Cawsom fis cyfan o weithgareddau i ddathlu ein sefydliad ddeng mlynedd yn ôl. Trefnwyd rhaglen o ddigwyddiadau Dathlu'r Deg drwy gydol mis lonawr.
Dechreuwyd y dathliadau gyda Noson Blygeiniol yn y festri yng Nghapel Bethesda, Yr Wyddgrug, ar y 3ydd o lonawr. Roedd Festri Capel Bethesda dan ei sang o ddysgwyr a Chymry Cymraeg yr ardal, i gyd wedi heidio draw i gael blas ar ein traddodiad Plygeiniol.
Daeth oddeutu hanner cant o bobl i'r gwasanaeth, gydag unigolion a grwpiau yn cymryd eu tro i gyfrannu yn ystod y gwasanaeth gydag amrywiol eitemau, o adrodd storiau i ganu penillion plygain. Diolch i bawb a gododd o'r gynulleidfa i berfformio. Noson hwylus iawn.
Ar Ddydd Sadwrn, 12fed lonawr, daeth yn agos i drideg o bobl a
phlant ar daith gerdded i deuluoedd ar draeth Talacre. Meddai Gwawr Cordiner, Prif Swyddog: "Roeddem am ddathlu Pen-blwydd y Fenter yn ddeg oed gydag amrediad eang o ddigwyddiadau, a fyddai yn apelio at bobl o bob oedran a gallu ieithyddol, yn ddysgwyr a Siaradwyr Cymraeg.
"Bum yn ffodus iawn o gael tywydd ardderchog ar y daith gerdded felly manteisiodd pawb ar y golygfeydd hyfryd oedd i'w gweld gan gynnwys
amrywiaeth eang o adar gwyllt. Rydym yn ddiolchgar iawn i Iwan Roberts o Gymdeithas Edward Llwyd am ein harwain a'n haddysgu ar y daith."
Cynhaliwyd Gig Santes Dwynwen yng Nghlwb Ucha, Yr Wyddgrug, nos Wener 25ain lonawr am 7pm, gyda'r bandiau Matoidz, Six Ton Dog a Monte Cassino.
Hefyd, cynhaliwyd Cwis Dathlu'r Deg yn Nhafarn Castell Rhuthun, Yr Wyddgrug, ar nos Fercher 30ain o lonawr am 8.30pm.
Ond y digwyddiad mwyaf o ran y dathliad oedd Parti Dathlu'r Deg a gynhaliwyd nos Fawrth 22ain o lonawr yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy, Cei Connah.
Caryl Parry Jones a Rhys Jones, y tad a'r ferch sydd gyda chysylltiadau agos a'r sir, oedd y gwesteion gwadd.
Meddai Gwawr Cordiner: "Roedd y parti yn gyfle inni ddiolch i'r holl unigolion a mudiadau sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r Fenter yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Yn arbennig ein haelodau sydd wedi rhoi o'u hamser yn wirfoddol ar hyd y blynyddoedd, Bwrdd yr laith Gymraeg, Coleg Glannau Dyfrdwy a Chyngor Sir y Fflint.
"Edrychwn ymlaen at y deg mlynedd nesaf er mwyn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes, ac i barhau i gydweithio gyda'n gwirfoddolwyr, cefnogwyr a'n partneriaid er mwyn meithrin a datblygu cymunedau dwyieithog yn y sir."
Cafwyd adloniant hwylus iawn gan Caryl a'i thad, a braf oedd clywed Caryl yn nodi ei bod yn barhaol cenhadu ar rhan Sir y Fflint!
Bu'r Fenter hefyd yn lansio logo newydd. Diolch i Dafydd Gruffydd am ei waith cynllunio sydd wedi llwyddo i gadw delwedd y bont tra hefyd yn creu delwedd newydd cyfoes ar ein cyfer.