Roedd ei berfformiad yn wreiddiol i'r gwaith ffilm a wnaeth, ond yr un mor effeithiol. Profai hyn ei allu i weithio mewn gwahanol feysydd o'r cyfryngau'n effeithiol. Cefais y siawns i gyfweld â fo ar ôl y cynhyrchiad, mewn bar y tu nôl i'r llwyfan. Cerddodd i mewn gan edrych yn eitha' nerfus, (gan fy mod yna efo disgyblion eraill o Ysgol Uwchradd Cei Cona.) Roedd yn fwy na pharod i gael cyfweliad er bod ei amser yn brin ac nid oedd wedi newid ar ôl ei berfformiad. Gwisgai got hir oedd yn ychwanegu at ei daldra.
1) Oes well gyda chi weithio mewn cynyrchiadau ffilm neu lwyfan? Dwi'n 'licio'r ddau gymaint â'i gilydd. Maent mor wahanol.
2) Ydach chi'n ceisio bod fel rhyw un sy'n gweithio ar hyn o bryd yn y diwydiant ffilm? Na dim wir .. J.Lopez. (gan chwerthin)
3) Pa ffilm fwynheuoch ei gwneud orau a pham? 'Twin Town' oherwydd cafodd ei lleoli yng Nghymru, roedd fy mrawd ynddi a hon oedd y ffilm gyntaf llwyddiannus i mi ei gwneud.
4) Ydach chi'n gweithio ar unrhyw gynyrchiadau ffilm ar y foment? Beth? Ydw ond dw i'n methu siarad amdanynt ar hyn o bryd.
5) Efo pa actor wnaethoch chi fwynhau gweithio a pham? Cathy Burke, dwi 'di bod mewn tair ffilm efo hi, mae'n hwyl gweithio efo hi, a Kevin Spacey. Pawb wir.
6) Pwy ddylanwadodd arnoch i fod yn actor? Neb wir....canfyddais yn yr ysgol ei fod yn ffordd dda o golli gwersi ac o'n i'n eitha' da. Doeddwn i ddim yn andros o academaidd yn yr ysgol, ond ar ôl dechrau actio gwerthfawrogais eiriau a ieithoedd a roedd rheswm i ddarllen a dysgu am hanes agorodd fyd newydd.
7) Ydach chi'n cynghori actio fel proffesiwn? Os dach chi'n wirioneddol ddifrifol, ydw! Ond os dydach chi ddim yn siwr, anghofiwch amdano. I ferched mae'n llawer anoddach oherwydd mae llai o waith. Does dim ond 4% o actorion mewn gwaith ar un amser penodol.
Mae llawer o'r ffrindiau es i i ddrama efo nhw ddim ond wedi gweithio unwaith (os hynny ) yn y dwy, dair blynedd ddiwethaf.
8) Ydi o'n wir yr aethoch chi i Ysgol Maes Garmon? Yndi. tan chweched
9) Y cwestiwn anochel. Oes gyda chi gariad? Oes, oes...mae hi'n gynhyrchydd ffasiwn, ei henw yw Jess. Mae hi'n andros o rhywiol.
Roeddwn wedi gwirioni ei fod mor hwyliog ac yn barod i ateb gymaint o gwestiynau. Doedd o ddim yn ymddwyn fel tasech yn disgwyl i actor o Hollywood. Mae'n ymwybodol o'i wreiddiau ac yn falch ei fod yn Gymro. Dywedodd ei fod yn falch o gael ei gyfweld gan Gymraes.
Lowri Mair Hadden, Disgybl yn Ysgol Maes Garmon