Ydych chi wedi byw yn unrhywle arall heblaw am ardal Papur Fama?
Ces i fy ngeni yn Tranmere, Penbedw, ond ar ôl colli ein cartref a busnes fy nhad yn y bomio ar ddechrau'r Ail Ryfel, symud o le i le fu ein hanes - Rock Ferry, Parkgate, Willaston, gan sefydlu yn Bromborough pan oeddwn i'n ddwy a hanner mlwydd oed ac yno es i Ysgol Fach yr Eglwys yn y pentre nes symud i Ysgol Ramadeg Cilgwri yn Bebington. Ar ôl priodi bu Margaret a finne yn gweithio yng Nghaer ac yn byw ym Mrychtyn ac yna Bwcle cyn symud i'r Wyddgrug yn 1980.
Beth yw eich hoff beth am ardal Papur Fama?
Dw i'n teimlo fy hun yn freintiedig iawn i fyw yma. Cyfleustra y gwasanaethau yw'r fantais fwyaf. Ysgolion, ysbytai ac o fewn tri chwarter awr mi fedrwn gyrraedd meysydd awyr Lerpwl a Manceinion. Gwasanaeth trên da o Gaer i Gaerdydd ac i Lundain. Dwi'n casau siopa, ond mae gynnon ni ddigon o ddewis pan fo angen. Mae hyn yn bur wahanol i'r sefyllfa mewn ardaloedd eraill yng Nghymru a Lloegr. I goroni'r cwbl dan ni'n byw mewn ardal hanesyddol a phrydferth eithriadol, yn gyfleus i lan y môr.
Os oes un peth y medrech ei newid neu ei ychwanegu at ardal Papur Fama, beth fasai'r peth yna?
Dw i'n cofio ardal Papur Fama ers trigain mlynedd bellach. Yn anffodus mae'r ardal wedi colli llawer o'r Chymreictod naturiol yn ystod y cyfnod yna. Mi fuaswn i'n taeru bod llai o Gymry yn symud i Gaer y dyddiau yma ac yn sicr mae na lawer llai o Gymraeg i'w glywed ar strydoedd Yr Wyddgrug yn enwedig ar ddiwrnod ffair.
I fyny at y 70au 'roedd nifer dda o siopau yma yn cael eu rhedeg gan Gymry Cymraeg. Siop 'ironmonger' ar y Stryd Newydd, siop cigydd a siop y cryddion yn Stryt Wrecsam a nifer fawr o siopau eraill lle roedd yn bosibl gofyn neges yng Nghymraeg. Roedd y Cymry yn y siopau yn bobl glên, cwrtais a chyfeillgar. 'Does neb llawer o'u tebyg heddiw 'blaw am Selwyn ac Ann yn 'Y Siswrn' a Siân yn y siop torri gwallt, y gwn i amdanynt. Mae angen llawer mwy o Gymry ifainc i gychwyn busnesau yn yr ardal. Wrth gwrs dan ni'n gweld llawer o'n hieuenctid yn mynd i fyw i Gaerdydd ac i lefydd eraill. Colled enfawr yw hynna a phe bai modd hoffwn i weld ardal Papur Fama yn dod yn llawer mwy deniadol i'r bobl ifainc gael aros yma neu i ddychwelyd yma i fyw.
Petaech yn cael dewis byw yn unrhywle o gwbl, ar wahan i'r ardal yma, ble basai hynny?
Yr unig le fuasai Rhuthun, tu allan i ardal Papur Fama! Ond cwestiwn anodd yw hynna achos bum yn teithio cryn dipyn wedi i mi golli Margaret, fy mhriod, ddeng mlynedd yn ôl. Mae pobl, a hyd yn oed adeiladau, yn bwysig i mi ac mae'n anodd tu hwnt i ddiwreiddio o'r rhain. Yn sicr pan fo'r glaw a'r gwynt yn chwythu mae na demtasiwn fawr i ddianc i le cynnes, braf. Fel mae'n digwydd rwy'n llwyddo i wneud hyn y rhan fwyaf o'r amser!
Pwy neu beth sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch?
Rhieni a'r teulu yn bendant. 'Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael rhieni gofalus a chefndir teuluol Cymreig, er bod yr aelwyd yn hollol Saesneg ei hiaith. Rhywfodd neu'i gilydd ddaru fi gael cwmni ddigon o Gymry Cymraeg yn fy ieuenctid i sicrhau gwybodaeth elfennol o'r iaith. Ar ôl priodi ces i'r cyfle i ddod yn fwy rhugl wrth ddwyn ein plant, Richard a David, i fyny i siarad Cymraeg.
Beth oeddech chi'n fwynhau fwyaf am eich gwaith?
Cwmpeini fy nghyd-weithwyr a hefyd y cyfle i gyfarfod â phobl arbennig iawn yn y maes gwirfoddol. Wrth deithio trwy Gymru manteisiais ar y cyfle i ymweld â llefydd hanesyddol a chael ymgom gyda phobl ddiddorol dros ben.
Petaech yn cael diwrnod cyfan i chi'ch hun, i wneud yn union fel y mynnech, beth fasech chi'n ei wneud?
Wel, mi rydw i! 'Does dim byd gwell na mynd i archifdy a darllen trwy rai o'r hen ddogfennau neu'r papurau newydd o'r oes o'r blaen. Rwy wedi cael pleser mawr wrth hel achau teulu fy hun ac hefyd yn gwneud yr un peth dros eraill. Mae'r gwaith diddorol yma wedi achosi imi greu cysylltiadau yn yr Unol Daleithiau, Canada ac yn fwy diweddar yn Dubai! Mae'n waith sydd yn cymeryd amser ond mae'n gallu dod â phleser eithriadol wrth ddarganfod cysylltiadau newydd. Wrth gwrs mae'n gallu bod yn ffynhonnell bwysig iawn. Rhaid magu sgiliau newydd fel darllen hen ysgrifen ac ychwanegu eich gwybodaeth o ieithoedd eraill a thraddodiadau a chyfraith gwlad yn yr hen amser.
Pa lyfr wnaethoch chi ei ddarllen ddiwetha?
'Pwyso ar y Giât' gan Dr Aled Lloyd Davies gan fwynhau'r cyfan. Mae gennyf barch mawr at yr hyn mae Aled yn ei gyflawni mewn bywyd a da o beth yw cael peth o'r hanes mewn du a gwyn. Hwn oedd y llyfr diwethaf imi ddarllen o glawr i glawr.
Petaech yn cael ymweld ag unrhyw un wlad, ble fyddech yn dewid mynd a pham?
Hoffwn ymweld â Tseina am fy mod i'n gwybod cyn lleied am y wlad. Arfer teithio ar fy liwt fy hun ydw i sydd yn caniatau imi grwydro odd ar y llwybrau arferol. Hanner y diddordeb wrth deithio yw gwneud ymchwil cyn mynd ac mae hyn yn gallu cymeryd mwy o amser na'r teithio ei hun! Gwelais i raglen am bentre yng nghefn gwlad Tseina yn ddiweddar ac yr oedd hyn yn edrych yn ddiddorol dros ben gyda golygfeydd godidog. Mi fuasai'n rhaid imi ddysgu rhywfaint o'r iaith a hyn yn sialens ynddo'i hun.
Petaech yn cael gwahodd 3 o bobl (byw neu farw) i rannu bwrdd bwyd gyda chi, pwy fasech yn eu dewis a pham?
I sicrhau cydbwysedd wrth y bwrdd rwyf wedi dewis dwy ferch ac un dyn. Yn gyntaf Dame Judy Dench - actores aml-ochrog gyda llais hyfryd a finne'n gallu gwrando ar y llais yna am oriau a deal pob gair. Mae hi hefyd yn perthyn i'r Crynwyr a dw i wedi ffeindio pobl sydd yn perthyn i'r perswâd hwnnw yn bobl onest, cydwybodol a chyfeillgar dros ben. 'Rwy'n siwr y buasai rhai straeon am hynt a helynt ei bywyd yn ddiddorol dros ben.
Yn ail Julie Walters - actores arall am ei bod hi mor ffraeth a gwreiddiol mewn cyfweliadau ar deledu a radio. Dim cweit mor 'barchus' â Dame Judy ond hoffwn i weld sut mae'r ddwy yn tynnu ymlaen. Mae hi a'i gwr yn rhedeg fferm organig yn Sussex ac mae hi wastad yn dod trosodd fel tipyn o gymeriad.
Ac yn olaf brawd fy hen daid, sef Y Parchedig John Dafis, Nercwys (1799-1879) am ei fod ynte yn un doniol a ffraeth, ac yn hoffi cwmni merched, yn ôl y sôn. Roedd yn hoffi bwyd hefyd a does dim gwell gennyf na chael cwmni un sydd yn barod i orffen yr hwn sydd ar y plôt. Mae gennyf sawl cwestiwn hoffwn i ofyn iddo fo am hanes y teulu ac am sut mae o'n teimlo am Gymru heddiw. Rwy'n siwr y buasai o'n falch iawn wrth weld yr holl dafarndai'n cau!