Mae'n stori gyfarwydd y dyddiau hyn - dolen newydd arall yn cael ei chreu rhwng Cymru a'r wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Mae'r diddordeb yn yr iaith ar gynnydd yno, a channoedd o Gymry yn teithio yno bob blwyddyn gan roi bywyd newydd i'r diwylliant Cymraeg ar y paith. Mae'r holl deithio yma i Dde America - ac i rannau o Ewrop Ladin - wedi cynyddu'r diddordeb sydd gan y Cymry mewn dysgu Sbaeneg yn ogystal, gyda nifer o ddosbarthiadau nos ar hyd a lled y wlad. Mae'n arferol gweld cyhoeddiadau dwyieithog gan weisg Ewropeaidd, ac am y tro cyntaf bydd cyfres o straeon clasurol i blant yn cael eu cyhoeddi ym Gymraeg a Sbaeneg eleni. Drwy gydweithrediad Gwasg Carreg Gwalch a Gemser o Barcelona yng Nghatalwnia, cyhoeddir straeon y Tri Mochyn Bach, yr Hugan Fach Goch, Elen Benfelen a'r Tair Arth a Peter Pan mewn cyfres newydd - Cyfres Patagonia. 'Emily Huws, yr awdures o Gaeathro, ddaeth atom ni'n wreiddiol gyda'r cais,' meddai Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch. 'Mae ganddi nith a nai sy'n cael eu magu ar aelwyd ddwyieithog, Cymraeg a Sbaeneg. Mae un o olygyddion y Wasg, Esyllt Nest o'r Ffôr, wedi priodi ac yn byw yn y Gaiman ac mae ganddyn nhwythau ddau o feibion - Mabon ac Idris. Roedd mentro ar gyfres fel hyn yn gam naturiol ac wrth ddechrau chwilio am bartner, mi fuom yn hynod o ffodus yn taro ar y cwmni hynaws yma o Gatalwnia sy'n cynnig gwaith celf ardderchog i'r llyfrau. Fydd yr ieithoedd ddim problem i fwynhad y plant a gall y rhieni ddewis eu hiaith eu hunain wrth ddarllen y stori. Mi fyddwn yn anfon pecyn am ddim i'r Wladfa ac felly bydd pob copi a brynir yma yng Nghymru yn noddi'r Gymraeg ym Mhatagonia." Bu Emily Huws yn frwdfrydig ynglŷn â'r gyfres o'r dechrau un ac ar drothwy gweld eu cyhoeddi meddai wrth Papur Fama: "Daeth geni Elin Margaret a Matthew Andreas, efeilliaid fy nai Richard Hogg a'i wraig Monica - sy'n dod o Golombia - â llawenydd mawr iawn i'n teulu ni. Maent yn flwydd a hanner oed erbyn hyn, yn mynd i Ti a Fi ac wedi dod i fyw i'r Wyddgrug er mwyn cael mynd i Ysgol Glanrafon pan fyddan nhw'n blant mawr. Nhw oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer Cyfres Patagonia. Bydd mam (a nain Colombia pan ddaw draw am dro) yn darllen y stori yn Sbaeneg iddyn nhw a dad a taid (Charles Hogg) yn ei darllen yn Gymraeg. Fel plant ym mhobman, mae Elin a Matthew wrth eu bodd yn cael stori. A dyma'r hen, hen storiau cyfarwydd, sicr eu hapel, mewn diwyg deniadol eithriadol ar eu cyfer nhw a holl blant Cymru a Phatagonia. Teimlaf yn hynod o falch o hynny."
 |