BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Castell EwloYmweliad hudolus i Gastell Ewlo
Ionawr 2009
Ymweliad grŵp o blant o'r Wyddgrug a'u rhieni i Gastell Ewlo ym Mharc Wepra ger Cei Connah.

Gyda phibonwydd rhewllyd ar readr yr afon a'r iâ gwyn ar hyd brigau'r coed, roedd coedwigoedd parc Gwepra yng Nghei Conna llawn hud a lledrith ar ddiwrnod cyntaf ac oer y flwyddyn newydd!

Bu saith o blant Yr Wyddgrug a'i rhieni i ymweld ag un o gestyll Llywelyn Fawr sy'n sefyll yn guddiedig mewn ardal anghysbell a thawel uwchlaw parc Gwepra rhwng Cei Connah ac Ewlo.

Yn 1146 fe gododd Owain Gwynedd gastell mwnt a beili, ond yn 1220 fe godwyd castell parhaol o gerrig i gymryd lle'r hen gastell pren a oedd wedi dirywio. Difethwyd y castell pren yn ddigon naturiol yn ystod ei gyfnod o amddiffyn y tiriogaeth lle ymlwybrodd y gelyn o gyfeiriad Caer. Fe gollwyd y Castell parhaol i goron Lloegr yn ystod teyrnasiad Dafydd ap Llywelyn. Yn 1257 cipwyd y castell oddi wrth y Saeson gan Dafydd ap Gruffydd a bu ymladd ffyrnig o gwmpas ei diriogaeth.

Yn ystod rhyfel Annibyniaeth Cyntaf y Cymry yn 1276-77 cododd Edward y 1af Castell y Fflint ac o ganlyniad fe gollodd Ewlo ei bwrpas milwrol fel amddiffynfa pwrpasol Gwynedd. Nid oedd y castell yn dyst i unrhyw weithgaredd wedi hynny.

Erbyn hyn mae'r Castell yn cael ei warchod gan Ymddiriedolaeth Cadw ac yn le arbennig i ymweld ag o. Gyda'i phontydd bach taclus yn croesi'r afon bas a throellog, y graig goch, y planhigion a'r coed di-ddiwedd a'r holl anifeiliaid gwyllt, megis y moch daear, llwynogod, adar ac ystlumod, mae'n werth treulio'r diwrnod (sy'n rhad ac am ddim) mewn ardal mor hardd ei natur a thlws ei golwg ar gyrion Cei Connah.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy