Teitl yr ŵyl fydd "Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a'r Cyffiniau", gan estyn croeso mawr i'n cyfeillion o du allan i ffiniau'r sir, dros Glawdd Offa, o Gaer i Lerpwl i ymuno yn ein gweithgarwch tuag at yr ŵyl. Mae'r trefnyddion yn bendant iawn i bwysleisio bod hon yn Eisteddfod i'r sir gyfan ac nid Eisteddfod yr Wyddgrug yn unig mohono.
Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Maes Garmon ar Ionawr y l7eg, ble y datgelid mai ar safle Fferm Pentrehobin, Yr Wyddgrug y bydd cartref y Brifwyl. Eglurodd Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod mai nid mater hawdd oedd penderfynu ar y lleoliad. Dyma grynhoad o'r hyn a glywid gan drefnyddion yr Eisteddfod ar y noson.
Dewis maes addas
Mae'r anghenion tirol yn sylweddol; mae eisiau oddeutu 30 acer o dir ar gyfer
y maes a rheiny mor wastad ag oedd bosibl, fel bwrdd biliards! Wedyn mae eisiau rhyw 45 acer ar gyfer meysydd parcio ac yn ddelfrydol mae eisiau i'r rhain fod yn hwylus ac o fewn cyrraedd cerdded i'r maes. Rhaid i'r tiroedd yma fod yn weddol gwastad hefyd gan nad pawb sy'n gallu gyrru ar dir sy'n codi, yn enwedig pan fo'r tywydd yn troi'n wlyb.
"Mae 700 o garafannau yn dod i'r dref!"
Mae tua 700 neu fwy o garafannau yn ymweld â'r Eisteddfod ac felly mae angen tua 45 acer arall er mwyn eu lleoli i gyd, a hynny mor agos â phosibl at y prif faes. Yn olaf wedyn mae angen safle cyfleus i gartrefu'r Maes Ieuenctid a Maes B. Mae cyfanswm y tir felly yn dod i rhywle o gwmpas 150 o aceri.
Mae nifer o ffactorau eraill i'w hystyried wrth ddewis safle, ac efallai y pennaf un yw y system drafnidiaeth gyffredinol i ddod a mynd o'r Eisteddfod. Mae gofynion iechyd a diogelwch hefyd yn flaenllaw, gyda'r Heddlu yn pwyso'n drwm ar gael lleoliad lle mae rhyw gymaint o olau stryd a phalmentydd rhwng y prif faes, y maes carafannau a'r Maes Ieuenctid.
Mae oddeutu 7,000 o geir angen eu parcio yn ddyddiol ac felly rhaid cael rhwydwaith ffyrdd sy'n ateb y gofynion yma heb amharu'n ormodol ar draffig lleol. Yn ystod y cyfnod paratoi a thynnu lawr, mae'n bwysig cael ffyrdd sy'n addas i lorïau gan bod rhyw 1,200 0 lwythi yn cyrraedd maes yr Eisteddfod yn y cyfnodau yma. Problemau eraill y mae'n rhaid eu hystyried cyn dod i benderfyniad ar leoliad yw a oes digon o ddŵr yn yr ardal gan fod gosod cyflenwad pwrpasol ychwanegol yn gostus iawn, yn ogystal ac ystyried system gyfathrebu sy'n medru cwrdd â gofynion pawb sydd ar faes yr Eisteddfod a hwylustod y maes i'r ysbyty agosaf.
Disgwyliadau uchel
Mae dyheadau a disgwyliadau pobl y dyddiau hyn yn cynyddu bob blwyddyn ac yn sicr mae'r hyn a geir ar faes yr Eisteddfod yn bwysig er mwyn denu ymwelwyr. Gyda'r Eisteddfod yn costio rhyw dair miliwn i'w llwyfannu, mae'n holl bwysig bod y ffactorau uchod i gyd yn eu lle, hyd ag y gellid, gan gofio wrth gwrs bod y cyfan yn cael ei osod ar dir gwyrdd. Nid ar chwarae bach y mae dewis lleoliad fel y gwelwch.
Mae trafodaethau wedi eu cynnal yma yn Sir y Fflint ers cryn amser, ac yn dilyn cael hyd i dir yn ardal yr Wyddgrug, ac yna cael cynnig lleoliad gan dirfeddiannwr yng Nghaerwys fis Hydref diwethaf, mae llawer o waith trafod wedi ei wneud.
Cyn hynny, fe gerddodd trefnwyr yr Eisteddfod diroedd mewn sawl man arall o'r sir gan gynnwys Trelawnyd, Mostyn a Llaneurgain. Nid oedd yr un o'r tiroedd yma yn addas oherwydd nifer o resymau gwahanol.
Yn dilyn ymweliadau â'r tiroedd yng Nghaerwys a'r Wyddgrug, cafwyd trafodaethau manylach gyda Heddlu Gogledd Cymru, Adran Priffyrdd Cyngor Sir y Fflint a chynrychiolwyr o banel Technegol Canolog yr Eisteddfod.
Safle'n ateb gofynion
Diwedd y daith a penderfyniad Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod, yn dilyn adroddiadau gan y cyrff uchod oedd mai'r safle ar gyrion tref yr Wyddgrug oedd yn ateb y gofynion, ac felly i dir sy'n eiddo i stad Pentrehobin a ochr yr hen Ffordd Wrecsam a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Eisteddfod 2007. Defnyddir y tir o'r gylchdro ar y ffordd osgoi ger y stad ddiwydiannol (wrth Papurau Newydd Gogledd Cymru), ymlaen heibio'r giatiau duon ac at ddiwedd y ffordd lle y mae'n ymuno unwaith eto gyda'r ffordd i Wrecsam.
Erthygl o bapur bro Papur Fama.
Cliciwch yma i ddarllen sylwadau am leoliad Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint, 2007.