| Sefydlwyd Teledu i Bawb ym mis Mawrth 1994 fel grwp trawsbleidiol i wella derbyniad teledu a radio yn Sir y Fflint. Ar y pryd roedd tua 18,000 o bobl yn Nelyn yn methu a derbyn Radio Cymru neu unrhyw sianel deledu o Gymru. Mae Gareth Roberts yn egluro'r hanes, "Ffurfiwyd pwyllgor efo'r 4 swyddog yn dod o blaid wahanol a mynychwyd cyfarfodydd cyhoeddus S4C a BBC Cymru i alw am gyfiawnder. Ar ôl i aelod o'r pwyllgor ymuno â Chyngor Darlledu BBC Cymru symudodd pethau'n gyflymach ac ym mis Chwefror 1996 adeiladwyd nosglwyddyddion yn Nhreffynnon, Bagillt a'r Fflint i ddod â BBC Cymru ac S4C i filoedd o wylwyr newydd. Daeth teledu digidol i helpu datrys y broblem o ambell bentre arall fel Ffynnongroyw oedd wedi methu â manteisio ar y trosglwyddyddion newydd ac ar ôl ymgyrchu eto ychwanegodd HTV a BBC Radio Cymru i'r system digidol. Dau fis yn ôl daeth trosglwyddydd arall i ddod â Radio Cymru i'r ardal trwy'r system gyffredinol (ar gael mewn ceir a radio cyffredin) felly penderfynwyd cau yr ymgyrch. Felly, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor a phawb sydd wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd. Oherwydd doedd y rhan fwya o swyddogion ddim yn hawlio treuliau roedd pres yn y banc. Penderfynwyd rhoi y pres (116.29) i achos diwylliannol arall yn yr ardal - Gŵyl Cadi Ha." Yn derbyn y siec fel Cadeirydd Gwyl Cadi Ha dywedodd Chris Bailey, "Rydym yn ddiolchgar iawn i bwyllgor Teledu i Bawb am gefnogi ein Gwyl fel hyn. Cynhelir Gŵyl Cadi Ha fel gŵyl ddawnsio dros benwythnos cyntaf mis Mai efo 250 o blant, oedolion o bob rhan o Gymru a thîm o Fflandrys yn dawnsio yn Stryd Fawr Treffynnon bore Sadwrn cyn i'r oedolion symud ymlaen i Abaty Dinas Basing a Chaerwys yn y p'nawn a Loggerheads ar ddydd Sul. Mae hefyd dwmpath dawns yn neuadd yr Eglwys, Yr Wyddgrug ar nos Sadwrn. Mae'r wyl angen llawer o bres i gynnal felly diolch i Teledu i Bawb, Menter laith Sir y Fflint, a cynghorau tref Treffynnon, Yr Wyddgrug a Chaerwys am eu cefnogaeth."
 |