| Cawsom noson i'w chofio yn Neuadd Eglwys y Santes Fair ar Ionawr 12ed. Noson i ddathlu'r hen Galan yng nghwmni dawnswyr, côr, offerynwyr, baledwr a'r Fari Lwyd. Roedd y neuadd yn orlawn a braf oedd gweld cymaint o bobol ifanc yn ymuno yn yr hwyl. Yn ogystal â'r dathlu cyflwynwyd Tlws Coffa Jennie Eirian i Ddawnswyr Delyn i gydnabod eu cyfraniad i'r Pethe yn yr ardal. Cyflwyno'r darian Yn absenoldeb y cadeirydd, y Parch J. Bryn Jones oherwydd gwaeledd, cyflwynwyd y darian i arweinydd y grwp, Geoff Jenkins a'r cadeirydd, Frances Jones. Fe'i cyflwynwyd gan un o hoelion wyth y papur sef Iwan Jones. Ffurfiwyd Dawnswyr Delyn ym 1987 ac erbyn hyn maen nhw ymhlith y goreuon yn y wlad gan lwyddo mewn eisteddfodau, yn cynnwys y genedlaethol ac yn yr Wyl Geltaidd yn yr Iwerddon. Mae'r grwp hefyd wedi ymddangos mewn amryw o ganolfannau yn yr ardal er mwyn gefnogi achosion da a chynyddu'r diddordeb mewn dawnsio gwerin. Hyfforddi pobol ifanc Mae Geoff ac aelodau'r grwp wedi hyfforddi pobol ifanc yn nawns y glocsen ac mae amryw ohonyn nhw wedi llwyddo yn ein prif wyliau cenedlaethol. Hefyd rhaid cydnabod cyfraniad gwerthfawr Rhiannon Jenkins a'r offerynwyr i lwyddiant y fenter. Yn ystod y noson cawsom eitemau gan Gôr Y Pentan o dan arweiniad Sian Meirion (diolch iddi am ffurfio côr lleol o leisiau ifanc a bob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol) a Ieuan ap Sion oedd yn ein hatgoffa ni am faledi Sir y Fflint. Y gynulleidfa'n dawnsio Ar ôl mwynhau Dawnswyr Delyn cafodd y gynulleidfa y cyfle i ymuno. Braf oedd gweld rhai o barchusion yr ardal wrthi - llawer ohonyn nhw yn ystwyth iawn ac yn dangos potensial ond eraill yn cael trafferthion 'cadw cownt' wrth geisio cofio ai i'r chwith neu i'r dde neu ymlaen neu yn ôl oedd rhaid symud! Diolch i aelodau Dawnswyr Delyn am drefnu'r noson a pharatoi swper traddodiadol yn cynnwys cawl cennin. Mae'n wyrth o feddwl am y diffyg cyfleusterau oedd ar gael iddyn nhw. Gwnaethpwyd elw o £500 i'w rannu rhwng Dawnswyr Delyn (£200), Côr Y Pentan (£150), Dawnswyr Maes Garmon (£50) a Phapur Fama (£100). Ar ran swyddogion y papur diolch yn fawr iawn.
 |