BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

PafiliwnEisteddfod Genedlaethol 2007
Sylwadau am leoliad Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint 2007.
Martin o Fanceinion
Trueni na wnaeth y mudiad CYMUNED gefnogi y syniad o gynnal ein Prifwyl yn Lerpwl rai misoedd yn ol. Efallai nad oedd gan Bwyllgor Gwaith y mudiad ddigon o weledigaeth i genfogi'r syniad cyffrous yma.Rhaid i CYMUNED wneud ymdrech i geisio darbwyllo y miloedd o Gymry sy'n byw yn Lloegr fod y mudiad yn un eangfrydig sydd yn deall sut i warchod, datblygu a chryfhau fflam Cymreictod.Mae'r mudiad wedi colli cyfle euraidd i dewi y rhai sydd wedi beirniadu'r mudiad yn y gorffennol.Mae'r mudiad yma yn rhy gul-mae arnai ofn fod y genedl Gymraeg yn llawer iawn rhy gul weithiau hefyd!

Martin o Fanceinion
Credaf fy mod wedi clywed y term "Cymry ar goll" unwaith o'r blaen-rhaglen Jonsi ar Radio Cymru rwy'n credu.Y gwir plaen ydi fod gan Gymry Cymraeg alltud Lloegr y potensial i wneud cyfraniad llawer iawn mwy sylweddol ac arwyddocaol i'r diwylliant Cymraeg na'r lefel presennol-hoffwn weld rhyw adfywiad yn digwydd.Wrth gwrs ei bod hi'n bwysig iawn i'r Steddfod gael ei chynnal yn Sir y Fflint-mae'r sir yma angen dos cryf o Gymreictod. Ond Lerpwl 07 ac yna Fflint e.e. 2012-beth yn union oedd y broblem? Nid oedd gan y genedl Gymraeg ddigon o ddychymyg i wynebu'r her-mae arnai ofn na chafwyd trafodaeth gall a thrieddgar gyhoeddus genedlaethol chwaith...Pa gyfle/lwyfan gwell gaiff y Rhithfro Cymraeg i gael ei gyfoethoci gan gyfranwyr o Loegr na Steddfod Lerpwl 07? A hoffai Neil o Gilgwri ymateb? Pwynt allweddol-mae Steddfod ar dir Lloegr yn golygu manteision amgen a gwahannol i'r diwylliant Cymraeg...Nid oedd neb yn dadlau y dylai'r brifwyl gael ei chynnal yn aml ar dir Lloegr-roedd Lerpwl 07 yn risg gyffrous...

Neil o Gilgwri
Faswn i'n gobeithio fydd llawer o sgowsers yn mynd i prifwyl 07... yn enwedig y nifer sylfaenol sy'n byw yn Sir y Fflint. Mae 'na fwy o siawns o fflamio cymreictod yna nag mewn Lerpwl. Mae fy Nhad sy wedi byw tu allan o Gymru ers 60 flynedd yn llawer mwy Cymreig a gallu yn ei Gymraeg nag ei frawd sy wedi aros yng Nghymru. Mae ardal fel Yr Wyddgrug yn angen y steddfod er mwyn hybu'r iaith ac i tynnu sylw y 'Cymry ar goll' a'r 'pobl dwad'(sef y mwyafrif enfawr) at yr iaith a'r diwylliant.

Martin o Fanceinion
Byddai Steddfod Lerpwl 07 wedi bod yn lwyfan/gyfle hynod o gyffrous i S4C. A wyr Iona Jones (Prif Weithredwr S4C) faint o Gymry Cymraeg sy'n byw yn Lloegr-a hoffai ddyfalu? Rhaid i S4C Digidol ddenu llawer iawn mwy o wylwyr o Loegr na'r lefel presennol. Mae S4C wedi colli cyfle euraidd!Nid oedd y genedl gymraeg yn ddigon uchelgeisiol ar gyfer Steddfod Lerpwl 07-beth yn union yw gwelediageth S4C ar gyfer codi ei phroffeil ar Ynysoedd Prydain? Pa lwyfan gwell neu mwy beiddgar gaiff S4C yn Lloegr na Steddfod Lerpwl 07?

Martin o Fanceinion
Byddai Lerpwl 07 wedi bod yn hwb ardderchog i'r Sin Roc Gymraeg-atgoffa Cymry lloegr ei bod hi'n sin sy'n mynd o nerth i nerth.Byddai Lerpwl 07 wedi bod yn hwb pwysig i werthiant CDau Cymraeg ar Ynysoedd Prydain. Beth yn union yw gweledigaeth e.e. Dafydd Iwan (Cwmni Sain a Llywydd Plaid Cymru)ar gyfer cryfhau Cymdeithasau Cymraeg Lloegr? Byddai Lerpwl 07 wedi gloygu rhoi petrol hynod o gryf, cyffrous ac effeithiol ar fflam Cymreictod.

Martin o Fanceinion
Os yw Y BYD (papur newydd Llun-Gwener) am fwynhau cylchrediad parchus a mynd o nerth i nerth yn ystod y dyddiau cynnar yna mae'n bwysig fod y papur yn gallu gwerthu cyn gymaint a phosibl a gopiau yn Lloegr-mae marchnad YN BODOLI-rhaid chwilio'n ddigon caled! Sut yn union fydd Steddfod Fflint 07 yn hwb amhrisiadwy i griw Dyddiol Cyf allu cynyddu nifer y tanysgrifwyr o Loegr? Lerpwl 07-collwyd cyfle unwaith mewn oes pys! Mae'n eitha hawdd prynnu copi o'r Irish Times, Irish Post (Yr Iwerddon) neu'r Daily Record (Yr Alban)yma ym Manceinion-mae'n eithriadol o bwysig fod Y BYD ar gael mewn rhai siopau papur yn Lloegr-mae arnai ofn na fydd Steddfod Fflint 07 yn gymorth pwysig er mwyn troi hyn yn realiti. Wrth gwrs, mawr obeithiaf y bydd Y BYD yn gallu codi ei phroffeil yn Sir Fflint yn ystod y flwyddyn 2007-ond ni fydd Dyddiol Cyf yn cael llwyfan/cyfle gwell yn Lloegr na Steddfod Lerpwl 07-dyma'r pwynt allweddol. A hoffai Mr Elfed Roberts (Cyfarwyddwr ein Prifwyl),Swyddogion Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Fflint neu Dyddiol Cyf ymateb?

Martin o Fanceinion
Hoffwn ofyn pam yn union oedd cynnal Steddfod Lerpwl 07 AC HEFYD gwarantu sicrwydd ariannol i'r Brifwyl (drwy gael cytundeb gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) yn dasg amhosibl? Oni fyddai Lerpwl 07 wedi bod yn gyfle gwych i ddatblygu cysylltiadau cryf gyda busnesau Prydeinig/Ewropeaidd? Unwaith eto-sut yn union y bydd Fflint 07 yn ysbrydoli miloedd o Gymry Lloegr i gyfrannu i'r diwylliant Cymraeg yn amlach? Collwyd cyfle euraidd...Lerpwl 07 + sicrwydd tymor hir i brif ffenestr siop ein diwylliant-nid oedd hyn yn dasg amhosibl o gwbl! Pob llwyddiant i Fflint 07. A oes gan bwysigion y Brifwyl unrhyw glem faint o filoedd o Gymry Cymraeg sy'n byw yr ochr arall i Glawdd Offa?

Elfed Roberts, Caerdydd.
Fe fum i ag eraill o'm cydweithwyr yn trafod y posibilrwydd o gynnal Eisteddfod Genedlaethol 2007 yn Lerpwl gyda swyddogion Cyngor Dinas Lerpwl. Cawsom groeso cynnes ganddynt ac yr oedd yn ymddangos eu bod yn wirioneddol o blaid trafod y syniad. Dangoswyd i ni ddau safle posibl ac fe roddasom ni amlinelliad iddynt o'r gefnogaeth ariannol fyddai ei angen ar yr Eisteddfod pe taem am gynnal yr ŵyl yno.

Dywedwyd wrthynt hefyd ein bod mewn trafodaethau gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i geisio sicrhau dyfodol tymor hir yr Eisteddfod, ac eglurwyd y byddai cynnal yr ŵyl y tu allan i Gymru yn anhebygol iawn pe tae holl awdurdodau lleol Cymru yn cytuno i roddi cyfraniad ariannol blynyddol i'r Eisteddfod.

Y mae'r cytundeb gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn un hanesyddol sy'n mynd i roddi sicrwydd tymor hir i'r Eisteddfod, ac er fod y syniad o gynnal y Brifwyl yn Lerpwl yn apelio i rai, doedd dim ond un dewis call yn wynebu awdurdodau'r Eisteddfod.

Martin o Fanceinion
Hoffwn weld e.e. Elfed Roberts ag Aled Lloyd Davies yn ymateb i'r cwestiwn allweddol yma ar wefan swyddogol y BibieC: Sut yn union y bydd Steddfod Fflint 07 yn creu adfywiad hynod o gyffrous parthed Cymdeithasau Cymraeg Lloegr? Beth yn union yw'r weledigaeth?? Edrychaf ymlaen at ymateb uchelgeisiol...

Martin o Fanceinion
Faint o sylw mae'r Brifwyl wedi ei chael ym mhapurau Llundain (e.e. Guardian a Thimes) yn y gorffennol? Oni fyddai Steddfod Lerpwl wedi cael llwyth o sylw mewn papurau newydd Prydeinig/Saesneg? Mae'n anodd gweld sut y bydd Steddfod Fflint yn cael llwyth o sylw ledled Prydain...Y caswir yw nad oedd y genedl Gymraeg (hyd yn oed ar ol cael siop siarad diflas ym Mae Caerdydd) yn ddigon hunanhyderus, uchelgesisiol ag eangfrydig ar gyfer yr her anferthol-h.y. Steddfod Lerpwl. Os na fydd Steddfod Fflint yn gwneud ymdrech UNIGRYW ac HYNOD O EGNIOL i ailatgoffa Cymry Lloegr o'u Cymreictod yna bydd hyn yn hollol annerbyniol a chul!

Martin o Fanceinion
Cwestiwn arall i Jim-sgin ti unrhyw glem faint o filoedd o Gymry cymraeg sy'n byw yn Lloegr ar hyn o bryd?? Na finna chwaith...oni fyddai steddfod Lerpwl07 wedi bod yn gyfle gwych i atgoffa'r miloedd ar filoedd o'r bobl yma nad yw hi'n hollol angenrheidiol byw yng Nghymru os am gyfrannu i'r diwylliant Cymraeg-heddiw yn y byd modren cyflym a chyffrous yma, gellir cyfrannu i'r diwylliant lleiafrifol yma o bedwar ban byd! Rhaid cryfhau'r Cymdeithasau Cymraeg sydd yn bodoli yn Lloegr! Beth yn union yw gweledigaeth pwysigion Steddfod Fflint07 ar gyfer ailrymuso a chynyddu cyfraniad Cymry Lloegr?? Unwaith eto-a oes ymateb?

Martin o Fanceinion
Jim-dwi'n cytuno gyda chdi mai YNG NGHYMRU (h.y. "gartref") mae'r "frwydr fawr". Dyma'n union pam fy mod wedi cefnogi Steddfod Lerpwl07-sef rhywbeth unwaith yn y pedwar amser!Lerpwl07 ac yna Fflint e.e. 2011...beth yn union oedd y broblem? Unwaith yn y pedwar amser ar dir Lloegr-pam yn union nad oedd y genedl Gymraeg yn ddigon uchelgeisiol ar gyfer yr her yma? Mae gan y BBC raglenni diwylliannol eitha difyr ar e.e. BBC2...byddai Steddfod Lerpwl07 wedi cael sylw haeddiannol mewn rhaglenni "Prydeinig"-llwyth o sylw i ragoriaeth Gymraeg-a ydym yn rhy swil fel cenedl? Jim-mae'n hynod o ddiddorol cael sgwrs gyda rhywun am y Gymraeg yma ym Manceinion-maent yn gwybod rhywfaint am yr iaith-ond mae'n bwysig eu hatgoffa fod yr heniaith yn berthnasol i filoedd o bobl ar yr ynysoedd yma...Rhaid argyhoeddi pobl Prydain fod y Gymraeg yn mynd o nerth i nerth.

Jim Dolman, Fflint
Pam ddylai'r bobl yn Lloegr (neu unrhywle arall o ran hynny) gael eu hatgoffa o ddiwylliant Cymry Cymraeg??? Gartref y mae'r frwydr fawr!

Martin o Fanceinion
Sut yn union y bydd Steddfod Fflint yn atgoffa Lloegr a'i phobl (a hyn mewn ffordd hynod o feiddgar a chyfeillgar) fod y Gymraeg yn ffenomen fyw go iawn?A oes ymateb?

Martin o Fanceinion
Yn gyntaf, hoffwn ddymuno pob lwc a llwyddiant i'r Steddfod y flwyddyn nesaf - efallai y byddai i yn prynnu tocyn wythnos. Dwi'n siwr y bydd hi'n Steddfod lwyddiannus a chofiadwy iawn.

Fodd bynnag, LERPWL oedd yr opsiwn cywir i fflam Cymreictod - nid Sir y Fflint. Mae'n anodd coelio weithiau nad oedd y genedl Gymraeg yn ddigon blaengar ac hunanhyderus i wynebu'r sialens enfawr (h.y. Steddfod Lerpwl). Mae'n anodd iawn gweld sut y bydd y genedl Gymraeg yn cael cyfle gwell i ailatgoffa Cymry alltud Lloegr o'u Cymreictod - onid yw hyn yn bwysig iawn os ydym yn mynd i weld y diwylliant Cymraeg yn mynd o nerth i nerth? Gobeithio'n fawr y bydd Fflint07 yn gwneud ymdrech fawr iawn i ysbrydoli y miloedd o Gymry sy'n byw yn Lloegr - ond byddai Lerpwl07 wedi bod yn lwyfan llawer iawn mwy beiddgar ac effeithiol ar gyfer y dasg yma.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy