| Dr Jenny Smith, Dr Lucy Nott, Dr Siân Jones a Dr Siwan Rosser. Bu Sian, Lucy, Siân a Jenny yn ffrindiau ers dyddiau'r ysgol feithrin ac mae eu cyfeillgarwch wedi parhau ar hyd eu gyrfa ysgol a choleg. Buont gyda'i gilydd yn nosbarthiadau Ysgol Glanrafon a buont yn sefyll eu arholiadau TGAU a'u Lefel 'A' gyda'i gilydd yn Ysgol Maes Garmon cyn gwahanu, dros dro, i ddilyn eu gyrfa academaidd mewn prifysgolion gwahanol. Mae' n eithriadol o anarferol i bedair o'r un dosbarth ysgol ddod yn ddoctoriaid, a hynny o fewn misoedd i'w gilydd. Aeth Jenny i Brifysgol Leeds. Ffisioleg Cellog oedd ei phwnc gradd BSc. Wedyn pwnc ei PhD o fewn maes Biocemeg a Bywydeg Molecwlaidd, oedd astudiaeth o ddulliau newydd o gyflwyno cyffuriau, fel gyda chlytiau nicotîn. Mae ei gwaith yn cael ei barhau gan gwmni FMC BioPolymer yn Norwy. Mae newydd orffen cyfnod o waith ar brosiect Sefydliad Prydeinig y Galon. Mae'n gweithio ar hyn o bryd i gwmni Smith a Nephew yn ymchwilio i effeithiolrwydd rhwymau i glwyfau. Hanes oedd pwnc Siân. Treuliodd pedair blynedd yn ymchwilio i wleidyddiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru rhwng 1918 a 1935 gan gwblhau ei doethuriaeth yng Ngholeg Prifysgol Bangor yn 2003. Bu wedyn yn darlithio yn yr Adran Hanes ym Mangor. Erbyn hyn mae'n gweithio i Gyngor Sir y Fflint fel Swyddog Polisi gyda gofalaeth dros Ddiogelwch Cymunedol. I Goleg y Brifysgol, Caerdydd yr aeth Lucy a gwneud gradd mewn Geneteg. Wedi graddio aeth ymlaen i Brifysgol Birmingham i wneud ei PhD. Ei phwnc oedd dadansoddiad o wrthsafiad aml-rannol llwydni cotymog Peronospora Parasitica mewn amrywiaethau yn Arabidopsis. Yn awr mae'n gweithio yn Horticulture Research International yn Wellesbourne, Swydd Warwick. Hi sy'n gwneud yn siwr fod y letusen a gewch o siop Sainsbury yn dda i fwyta! Bu Siwan yn brysur hefyd : Gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn Aberystwyth ac wedyn M.Phil yno gan gymeryd 'Golwg ar ganu rhydd Jonathan Hughes, Llangollen'. Arhosodd yn Aberystwyth i wneud ei PhD ar 'Ddelweddau o ferched ym maledi'r ddeunawfed ganrif - Twm o'r Nant, Elis y Cowper, Huw Jones Llangwm a Jonathan Hughes, Llangollen.' Erbyn hyn mae'n ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd ac yn gyfrifol am yr M.A. mewn Astudiaethau Gwerin. Yn ddiweddar bu yn Newfoundland yn gwneud ymchwil ar lên gwerin. Mae pob un ohonynt wedi bwrw at eu gwaith gydag arddeliad...ond mae'n amlwg eu bod hefyd yn gwybod sut i fwynhau bywyd y tu allan i'w gwaith! Dyma bedwarawd o ferched talentog yn wir!
 |