BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Enillydd Cyntaf Gwobr Jennie Eirian ar ei ffordd i Batagonia
Mawrth 2005
Dydd Mawrth 8fed o Fawrth 2005. Dyma ddiwrnod mawr a phwysig i Clare Whitehouse (Vaughan gynt).

Heddiw mae'r antur fawr yn dechrau fel mae hi'n hedfan o Faes Awyr Gatwick yr holl ffordd i Buenos Airies, Yr Ariannin. Wedyn mewn awyren llai ei maint i Drelew, Patagonia ac ymlaen wedyn i Esquel wrth droed yr Andes lle bydd Clare yn dysgu Cymraeg i'r brodorion o bob oed am y naw mis nesaf.

Yn cadw cwmni i Clare hyd at Trelew fydd Angharad Rowe o Abertawe fydd yn dysgu Cymraeg yn ardal Trelew. Fyddan nhw yn Y Wladfa dan nawdd Dolen Cymru Ariannin, Y Cyngor Brydeinig, Y Cynulltiad Genedlaethol a Phrifysgol Caerdydd sydd wedi noddi'r cynllun er 1997.

Er tyfodd Clare i fyny mewn cartref di Gymraeg, hi oedd enillydd cyntaf Tarian Goffa Jennie Eirian fel dysgwr y flwyddyn, tra yn ddisgybl yn Ysgol Castell Alun ym 1984.

O Gastell Alun aeth ymlaen i Brifysgol Aberystwyth ar gwrs gradd yn y Gymraeg i gan raddio ym 1986.

Wedi dilyn cwrs hyfforddi athrawon cafodd swydd fel athrawes 'nol yn ei hen ysgol am y ddeng mlynedd diwethaf Clare oedd Penaeth yr Adran Gymraeg.

Ond rhaid oedd iddi ymddiswyddo i gymryd y sialens o'r swydd yn Y Wladfa.

Dymuniadau gorau i Clare ar ei hymweliad i'r Wladfa. Edrychwn ymlaen at glywed hanesion difyr pan ddaw hi 'nol. .


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy