Glesni Alys (5 oed)
Dwi'n hoffi cwtcho lan gyda Dad a chlywed stori fach cyn cysgu. Fy hoff stori yw 'The Little Wooden Horse' gan Helen Moray Williams a hefyd 'Peter Rabbit' gan Beatrix Potter. Mae Nana wedi rhoi'r llyfrau i fi. Iestyn Hedd (8 oed)
Dwi'n ffeindio darllen yn anodd - ond dwi'n dwli ar glywed Mam yn darllen i fi bob nos. Dwi'n hoff iawn o Harry Potter achos mae'n gyffrous, a dwi byth yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd nesa'. Awen Myfanwy (12 oed)
Fy hoff lyfr ar hyn o bryd yw cyfres 'Mortal Engines' gan Philip Reeve: darllen llyfr da yw esgus bendigedig i aros yn y gwely dros y penwythnos! Darllen yw ffordd wych i ymlacio - ac i ddysgu. Dwi ddim yn hoffi gorffen llyfr achos dwi eisiau aros yn y stori, gyda'r cymeriadau. Jill (43 oed) Gall ddarllen i blentyn, ar ôl diwrnod hir o waith, fod yn brofiad blinedig ar adegau - ond ers i ni gychwyn ar gyfres Harry Potter gan J. K. Rowling dwi'n ysu i ddarllen pennos i Iestyn bob nos. Adduned y Flwyddyn Newydd oedd ffeindio amser i fi fy hun, er mwyn darllen nofelau. Gallaf gymeradwyo 'The Book Thief' gan Markus Zusak: stori ardderchog - roeddwn i'n llawn dagrau ar y diwedd. Nofelau yw dull o ddianc rwtîn pob dydd; maen nhw'n caniatau i chi gerdded tu fewn i fywydau pobl eraill, heb darfu ar neb. Nicholas (44 oed) Mae byd y dychymyg yn elfennol ym mywyd pob unigolyn: dychymyg a, weithiau, yr ysfa i ddysgu pethau newydd, pethau gwahanol. Mae llyfrau yn rhoi cyfle i ni, ble bynnag ydyn ni, pwy bynnag ydyn ni, i rannu eu trysorau. Rhodd syml ond cynhwysfawr a gynigir yn heal i bawb sydd ei heisiau. Mae gen i res hir o deitlau gallaf ddyfynnu - llyfrau sydd wedi meddwl rhwybeth i fi, sydd wedi cael effaith arnaf yn y gorffennol: 'L'Etranger' (Yr Estron) gan Albert Camus, 'The Inheritors' gan William Golding, ac ati. Ond mae un llyfr yn arbennig baswn yn safio'n gyntaf os - Duw a'n gadwo - oedd tân yn carlamu trwy'r tŷ: 'Ferdinand' gan Leaf & Lawson. Llyfr lluniau i blant yw hwn, wedi ei ysgrifennu yn 1937 am darw bach sy'n byw ar wastatir Canol Sbaen. Cyfrol fach hudolus yw hi, am freuddwydion, ac am y dyhead i fyw'n syml, mewn cyfeillgarwch a heddwch.
 |