| Diolch i' n haelodau dawnus Deb, Bryn, Gwyn, Nic, Dilys, Ronnie, Paul, Tony a Gill am yr adloniant Gwyddelig. Diolch hefyd unwaith eto i Sian a Chôr y Pentan ac i Eileen, Richard a Martina am yr "Irish Stew" am ddim!!
Dyma'r DYDDIADUR DIWEDDARA.
Cyfarfod nesaf:
Ebrill 19 (dydd Sadwrn) - trip bws i Rosgadfan a Bro Kate Roberts. Gadael yr Wyddgrug am 9.30. Ymweld a Chae' r Gors, y Lôn Wen a' r Amgueddfa Lechi yn Llanberis. Pris: £10 oedolion, £5 plant. (bws wedi ei noddi gan YDGO Prifysgol Bangor.) Gadael y Ganolfan Hamdden am 9.30 - yn ôl tua 6. Ambell le ar ôl. Enwau i Eirian/Pauline mor fuan â phosibl...
Ebrill 26 (Sadwrn) - dewch i gefnogi Tîm Peldroed Wrecsam!! Gêm bwysig iawn. Cyfarfod am 2 yn y
"Centenary Club" - Dewch i holi DAI DAVIES - cyn-golwr enwog Cymru, Everton a Wrecsam!! Wedyn ewch i gefnogi'r tîm - mae angen pob cefnogwr arnyn nhw!!! Pris mynediad arbennig i aelodau C3 (£12 nid £16, plant £5 nid £7). Wedyn swper yn yr Imperial Chequer, yr Wyddgrug yng nghwmni Dai Davies!!
Croeso i chi ddŵad i'r pryd bwyd yn unig. Enwau o Eirian/Pauline.
Nos Fawrth Ebrill 29 - dewch i ganu!! efo Parti'r Pentan - canu gwerin anffurfiol. Rhan o Wythnos laith ar Daith Sir y Fflint. Bar Gwin, 9 y.h.
Mai 3ydd - Diwrnod y Cadi Ha!! Treffynnon 10.15, Caerwys 2.45 - Twmpath 7.30 yn Neuadd yr Eglwys, Yr
Wyddgrug. Cysylltwch â'r Fenter laith 01352 755614 am fanylion.
Mai 19 (Nos Lun) - Dewch i ddawnsio gwerin efo Dawnswyr Delyn! Cyfarfod am 8.00 yn y Bar Gwin. Mai 23 (Nos Wener) Trafaelu ar y Trên Glas - sioe un ddynes Sharon Morgan. 7.45 Theatr Clwyd.
Mehefin 2 (Nos Lun) Siwan Saunders Lewis - 7.30 Theatr Clwyd.
Mehefin 19 (Nos lau) 8 y.h. - Ffilm Gymraeg yn Theatr Clwyd!! Y ffilm antur Dirgelwch yr Ogof £4.50 i aelodau C3, £5 i bawb arall - cyfarfod arbennig i aelodau'r clwb am 7.30 efo un diod am ddim! Os dach chi'n aelod o FACEBOOK, ymunwch â grŵp C3 yr Wuddgrug. Am wybodaeth (a llawer mwy o luniau) edrychwch ar http://www.bangor.ac.uk/c3. I fod yn aelod o C3 - £2 y flwyddyn - cysylltwch ag Eirian Conlon/Pauline Owen, d/o Ty Pendre, Pwllglas, yr Wyddgrug CH7 1RA (01352 756080)
 |