Be fyddwch chi'n wneud dros yr ha' 'ma? Ffansi dipyn o ddiwylliant Eisteddfodol ond yn teimlo fod Caerdydd braidd yn bell? Beth am ddod i gefnogi eich gwyl celfyddydau traddodiadol lleol? Bydd Tegeingl - Gŵyl y Werin Gudd - ar eich stepen drws felly does dim esgus i chi golli allan.
Mae'r pwyllgor brwd o wirfoddolwyr wedi bod yn brysur yn trefnu gwledd ar eich cyfer. Bydd pabell enfawr felyn a gwyrdd yn cael ei godi ar faes Clwb Rygbi'r Wyddgrug a bydd rhestr hirfaith o artistiaid yno i'ch diddanu.
Ar y prif lwyfan nos Wener bydd Steve Tilston (Lloegr), Fern Hill (Cymru), Martha Tilston (Lloegr), Les Barker (Cymru) a Ceolta Si (Iwerddon) yn perfformio. Dydd a nos Sadwrn bydd Dawnswyr Nantgarw (Cymru), Jes Lowe (Lloegr), Crasdant (Cymru), Bella Hardy (Lloegr), Siân James (Cymru), Eileen McGann a David K (Canada), Pen Tennyn (Wyddgrug) a grŵp o wlad Pwyl yn cynnig amrywiaeth o adloniant o'r safon uchaf. Bydd gweithgareddau eraill hefyd yn cael eu trefnu ar ail safle, megis sesiynau cyfarfod â'r artistiaid a sesiynau offerynnol a chanu anffurfiol.
Bydd yno ddigonedd o bethau i ddiddanu'r teulu: pwll peli i'r babanod, ffair hen ffasiwn i'r plant, sesiwn hwiangerddi gyda Siân James, sesiynau celf a chrefft, chwedl wraig yn adrodd chwedlau lleol ac wrth gwrs cerddoriaeth byw ac arddangosfeydd dawnsio.
Bydd gweithdai telyn, ffidl, clocsio, chwedlau, pypedau, barddoniaeth Cymru a Blasu Cymraeg hefyd ar gael i bawb sydd awydd troi eu llaw at grefft newydd am y penwythnos. Bydd Mei Mac yn cadw trefn ar ein beirdd fel y Stompfeistr yn ystod ein Stomp nos Sadwrn gyda beirdd cydnabyddedig Cymru, gan gynnwys Hywel Griffiths, Iwan Rhys, Les Barker, Nia Môn, Arwyn Groe, Arwel Pod, Arwel Soch Jones a Pedr Wyn! Bydd y cythral canu yn fyw ac yn iach yn ein cystadleuaeth Grŵp Gwerin a Cherddor Ifanc. Mae'n diolch yn fawr i Gyngor Tref yr Wyddgrug a Chymdeithas Will Bryan am y gwobrau.
Bydd Meri Roberts Plas-ym-Mhowys (Cymraeg) a David Jones, Wrecsam (Saesneg), ill dau yn traddodi darlithoedd ar hanes y Foneddiges Herbert Lewis o Gaerwys. Mae'n diolch yn fawr i'r ddynes arbennig hon am recordio a chofnodi nifer o ganeuon gwerin ein hardal, a hebddi a'i ffonograff Edison mae'n debygol y byddai nifer o'r alawon wedi mynd yn angof. Mae Clwb Rygbi'r Wyddgrug hefyd yn cynnig cyfleusterau campio ar y maes, a bydd cyfle hefyd i flasu cynnyrch lleol yn ein marchnad drwyddedig. Mae dal ambell i le ar ôl os hoffech ddod â stondin i'r maes. Yn ychwanegol i'r wledd ar y llwyfan bydd cwmni Arlwyo Nant yn cynnig cig oen lleol a fferm o Wrecsam yn darparu stondin hufen iâ - eto sy'n cael ei gynhyrchu'n lleol.
Gobeithiwn y dewch i gyd draw i fod yn rhan o'r Ŵyl Tegeingl cyntaf erioed. Mae eich cefnogaeth yn hanfodol i lwyddiant y fenter gyffrous newydd. Gobeithiwn y bydd rhywbeth gwahanol at ddant bawb, o Gymry Gymraeg i ymwelwyr oddi draw i'r ffin.
Am ragor o fanylion cysylltwch â Rhian Davies neu ewch at www.tegeingl.com