| Roedd y nifer a ddaeth atom i gadw cwmni yn siŵr o fod yn dyst i boblogrwydd ein gwraig wadd. Meri Griffith oedd cadeirydd y noson a phrin oedd rhaid iddi roi cyflwyniad i'n gwraig wadd, sef Kathy Gittins, yr arlunwraig boblogaidd. Mewn ffordd gartrefol a hynod o ddiddorol rhoddodd i ni gefndir ei bywyd. Magwyd hi yn ardal Pontrobert yn Sir Drefaldwyn ac roedd yn hynod falch ei bod yn medru siarad Cymraeg. Saesnes oedd ei mham a gwas fferm wedi dysgu Cymraeg oedd ei thad, ac iddo ef mae'r diolch ei bod hi, ei brawd a'i chwaer yn medru siarad yr iaith. Ei llwyddiant cyntaf pan oedd yn ysgol Llanfaircaereinion oedd ennill gwobr gyntaf drwy Brydain am lunio poster i Shell. Wedi gwneud gradd mewn cynllunio ym Mhrifysgol Leeds daeth yn ôl i Feifod yn wraig fferm ac yna'n fam i bedwar o blant. Wedi peintio adre i gyd-fynd ac oriau ysgol y plant, cynhaliodd ei harddangosfa gyntaf ym 1997 yng Nghroesoswallt gyda 72 o luniau a chyfres o 4 cerdyn Nadolig. Yn dilyn ei llwyddiant, agorodd oriel ym Meifod, gan ei bod yn meddwl fod yn bwysig rhoi rhywbeth yn ôl i'w chymuned. Mae'n gobeithio agor ail oriel ym Mhwllheli, lle mae'n byw ar hyn o bryd. Erbyn hyn mae'n gwerthu yn Japan ac America, ond teimla mai Cymry Cymraeg yw ei chefnogwyr gorau o hyd. Rhoddodd ddarlun byw iawn o'i phrofiadau mewn ffeiriau cynnyrch, ac mae'r gwario oddeutu £10,000 y flwyddyn am leoliadau sy'n cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Llanelwedd. Mae wedi bad cyn belled â Japan ac Efrog Newydd i farchnata ei chynnyrch, ac erbyn hyn mae ei gwaith i'w weld mewn deuddeg oriel yn Japan. Roedd gwerthiant cardiau ar yn noson yn sicr yn dyst i safon a phoblogrwydd ei gwaith.
 |