BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
dawnswyrIeuenctid y sir yn cymeryd camau i'r cyfeiriad cywir!
Hydref 2004
Mae criw o bobl ifanc Sir y Fflint wedi bod yn codi chwys, wrth ddilyn yn olion traed eu cyndeidiau.
Aelodau ydynt o Aelwyd Haf newydd sbon danlli a sefydlwyd am y tro cyntaf eleni dan gefnogaeth Menter Iaith Sir Fflint. Bu'r grŵp yn brysur yn dawnsio gydol yr haf, tan ddysgu camau a dawnsfeydd newydd, mewn paratoad ar gyfer dathliadau Dydd Owain Glyndŵr, ganol Medi.

Dywed Bryn Davies, un o drefnwyr yr Aelwyd Haf,

"Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i'r bobl ifanc ymgymryd mewn gweithgareddau traddodiadol Cymreig. A chyda Eisteddfod yr Urdd yn dod i Sir Ddinbych mewn dwy flynedd, mae'r Aelwyd Haf yn gosod craidd cadarn i allu mynd ymlaen i gystadlu ar lefel genedlaethol."

Ategodd Rhian Davies, Swyddog Datblygu Menter Iaith Sir y Fflint,

"Ein bwriad oedd darganfod faint o ddiddordeb oedd mewn sefydlu Aelwyd, a'r gobaith yw nawr, o weld y gefnogaeth yw sefydlu Aelwyd parhaol cryf ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru (ardal yr hen Glwyd)."

Uchel bwynt yr haf oedd cael perfformio ar y cyd gyda Dawnswyr Delyn yn nathliadau Dydd Owain Glyndŵr y tu allan i dafarn yr Owain Glyndŵr, Gwernymynydd, dydd Sul y 12fed o Fedi. Ni allai Morris y Gwynt nac Ifan y Glaw darfu ar frwdfrydedd y dawnswyr na'r cefnogwyr a cafwyd perfformiad hwyliog a diddanol. Cafodd y diwrnod ei gloi gyda noson o adloniant yng nghwmni Pen Tennyn, a chwaraeodd eu set mewn teyrnged er cof am Geoff Jenkins.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy