| Mae cwmni rhyngwladol yn helpu ysgol Gymraeg hanesyddol i ddathlu pen-blwydd arbennig....ac yn cyfrannu at ragor o ddatblygu.Castle Cement sy'n noddi rhai o'r prif ddigwyddiadau yn Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug, wrth iddi nodi 40 mlwyddiant ei sefydlu yn 1961.Hi oedd yr ail ysgol uwchradd ddwyieithog yng Nghymru gyfan. Codi adeilad newydd A heddiw, mae sment o waith y cwmni yn Padeswood yn cael ei ddefnyddio i godi adeiladau newydd yn yr ysgol sydd â 550 o ddisgyblion ac sydd wedi addysgu pobl adnabyddus fel yr actor Rhys Ifans, y darlledwr Gareth Glyn a'r barnwr a'r sylwebydd pêl-droed, Nic Parry. Mae Castle yn noddi bwffe a thwmpath dawns a diwrnod agored pan fydd yr AS lleol, David Hanson, yn rhan o seremoni fer i nodi'r pen-blwydd. "Rydym yn falch iawn o gefnogi dathliadau Ysgol Maes Garmon," meddai rheolwr cyffredinol Padeswood, Tony Allan. "Mewn ffyrdd gwahanol, rydyn ni ill dau yn gwneud cyfraniad sylweddol i Ogledd Ddwyrain Cymru." "Gan fod gwaith Padeswood yno ers mwy na 50 mlynedd, mae'n braf i ni weld sefydliad lleol arall yn dathlu ei ran yn un o gonglfeini bywyd Sir y Fflint." Cyn-ddisgyblion yn gweithio Mae nifer o gyn-ddisgyblion Ysgol Maes Garmon yn gweithio yn Padeswood, sy'n cyflogi mwy na 200 o bobl ac yn cynnal tua 400 o swyddi anuniongyrchol hefyd.Mae Castle yn ymfalchïo yn eu cefnogaeth i ysgolion lleol ac yn y gorffennol mae'r cwmni wedi helpu disgyblion Maes Garmon mewn prosiectau technolegol. "Rydym yn hynod o falch o gefnogaeth Castle," meddai prifathro Maes Garmon, Huw Alun Roberts, sydd hefyd yn gyn-ddisgybl ac a oedd yn un o'r ail flwyddyn o blant i ddod yno, yn ôl yn 1962. "Heb eu nawdd nhw, byddai rhai o'r dathliadau hyn yn anodd i'w cynnal" meddai wedyn. "Mae Castle wedi bod yn hael iawn."
 |