion ardderchog i'r cwmni, y gymuned, economi gogledd-ddwyrain Cymru a'r amgylchedd", meddai rheolwr cyffredinol Padeswood, Tony Allan.

"Rhaid i ni ddiolch am gefnogaeth wych ein gweithwyr teyrngar a'n partneriaid, yr undebau a mwyafrif llethol y gymuned leol. Rydym yn falch o allu talu'n ôl iddyn nhw gyda buddsoddiad a ddylai ddiogelu'r gwaith am flynyddoedd lawer."

Proses ddwys a hir

Mae'r odyn newydd wedi dod trwy broses ddwys a hir, gydag ymchwiliad cyhoeddus a holi manwl gan y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd y cynllun eisoes wedi cael cefnogaeth Cyngor Sir y Fflint ac arbenigwyr iechyd ac amgylchedd.

"Rydym yn falch iawn fod ymchwiliad annibynnol wedi edrych ar y cynllun a gweld ei werth i'r gymuned, i'r amgylchedd ac i economi Cymru," meddai Tony Allan.

"Mae gweithgynhyrchu yng Nghymru wedi dioddef yn ddrwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf; byddai colli Castle wedi bod yn drychinebus. Rydym wedi bod yn Padeswood ers mwy na 50 mlynedd, gan gynnig swyddi da tymor hir."

Bydd yr odyn newydd yn rhyddhau 75% yn llai o nwyon andwyol tra'n defnyddio ynni'n fwy effeithiol a gwneud defnydd glân o ddefnyddiau a fyddai fel arall yn gorfod mynd i gladdfeydd gwastraff. Un o brif amcanion Strategaeth Wastraff y Cynulliad Cenedlaethol yw gostwng y nifer o gladdfeydd gwastraff.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy