Ar ran Pwyllgor Gŵyl Werin Tegeingl dwi wrth fy modd i adael i ddarllenwyr Papur Fama wybod y bydd Gŵyl 2010 yn cael ei gynnal dros benwythnos yr 20fed-22ain o Awst. Rydym wrthi'n brysur yn cadarnhau'r lleoliad gyda Chlwb Rygbi'r Wyddgrug, a bron iawn â chwblhau'r rhestr artistiaid anhygoel ar gyfer y penwythnos.
Yn ddiweddar cawsom newyddion da iawn y byddai Cadwyn Clwyd yn noddi canran o gostau'r ŵyl trwy eu cynllun 'Dathliadau Diwylliannol', sy'n cael ei ariannu drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig sydd yn cael ei gyllido drwy'r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae hyn yn hwb sylweddol i'r ŵyl, ac yn rhoi sail gadarn i ni fentro i ehangu'r ŵyl i fod dros dridiau. Er hyn, a chan ein bod yn gobeithio tyfu ar lwyddiant Gŵyl 2008, bydd dal arnom angen mwy o nawdd i gyllido popeth, felly os oes gan un o ddarllenwyr Papur Fama pot o arian yn cuddio dan y gwely, neu'n gwybod am gwmni neu gymdeithas a fyddai'n hoffi noddi'r ŵyl, cysylltwch â ni ar info@tegeingl.com.
Ymysg yr artistiaid sydd wedi eu cadarnhau hyd yn hyn mae: Gwibdaith Hen Fran, Bob Delyn, Y Glerorfa, Hogie'r Berfeddwlad, Aled Lloyd Davies, Mabon a Les Barker o Gymru. Bydd cynrychiolaeth loel gan Barti'r Pentan, Dawnswyr Delyn, Clocswyr Garmon, Band Cambria a David Ruddle.
Bydd blas o dramor gan Keith Donnelly, Kerfuffle, Pete Morton o Loegr, Flossie Malaviele o Ffrainc, Frances O'Rourke a Brendan Fahy o Iwerddon, Janet Russell o'r Alban a Cloudstreet o Awstralia. Gwledd gerddorol gyda rhywbeth at ddant pawb!
Yn ogystal â pherfformiadau'r prif lwyfan, bydd y bandiau i gyd yn cynnal sesiynau a gweithdai o bob math. Bydd darlithoedd, stondinau, chwedlau ac adloniant o bob math i'r plantos. Bydd cyfleusterau gwersylla hefyd ar gael dros y penwythnos.
Byddwn yn dechrau recriwtio stiwardiaid yn fuan, ac yn edrych i gasglu enwau cwmniau lleol sy'n awyddus i ddod â stondinau i'r ŵyl. Mae croeso cynnes iawn i unrhyw drigolion lleol ymuno â'r pwyllgor gweithgar. Cysylltwch â fi, Rhian, ar info@tegeingl.com os hoffech mwy o wybodaeth. Er mwyn derbyn diweddariadau gan Wyl Tegeingl, gellir cofrestru i'r rhestr e-bostio oddi ar ein gwefan www.tegeingl.com neu trwy e-bostio diweddariad@tegeingl.com.