| Braf iawn oedd darllen yn y wasg Saesneg bod un o ferched glandeg Cilcain, sydd hefyd yn gyn-ddisgybl o ysgolion Glanrafon a Maes Garmon, wedi ennill bri ychwanegol trwy gael ei dewis yn un o sêr y llwyfan mewn sioe gerdd newydd sbon sydd i gael ei Ilwyfannu yng Ngŵyl Caeredin ym mis Awst eleni. Nid yw ei llwyddiant fel cantores broffesiynol yn synnu dim ar y rhai sy'n ei chofio mewn eisteddfodau ac yn chwarae rhannau mewn cyngherddau a sioeau cerdd yn yr ysgol. Wedi'r cwbl, mae hi wedi ennill bri mawr fel unawdydd yn Glyndebourne a hefyd gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Lloegr. Ond mae'r gwys newydd hon yn torri tir newydd, gan mai sioe gerdd ddychanol ydyw - sioe sydd wedi'i seilio ar hanes rhai o grwydriadau carwriaethol cyn-ysgrifennydd Cartref Llywodraeth Prydain, sef David Blunkett. Cynigiwyd i Lynne Davies chwarae un o'r prif rannau, sef Kimberly Fortier - yr Americanes a arweiniodd y gŵr o Sheffield i adael y llwybr cul. Mae'r sioe ogleisiol hon, "David Blunkett: The Musical" a 'sgrifennwyd gan Ginny Dougary ac M J Paranzino yn cael ei pharatoi i'w chyflwyno yng Nghaeredin o'r wythfed i'r degfed ar hugain o fis Awst. Mae pethau'n argoeli'n dda, yn ôl pob sôn, gydag adolygydd The Times yn cyfeirio at ganu Lynne efo'r geiriau "...Lynne Davies has a nightingale-beautiful soprano voice. Watching her inhabit Kimberly in that Traviata-esque opening was like some sort of alchemy. I hardly dared to look for fear of breaking the spell". Dymunwn yn dda i Lynne. Rydym fel ardal yn ymfalchio yn ei llwyddiant. Tybed faint ohonom a gaiff weld y sioe?
 |