| Cychwynnodd yr Eisteddfod toc wedi hanner dydd a chafwyd rhesi o blant yn cystadlu'n frwd, yn wir cymerodd y plant rhwng chwech ac wyth oed bron i ddwy awr i gystadlu! Gyda'r nos hefyd yr un oedd yr hanes, cystadlu brwd a safonol. Ymgeiswyr ar bron bob cystadleuaeth. Enillydd haeddiannol iawn i'r gadair. Chwip o gystadleuaeth am yr ysgoloriaeth o £250 gyda Dafydd yn curo Goleiath! Defaid yn dysgu'r ŵyn Yng Nghystadleuaeth y corau fodd bynnag defaid profiadol Glan Alun ddangosodd i wyn y Pentan sut i ganu. Ond pa ots pwy oedd yr enillwyr, dangosodd Sir y Fflint y gellid cynnal Eisteddfod yma gystal os nad gwell nac unrhyw ardal o Gymru. Yn wir dywedodd Selwyn Griffith y beirniad adrodd oedd yn beirniadu am ei 401fed tro na welodd cymaint o frwdfrydedd na neuadd cyn llawned ar gyfer eisteddfod ers llawer dydd. Llongyfarchiadau felly bwyllgor Eisteddfod Treuddyn, a phob hwyl wrth geisio adlewyrchu'r llwyddiant y flwyddyn nesaf.
 |