BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Gŵyl Fama
Hydref 2007
Mae Gŵyl Cilcain wedi datblygu ac ehangu ei hardal ac o hyn ymlaen, Gŵyl Fama fydd ei henw.
Sefydlwyd yr ŵyl o gerddoriaeth a chyelfyddyd nol yn 1993 gan Peryn Clement Evans, yr actor Meredith Edwards ac aelodau o Gapel Gad, Cilcain.

Cynhelir yr ŵyl eleni rhwng Hydref 10 a 14 mewn amryw leoliadau yn yr ardal. Meddai David Martin, cadeirydd yr ŵyl, "Trwy nawdd gan Cadwyn Clwyd, rydym wedi medru ehangu'r ŵyl i gynnwys mwy o gymunedau yn ardal Moel Famau.

Yn gynharach yn y flwyddyn fe drefnwyd taith gerddorol o gwmpas yr ardal i holi barn pobl am y syniad o gynnal Gŵyl Fama ac rwy'n falch o ddweud bod 95% o'r bobl a holwyd o blaid y syniad. Rydym yn gobeithio bod yr arlwy a gyngir gennym eleni yn adlewyrchu nifer o'r gweithgareddau celfyddydol roedd pobl yr ardal yn awyddus i'w mynychu."

Mae'r ŵyl yn dwyn atgofion braf am Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau gydag ymddangosiadau gan Robin Lyn Evans, enillydd y Ruban Glas, Côr Hyn Sir y Fflint, cerddorion Ensemble Cymru a'r canwr ifanc Steffan Rhys Hughes.

"Dwi'n gwybod bod nifer o ddarllenwyr Papur Fama rhy brysur yn gwirfoddoli adeg yr Eisteddfod i fynychu'r cyngherddau, mae croeso mawr iddynt felly ddod i fwynhau'r artistiad fel rhan o Gŵyl Fama" meddai David Martin.

Ceir mwy o wybodaeth am y rhaglen drwy ffonio: Nia Lynn Jones ar 01352 754212 neu trwy ddilyn y linc isod i wefan yr ŵyl.

  • gwefan Gŵyl Fama
  • prif dudalen papur fama

  • 0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy