Cychwynnwyd tua hanner awr wedi saith fore Mawrth ac, ar ôl taith hwylus ar hyd y traffyrdd a mordaith dawel, cyrhaeddwyd Brugge tua hanner awr wedi saith yr hwyr lle 'roedd pryd o fwyd yn ein haros. Gwyddai pawb fod dyddiau prysur o'n blaenau a throi am y gwely oedd orau.Tir gwastad ac isel sydd i ran helaeth o ogledd-orllewin Ewrop fel y gwyddom. Prin fod unman yn uwch na chan troedfedd uwchlaw'r môr ac y mae mewn llawer man yn is. Os am gyrraedd yr uchelfannau, rhaid felly oedd dibynnu ar y côr - ac ni chawsom ein siomi.
Yr oedd rhaglen lawn i'w chyflawni mewn tridiau a gweithiau clasurol anodd i'w perfformio gan gychwyn yn y "Sint Michiel kathedraal" ym Mrwsel brynhawn Mercher. Er cychwyn yn fore, prin iawn oedd yr amser i ymarfer. Roedd organydd yr eglwys yn naturiol bryderus fod dieithryn llwyr yn mynd i chwarae organ fawr y gadeirlan. Petai yn adnabod Tim Stuart, cyfeilydd y côr, ni fyddai raid iddo bryderu dim.
O fewn munudau yr oedd yr eglwys anferth yn llawna'r côr yn morio canu "Zadok the Priest". Anffurfiol ei naws oedd y cyfarfod yn yr ystyr nad oedd cynulleidfa eisteddedig arferol ond ymwelwyr yn mynd a dod ond unwaith wedi dod - doedd fawr neb yn mynd. Yn hytrach 'roedd bron bawb - pobl a phlant o bob rhan o'r byd - yn aros i glywed gweddill y wledd gerddorol oedd yn cynnwys 'Ave Verum' (Mozart), 'Magnificat' (John Rutter), 'The Armed Man' (Karl Jenkins) ynghyd â 'All in the April Evening' i'r merched a 'Morte Christe' i'r dynion. Y diweddglo oedd 'Atgof o'r Sêr' gan Robat Arwyn.
Perfformiwyd rhaglen debyg yn y "Sint Baafs kathedraal" yn Gent brynhawn Iau a rhaglen ychydig yn ysgafnach yn y "Sint Antoniuskirk" yn nhref glan y môr Blankenberge nos Wener. 'Roedd hon yn cynnwys 'Y Fodrwy Briodas' a 'Myfanwy', ond gwaith Robat Arwyn Oedd diweddglo pob rhaglen.
Yr uchafbwynt?
Cwestiwn a ofynnir yn aml am daith o'r fath yw - "beth oedd yr uchafbwynt?". Mae'n debyg i bawb deimlo rhyw ysbaid wefreiddiol neu gofio perfformiad arbennig ond, ar ôl gadael cadeirian Gent brynhawn Iau cafwyd profiad cwbl unigryw. Teithiwyd i Ypres (neu Ieper) lle roedd cinio yn ein haros ac yna cerdded ar draws sgwâr y dref hyd at Borth Menen. Yma, am wyth o'r gloch bob nos ers Gorffennaf 1, 1928 (ar wahân i gyfnod yn ystod yr ail ryfel byd pan oedd y Natsïaid wedi goresgyn yr ardal) fe gynhelir seremoni ddisgybledig, eto syml, i goffau'r 56,000 o filwyr y rhyfel byd cyntaf sydd wedi eu cofrestru fel "ar goll".
Ar nos Iau Ebrill 15 odditan y borth enfawr yr oedd Cymdeithas Gorawl Yr Wyddgrug ynghyd â tua wyth gant o wylwyr wedi ymgasglu. Cychwynnwyd gyda'r 'Utgorn Olaf' a '(Last Post) yna tro y côr a 'Guide me O Thou Great Redeemer' (Cwm Rhondda, wrth gwrs) yn ddi-gyfeiliant, gweddi arferol dydd y cofio, y côr wedyn gyda datganiad mwyaf trawiadol ac addas y noson sef emyn Elfed - "Rho im yr hedd -" (Rhys). Ar ôl gosod y torchau - y gyntaf gan y Llu Awyr a'r ail - torch hardd o gennin Pedr ar ran y Cymry- ac ar darawiad wyth o'r gloch "Caniad y Bore" (Reveille.)
Er bod catrawd o rhyw gangen o luoedd arfog Prydain yn cymryd rhan yn y seremoni, aelodau'r frigâd dân leol sydd bob amser wedi gofalu am y rhan offerynnol. Yr oedd can bod yn rhan o'r seremoni yn brofiad bythgofiadwy ac er fod criw o Gymru wedi gadael y dorch felen hardd ar eu hôl, gadawsant argraff ddyfnach ar y gwylwyr trwy eu perfformiad o'r ddwy emyn. Bydd seremoni rhif 25895 yn aros yng nghof llawer am byth.
Ar ôl tridiau prysur o deithio, ymarfer, perfformio, a gosod i fyny offer, doedd ryfedd fod, cefnogwyr heb sôn am y cantorion yn teimlo angen seibiant. Cafwyd prynhawn Gwener rhwng ymarfer Blankenberge a'r perfformiad, yn rhydd. Dewisodd y rhan fwyaf aros yn Mrugge ymysg y siopau lês a siocled neu ar y gamlas ond dychwelodd rhyw ugain i Ypres.
Dyma dir Fflandrys, wrth gwrs, ac amhosibl ar ôl naw deng mlynedd, yw osgoi effeithiau'r rhyfel byd cyntaf. Ar wahân i'r mynwentydd, fe welir nifer o gerrig coffa yn y caeau a daw ffrwydron o hyd i'r wyneb wrth i'r ffermwyr aredir. Ar y gornel bellaf o sgwâr y dref oddi wrth Borth Menen y mae amgueddfa yn croniclo hanes y rhyfel gydag ymgais i ddod â'r erchylltra yn fwy byw i'r ymwelydd.
Y mae un nodwedd arall i'r amgueddfa. Wrth y fynedfa 'roedd cardiau bychain tebyg i gerdyn credyd yn cael eu rhannu. 'Roedd y dewis yn gwbl ar hap ond arno yr oedd côd bar ynghyd ag enw unigolyn. Y siawns oedd na olygai yr enw ddim i'r un a'i derbyniodd ond, wrth roi cerdyn mewn peiriant tebyg i dwll arian y banc, fe gaech hanes yn dilyn hynt a helynt y person hwnnw drwy'r rhyfel.
Hanes Hedd Wyn
Pa enw feddyliech ddaeth i law un o'r Cymry yn y criw bach? Hedd Wyn wrth gwrs. Croniclwyd ei hanes mewn tair rhan yn cychwyn pan ymunodd â'r ffiwsilwyr Cymreig yn Lerpwl yn Chwefror 1917 ac yn cael caniatâd i fynd adref i aredig. Ymunodd er mwyn arbed ei frawd Bob rhag gwneud hynny ac yna allan i Fflandrys. Anfonwyd ei gatrawd i'r gyflafan ym mhentref Pilckem rhyw dair milltir i'r gogledd o Ypres ar Orffennaf 31 1917 ac yno fe'i clwyfwyd yn un o 31000 y diwrnod hwnnw. Nid oes sicrwydd a gafodd ei gyfeillion ef i ysbyty ai peidio cyn iddo farw. Mae wedi ei gladdu yn mynwent "Aertillery Wood", Boesinghe ger Ypres. Gyrrwyd hwy allan yn syth ond dinistriwyd y dref yn llwyr a lladdwyd miloedd wrth eu cadw draw.
Ar y ffordd adref ar ôl pedwar diwrnod hafaidd, tyner, teimlai pawb ar ddiwedd hon - y drydedd daith dramor i'r côr - fod pennod arall yn hanes y côr yn cau. Yn wir mae'r llyfr bron ar gau oherwydd fod cyfnod Shan Gruffydd fel arweinydd yn dirwyn i ben. Daeth y côr yn ei ffurf bresennol i fod yn dilyn Eisteddfod Bro Delyn ym 1991 pan gymrodd Shan drosodd yr arweinyddiaeth ar ôl cynorthwyo gyda chôr yr Eisteddfod.
Cymdeithas Gorawl ydyw ac y mae'r aelodau a phawb sydd yn gysylltiedig wedi gweld ehangu eu gorwelion yn gymdeithasol a cherddorol. Mae Shan, drwy ei hynni, ei brwdfrydedd a'i gallu cerddorol diamheuol wedi cael y gorau allan o'i haelodau dros bron bedair blynedd ar ddeg. Mae'n dweud y cwbl pan - ar ôl yr holl bwnio, ceryddu a phrofocio - mae ei "thenoriaid bach" yn dal yn ei charu!!