Fues i ddim nôl i Lundain am dros ddeng mlynedd. Bob tro gofynnais i dad os gawn ni fynd i Lundain'? Roedd o bob amser yn lluchio be ddudais i'n bum mlwydd oed yn fy wyneb. Ac felly pan gawson ni gynnig fel dosbarth chweched dosbarth i ymweld â'r ddinas fawr ddrwg, mi roddais i'n enw lawr ar unwaith. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, a phob siec wedi'i roi i Mr. Gwilym Evans, roedden ni ar y ffordd i stesion drenau Wrecsam ym mws mini ysgol Maes Garmon ... a llond car newydd Miss Llinos Roberts yn ein dilyn.
Oedi ar y rheilffordd
Roedd y trên i fod i gyrraedd Wrecsam i nôl ein hysgol ni ac Ysgol Morgan Llwyd erbyn tri o'r gloch. Ond wrth gwrs, pan gyrhaeddon ni... roedd y trên yn 'delayed.' Does dim byd fel trenau dibynadwy Prydain! Felly dyna lle buon ni yn eistedd ar fagiau a chesys yn aros am ein trên i Gaer. Ond ddaeth o ddim, bu raid i ni ddal bws i Gaer.
Mi gyrhaeddon ni Gaer, wedi colli ein trên. Ond roedden ni am ddal y trên nesaf i Crewe - ac yna i Lundain. Pan gyrhaeddodd y trên Gaer roedd 'na garpedi coch a shampên yn ein croesawu. Na nid ni yn anffodus, ar gyfer dosbarth cyntaf, roedden ni yn eistedd yn yr ail dosbarth yn bwyta brechdanau (rhy ddrud) a phlastig caffi'r stesion.
Y ddinas fawr
Roeddwn i mor falch o weld goleuadau llachar dinas Llundain. Dinas, roeddwn i yn edrych ymlaen gymaint i siopa ynddi, ac i weld y sioe gerdd Queen .. heb sôn am ymweld â'r ty cyffredin a thy'r arglwyddi, wrth gwrs.
Ar ôl stryffaglio efo'n bagiau a'n cesys trwm - rhai ohonan ni'n cario bagiau a chesys trwm pobl eraill ar ein hysgwyddau, mi gyrhaeddon ni ein 'gwesty.' (Yn ôl yr arwydd ar y drws, ond hostel yn marn pawb eraill.) Ond chaethon ni ddim llawer o amser i archwilio'r 'gwesty'n' fanwl, roedd yn rhaid i ni frysio i ymweld â Sgwâr Leicester. (Dyna lle mae'r holl 'bremieres' yn digwydd!)
Ond cyn cyrraedd fanno, roedd yn rhaid i ni fynd ar y tiwb. Doeddwn i ddim yn hoffi trenau yn hogan fach, tydw i ddim rwan. Petawn i'n faer Llundain, mi faswn i'n cael system awyru yno. Wir yr, mi deimlais i sawl gwaith fel fy mod i'n mygu. A ma' eisiau sgrwb iawn ar y lle 'fyd!
Helo Sgwâr Leicester
Ond roedd hi'n werth dioddef diffyg aer iach er mwyn gweld sgwâr Leicester. Mae 'na gymaint o liw ar y lle, goleuadau a phosteri. Ac wrth i mi gymryd brathiad o fy nghyw iâr, yn KFC roeddwn yn gwerthfawrogi y cyfle y cawson ni i ddod yma. Doeddwn i ddim yn teimlo fel petawn i'n Llundain, prif ddinas Lloegr. Mae na gymaint o ieithoedd tramor, a diwylliannau gwahanol yno! Petaech yn tynnu'r miloedd o faneri Sant George ac ambell i ddyn yn ei ddiod yn murmur 'Swing Low' (roedd y parêd 'di bod yr un diwrnod ag y cyrhaeddon ni,) gallech daeru eich bod dramor!
Yn ôl am y 'gwesty'. A chysgu! (Wel.... roedd hi'n ymhell wedi tri!) Deffron cyn cwn Caer. Roedd rhai o'r merched eisiau cawod, mae'n debyg am chwech. Peidiwch gofyn!
Ymweld â San Steffan
Ar ôl brecwast dyma ni'n martsio'n syth tuag at Westminster. Cawson 'grand tour' o'r lle gan hanesydd. Mae'n rhaid dweud i mi ddweud i mi ffeindio'r awren yn un ddiddorol. Mi welson ni ty'r Arglwyddi, a'r hen dy cyffredin.(Roedd yr Aelodau Seneddol yn nhy'r cyffredin yn anffodus.) Cawson gip ar lythyrau pwysig, fel yr un i ddeddfrydu Siarl y cyntaf i farwolaeth.
Ar ôl i ddisgyblion Morgan Llwyd sgwrsio gyda'u aelod seneddol nhw, (roedd David Hanson yn brysur, - mae ganddo fo swydd bwysig mae'n debyg). dyma ni'n troi ein golygon tuag at hen fyncar Winston Churchill a ddefnyddiwyd ganddo yn yr Ail Ryfel Byd.
Cawsom ddarlith hanes cyn cychwyn ar ein taith o amgylch y byncar. Clywson ffeithiau diddorol wyddoch chi na allai Winston Churchill gau criau, felly roedd ganddo sips ar ei esgidiau!
Gweld y 'Queen'
Rydan ni'n ysgrifennu traethawd ar y funud am Winston Churchill, felly'n sicr fe gefais ychydig o ffeithiau ychwanegol yno i'w roi yn fy nhraethawd. Dw i 'rioed wedi gweld sioe mor dda â Queen 'we will rock you.' Roedd yn ansbaradigaethus o dda. Unigryw a ffresh.
Defnyddiai'r sioe hen ganeuon Freddy Mercury, a'u cyhoeddi mewn sioe. Yn sicr bydd yn sioe gwerth ei gweld eto. Roedd hi'n amser mynd i'r gwely roedd fy llygaid yn llosgi ar ôl y noson gynt. Ac ychydig cyn i'r cloc daro tri mi syrthiais i gysgu. Deffron ni'r diwrnod olaf gyda'r cloc larwm yn sgrechian anron ni i ddeffro. Gyda grwgnach mi lusgais i o fy ngwely. Ar ôl bwyta brecwast, bara a thost roedd hi'n amser i ni gymryd dôs go hir o'r tiwb i Lambeth.
Yno mae Amgueddfa Rhyfel. Wna i ddim anghofio'r rhan o'r amgueddfa sy'n sôn am yr holocost. Welais i ddim amgueddfa mwy brawychus a dychrynllyd erioed. Cefais ambell ias lawr fy nghefn wrth weld hen ddarluniau gan blant wedi marw mewn gwersyll lladd. Darluniau lliwgar, jygiau, doliau, esgidiau'r diniwed a orweddai yn yr amgueddfa.
Heb sôn am y llu dychrynllyd o bobl yn cael eu hel i'w beddi oherwydd eu diwylliannau a'u crefydd. Yn y p'nawn roedd hi'n amser i siopa yn Ffordd Rhydychen. Roedd 'na lawer wedi cael yr un syniad â ni, ac roedd y ddinas yn berwi o bobl. Diolch yn fawr iawn i'r holl staff wneud y wibdaith yn bosibl.