| Ymysg y ffigyrau brawychus a ddatgelwyd roedd un ffigwr yn honni bod rheini Cymraeg eu hiaith yn arddel Saesneg ar yr aelwyd, a bod y plant yn cael eu magu heb fedru'r Gymraeg. Dyma hanes un teulu o fro Fama sy'n mynd i godi'ch calon chi. Dysgu Cymraeg Ganwyd Debbie Birch yn Lerpwl ac yno y treuliodd bum mlynedd cyntaf ei hoes cyn symud i Nannerch. Daeth i Ysgol Maes Garmon yn 11 oed fel dysgwraig a llwyddodd i ddysgu'r Gymraeg cyn gadael a mynd i weithio i filfeddyg yn Yr Wyddgrug. Ganwyd Carl Edwards yn Clatterbridge ac oddi yno symudodd y teulu i fyw i Fynydd Isa. Meistrolodd Carl y Gymraeg cyn symud i Goleg Arlunio lle bu am bedair blynedd. Bu'n gweithio yn Llundain, Manceinion, Leeds a Lerpwl cyn sefydlu ei gwmni ei hun (gyda phartneriaid). Hysbysebu yw busnes y Cwmni a enwir Frank the Agency. Rhyw 12 mlynedd yn ôl cyfarfu'r ddau tra'n disgwyl bws. Blodeuodd eu cyfeillgarwch ac erbyn rwan mae ganddynt ddau o blant - Ionawr sy'n saith oed a Medi sy'n bedair oed. Mae'r ddwy yn Ysgol Glanrafon. Magu'r plentyn ar aelwyd Gymraeg Pan oedd Debbie yn disgwyl Ionawr fe wnaeth Carl a hithau gytundeb eu bod am fagu'r plentyn ar aelwyd Gymraeg. O hynny ymlaen Cymraeg yw prif iaith yr aelwyd. Mae Debbie yn cynorthwyo yn Ti a Fi ac yn prysur gymhwyso ei hun ar gyfer y gwaith gyda chwrs galwedigaethol. Mae'n cael cyfle i siarad Cymraeg gyda'r mamau yn Ti a Fi. Ar y llaw arall nid yw Carl yn cael dim cyfle i ymarfer ei Gymraeg yn y gwaith sydd, gyda llaw, yn Wimslow, rhyw 50 milltir o'r Wyddgrug. Er bod y teithio yn ychwanegu dwy awr a hanner at ei ddiwrnod gwaith mae o'n ei gweld hi'n bwysig i fyw yng Nghymru er mwyn i'r plant gael pob chwarae teg i fyw bywyd Cymraeg. Llongyfarchiadau i'r teulu bach yma am eu penderfyniad a phob dymuniad da iddyn nhw. Maen nhw wedi dangos y ffordd i nifer o'r Cymry Cymraeg eu hiaith - dim ond ffydd
 |