BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Gwyl Cadi Ha'Baghad' o hwyl yn y Cadi Ha'
Mai 2006
Bu penwythnos o ddathlu Gŵyl Cadi Ha yn Sir y Fflint yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc efo dros bedwardeg o ddawnswyr ac offerynwyr o St Gregoire ger Rennes yn Llydaw yn ymweld â'r ardal.
Cynhaliwyd twmpath a noson lawen yng ngwesty'r Springfield Treffynnon ar y nos Wener. Llenwyd strydoedd Treffynnon efo dros gant o blant o ysgolion y fro fore Sadwrn i ddawnsio dawns y Cadi Ha ynghyd â nifer o ddawnsfeydd eraill.

Bu'r Llydawyr yn gorymdeithio efo'r baghad (pibyddion) a dawnswyr yn eu dilyn i lawr prif stryd Treffynnon.

Nid oedd angen system sain arnyn nhwythau! Aeth pawb ymlaen am brynhawn o ddawnsio yn Abaty Basing.

Gyda'r nos cynhaliwyd twmpath dawns yn neuadd yr eglwys Yr Wyddgrug. Roedd yn noson llawn hwyl efo arddangosfeydd o ddawnsio gan ddawnswyr Maes Garmon, Meinir Siencyn a Huw Williams yn gwneud deuawd clocsio ac unwaith eto arddangosfeydd o ddawnsio Llydewig.

Bore Sul aeth pawb i Loggerheads lle daeth nifer i wylio perfformiadau gan Ddawnswyr Delyn a'i ffrindiau a'r dawnswyr a band o St Gergoire. Ymunodd nifer yn y dawnsio Llydewig ar lawntydd Loggerheads cyn ffarwelio â'r Llydawyr. Rydym yn hynod o ddiolchgar i drigolion y fro am gynnig llety i'r ymwelwyr.

Oeddech chi yno? Dwedwch wrthon ni am yr ŵyl isod:


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy