Gofynnir am gyhoeddi stampiau post, a'u cynhyrchu yma yng Nghymru.
Dylid cyhoeddi ar frys stampiau Cymreig mewn setiau o 8-10 stamp.
Bydd y stampiau'n cael eu cyhoeddi pedair gwaith y flwyddyn. Byddant yn dilyn themau arbennig. Cynhwysir y Ddraig Goch, ac enw Cymru ar bob stamp a gyhoeddir.
Bydd y gwaith cynhyrchu, dylunio a'r defnydd o arlunwyr, yn gysylltiedig â Chymru.
Dylid creu amlenni gogyfer dathliadau arbennig a phecynnau hefyd sy'n cynnwys gwybodaeth am y stampiau Cymreig newydd, eu dosbarthu i ysgolion, llyfrgelloedd a chanolfannau addysgol Cymru gyfan.
Da o beth fyddai cynhyrchu llyfrau stampiau er mwyn eu gwerthu mewn siopau'n unig. Dylid gwneud defnydd o thema arbennig, e.e. Croesau, a fydd yn cynnwys Croes Nawdd Llywelyn ap Gruffydd, y Groes Geltaidd a chroesau eraill.
Rhagwelwn greu un Dosbarth Cludiant Post, a bwriedir cael gwared a'r gyfundrefn brisio ar faint amlen. Rhagwelir gan hynny adfer yr hen gyfundrefn sef bod pwysau amlen cyfwerth a'r tal cludiant, sef stampiau post.
Bydd angen sefydlu Corfflu Cymreig i ofalu am y gwasanaeth, ynghyd a'r gwaith trefnu.
Os oes gennych unrhyw sylwadau ac yn dymuno dweud eich dweud, yna anfonwch air at y Trefnydd: Dafydd Guto, Neuadd Glasgoed, Llanrug LL55 3BB.
 |