BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Alun Evans, CaerPobl y Papur: Alun Evans, Caer
Mawrth 2006
Cyhoeddwyd yn ddiweddar fod Alun Evans, Caer i dderbyn bathodyn gan yr RNLI i gydnabod ei wasanaeth gwerthfawr i'r sefydliad dros nifer o flynyddoedd.
Fe'i cyflwynir iddo mewn seremoni arbennig yn Efrog ym mis Gorffennaf. Llongyfarchwn ef yn wresog.

Gol: Sut cychwynnodd eich cysylltiad â'r RNLI?
Alun: Mae'n debyg fod y môr yn fy ngwaed - cefais fy ngeni a'm magu ym Morfa Nefyn ac 'roedd fy nhad a fy nhaid yn llongwyr. Gan fod y pentref rhyw dafliad carreg o'r traeth dyna lle y byddwn i a'r rhan fwyaf o blant y pentref yn treulio eu hamser unai yn mwynhau y dŵr neu yn pysgota. Dysgais rwyfo'n ifanc iawn ac yn ystod gwyliau'r haf byddwn yn cynorthwyo ar un o'r cychod pleser.

Pan glywid "maroons" y bad achub yn caei eu tanio i alw'r criw- - doedd dim "bleepers" i'w galw yr amser hynny - byddai llawer yn ymgynnull unai ar y traeth neu wrth gwt y bad achub. Pan yn 11oed gofynnwyd i mi ac un o'm ffrindiau os buasem yn fodlon cynorthwyo y criw yng nghwt y bad achub ac yna yn nes ymlaen ar y cwch rhwyfo a ddefnyddid i gario'r rhaffau i'r bwiau er mwyn unioni'r bad achub yn ôl ar y lithfra i'w thynnu i'r cwt. Gan fod rhai o'r criw yn gweithio allan o'r pentref ni allent fod ar gael i bob galwad a daeth siawns i mi fynd allan ar y bad achub.

Bu^m ar amryw alwad yn y deng mlynedd y bu^m â chysylltiad â'r cwch ym Mhorthdinllaen ond yr un sydd wedi ac a fydd yn aros mwyaf yn fy nghof yw'r alwad ym mis Hydref 1961 pan lansiwyd y cwch am hanner nos i fynd i gymorth yr "Aquila" a oedd mewn anhawster rhyw 10 milltir o Ynys Enlli.

'Roedd yn noson stormus gyda'r gwynt o gryfder corwynt a thonnau o tua deg troedfedd ar hugain. Ar ôl dwy awr collwyd defnydd o'r radio gan fod dŵr y môr wedi dod i gysylltiad â'r asid yn y batris. Er nad oedd y radio yn gweithio aethpwyd ymlaen ac ar ôl chwe awr cyrraedd y llong (taith o ryw awr mewn tywydd ffafriol) ac aros yn ymyl hyd nes i'r criw atgyweirio'r nam. Yna ei hebrwng yn glir o swnt Enlli cyn troi am adref.

Yn y cyfamser heb glywed gan y bad achub penderfynwyd lansio badau achub Cricieth, Pwllheli a Chaergybi i chwilio amdanom ac ar raglen newyddion y BBC cyhoeddwyd fod bad achub Porthdinllaen ar goll, ond ar ôl deuddeg awr cyrhaeddodd y cwch a'r criw yn ôl yn saff i Borthdinllaen. 'Rwyf yn tanysgrifio'n flynyddol i'r RNLI fel llywodraethwr ac wedi bod yn aelod o'r gangen yng Nghaer am beth amser ac yn ysgrifennydd ers rhyw bum mlynedd. Hefyd byddaf yn mynd o amgylch gwahanol sefydliadau a chymdeithasau i sôn am waith y Gymdeithas.

Gol:Sut daeth hogyn o Lŷn i ymgartrefi yng Nghaer?
Alun: Deuthum i Gaer ym 1962 i weithio gyda Shell UK yn Stanlow gan ddechrau yn y labordy ac yna ar ôl wyth mlynedd o weithio shifftiau symud i ran arall o'r burfa i weithio i Shell Chemicals. Yn y swydd hon 'roeddwn yn gyfrifol am wneud rhaglen waith i dri o'r unedau. Rhan arall o'r gwaith oedd gwneud yn siŵr fod y nwyddau crai i holl unedau Shell Chemicals yn cael eu mewnforio mewn pryd i gynnal y rhaglenni a hefyd fod y cynnyrch gorffenedig yn barod, o fewn y gofynion priodol ac yn y tanciau iawn i'w hallforio.

Yn 1987 symud i'r brif swyddfa yn Llundain - 'roeddwn wedi cynnig am y swydd a chefais gyfweliad yn Stanlow gan reolwr yr adran a oedd yn berchen ar gwch hwylio - pan welodd fy mod yn gwisgo tei yr RNLI trodd y cyfweliad i sôn am hwylio ar fadau achub!! Rhyw fath o "trouble shooter" oedd fy ngwaith, yn gwneud yn siŵr fod gofynion cwsmeriaid yn cael eu bodloni ac, hwyrach yn fwy pwysig, eu bod yn talu'n brydion.

Ar ôl chwe mis symudwyd y prif swyddfa i Gaer lle bu^m tan ymddeol yn gynnar ym 1992.

Ar fy nyfodiad i Gaer byddwn yn mynychu'r oedfaon yng nghapel yr Annibynwyr (Albion Park) ac ymuno â'r Aelwyd oedd yn cyfarfod yn y festri, pan oedd fy shifftiau yn caniatau. Cyfarfod â llawer o wynebau newydd yn yr Aelwyd ac yn eu plith Maisie, yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, a'r canlyniad fu i ni briodi ym 1964. Mae gennym ddau fab sef Bryn, sydd yn ddadansoddwr cyfrifiadurol gyda chwmni yswiriant yn Lerpwl a Melfyn, sydd yn "Cabling Manager UK' i gwmni o Ffrainc. Mae'r ddau wedi priodi bydwragedd - Bryn gyda Bryony yn byw yn St Martins ger Croesoswallt a Melfyn gyda Angela yn byw yng Nghaer. Erbyn hyn rydym yn daid a nain i un bachgen a thair geneth - Tomos Rhys yn fab i Bryn a Bryony ac Ellie, Beth a Milly yn ferched i Melfyn ac Angela.

Hefyd, mae Caer mewn lle delfrydol i drafeilo gyda chysylltiadau hwylus ar y ffyrdd a thraffordd allan o'r Ddinas. Wrth fod y meibion a'u teuluoedd yn byw yn, neu yn agos i Gaer mae'n debyg mae yma yr arhoswn er fod gennyf rhyw dynfa am y môr.

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy