| Wedi derbyn cyfarwyddyd manwl gan ein harweinydd, Huw Alun, ar ba ffordd i fynd. A gyda'r tîm cymorth cyntaf yn barod am unrhyw argyfwng, troediodd y criw helaeth - yn hen ac ifanc - ar hyd lwybrau hynafol y fro gan groesi aml i gamfa simsan. Pob un yn gwneud ei orau i gynnal ei hunan barch wrth groesi ac ambell un yn cynnig gair o gyngor i ffotograffydd busneslyd! Diwedd y daith oedd ei dechrau, Y Druid yn Llanferres. Yno treuliodd Iwan rai munudau yn cofio dull gofalus, trylwyr Euryn pan yn golygu Papur Fama ac ategodd Lis yr hyn a ddywedodd tra'n derbyn Tlws Jennie Eirian. Yna ceisiais dynnu llun call o'r grwp cyn setlo yn yr haul cynnes i fwynhau llymaid oer. Prynhawn bach pleserus dros ben. Diolch i bawb a ddaeth ac i bawb a roes nawdd i'r Papur.
 |