BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Clogyn aur yr WyddgrugYsbrydion Bro'r Eisteddfod
Gorffennaf/Steddfod 2007
Yn 1991, pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol a'n hardal, cyhoeddais lyfryn o dan y teitl Ysbrydion Clwyd.

Cyflwynais y gyfrol i blant Maes Garmon - ddoe, heddiw ac yfory. Erbyn hyn mae plant heddiw wedi mynd yn blant ddoe a phlant yfory wedi dod yn blant heddiw.

Tybed a oes gan ddisgyblion heddiw yr un ddiddordeb byw mewn lien gwerin a disgyblion ddoe? Rhag ofn bod, dyma i chi rhai straeon ysbryd i godi gwallt eich pen. Gennym ni, yma, yn yr Wyddgrug, mae'r stori ysbryd orau yng Nghymru. Dau gan mlynedd yn ôl roedd pobl yn gweld ysbryd cawr o ddyn mewn dillad llachar ar y fan lle mae'r ffordd yn codi wedi mynd heibio lle mae'r clwb rygbi heddiw. Yr enw ar y lle oedd Bryn yr Ellyllon.

Daeth yr hanesydd Angharad Llwyd o Gaerwys i'r Wyddgrug i holi'r rhai oedd wedi gweld yr ysbryd a chlywodd hanesion tebyg iawn i'w gilydd.

Yn 1825 roedd dyn meddw a'i wraig yn cerdded adref ar hyd y ffordd heibio i Fryn yr Ellyllon un noson pan welodd y ddau ysbryd y cawr disglair yn sefyll ar ben y bryn. Llewygodd y wraig a phan ddaeth ati ei hun sylwodd fod ei gŵr wedi sobri - yn wir, yn ôl yr hanes, ni chyffyrddodd a diferyn o alcohol byth wedyn!

Cafodd merch o'r enw Nansi ei dychryn yn ofnadwy gan yr ysbryd hefyd. Roedd hi'n hel y gwartheg i'w gyrru adref a'r nos yn cau amdani pan ymddangosodd y cawr disglair iddi ar ben y bryn. Gwelodd merch arall yr ysbryd ac roedd wedi dychryn cymaint nes iddi fynd yn wallgo. Fe gymerodd saith mlynedd iddi ddod dros y peth.

Dyma'r math o hanesion a glywodd Angharad Llwyd. Aeth ati ar unwaith i sgrifennu'r cwbl i lawr.

Yn 1833 roedd y ffordd o flaen Bryn yr Ellyllon angen ei thrwsio gan fod tyllau ynddi. Daeth nifer o weithwyr yno a dechrau cloddio i ochr y bryn i gael cerrig i wneud y gwaith. Yn sydyn daethant ar draws cist o gerrig mawr a sylweddolwyd mai bedd ydoedd. Wedi codi'r garreg oedd dros y bedd gwelodd y dynion mae sgerbwd cawr o ddyn oedd ynddo. Roedd mwclis ambr a llestri pridd yn y bedd ond y peth mwyaf rhyfeddol a ddaeth ohono oedd clogyn byr o aur pur.

Rhaid bod y person a gladdwyd yn y bedd yn ddyn pwysig iawn, a'r gwrthrych gwerthfawr yma yn dangos hynny. Ar ôl i'r bedd gael ei agor ni fu'r sgerbwd fawr o dro cyn troi'n llwch. Bu'r awdurdodau fawr o dro chwaith cyn mynd a'r gwrthrych aur o'r bedd. Heddiw mae copi da iawn ohono yn amgueddfa'r Wyddgrug ond mae'r gwreiddiol, sy'n dyddio o'r Oes Efydd, yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain. Dyma i chi enghraifft wych o ddigwyddiad a darganfyddiad yn profi bod y stori ysbryd yn wir.

Ar ôl darganfod y bedd diflannodd yr ysbryd hefyd.

Os edrychwch ar y gwaith celf ar wyneb adeilad newydd Homebase ger Tesco fe welwch ymgais abstract i adgynhyrchu patrwm y clogyn aur mewn murlun.

Nid Bryn yr Ellyllon yn unig sydd yn y fro. Roedd unwaith Ffynnon yr Ellyll hefyd ac mae stori ysbryd dda amdani. Erbyn heddiw, yn anffodus, mae'r ffynnon wedi diflannu wrth i'r ffordd o'r Wyddgrug i gyfeiriad y Waun gael ei lledu rhai blynyddoedd yn ôl. Roedd yn y pant cyn i'r ffordd godi ar hyd ochr y cae lle mae cofgolofn yr Haleliwia, gyferbyn â'r mynediad i blasty Rhual.

Roedd pawb yn credu fod ysbryd cas yn byw yn y coed o gwmpas y ffynnon - bwbbach neu ellyll oedd yn chwarae triciau - yn gwneud sŵn ac yn dychryn pobl wrth iddynt gerdded ar hyd y ffordd yn y nos.

Roedd llanc ifanc o'r Waun yn caru merch oedd yn gweithio mewn tafarn yn y dref a'r unig ffordd y gallai fynd i'w gweld oedd cerdded heibio i'r ffynnon. Roedd wedi gwneud y daith laweroedd o weithiau ac yn raddol dechreuodd gredu mai dim ond hen stori wirion oedd yr hanes am yr ysbryd.

Un noson roedd ar ei ffordd adref i'r Waun ar ôl bod yn gweld ei gariad ac wrth ddod at y ffynnon sylwodd bod gwraig yn gwisgo clogyn gwyn hir, oedd yn ei chuddio o'i phen i'w sawdl, yn sefyll ar ochr y ffordd. Meddai wrtho: "Rwy'n falch o dy weld di. Mae nhw'n dweud bod ysbryd ger Ffynnon yr Ellyll ac mae arna i ofn cerdded heibio i'r fan."

"Peidiwch a phoeni," atebodd y llanc. "Rydw i wedi cerdded y ffordd yma gannoedd o weithiau a welais i'r un ysbryd hyd yma."

Cerddodd y ddau ymlaen mewn tawelwch nes cyrraedd y ffynnon. Yna meddai'r wraig: "Mae cadwyn aur wedi ei chuddio o dan garreg yn y ffynnon."

"Sut gwyddoch chi hynny? gofynnodd y llanc.

"Roeddwn i'n gwisgo'r gadwyn y bore y torrwyd fy mhen i ffwrdd!" oedd yr ateb.

Edrychodd y llanc arni mewn braw a sylwi nad oedd ganddi ben o dan y clogyn.

Dychrynodd am ei fywyd a rhedodd adref nerth ei draed. Roedd pawb yn gweld ei fod wedi cael profiad ysgytwol ac aeth yr hanes am Ladi Wen Ffynnon yr Ellyll ar led fel tân gwyllt drwy'r fro.

Ar gyrion maes yr Eisteddfod mae plas Coedllai a'r gatiau gwyn rhyfeddol o'i flaen. Dywedir na thalodd perchennog y plas yn llawn am wneud y gatiau ac yn ôl y sôn mae ysbryd y crefftwr a'i gwnaeth yn gyrru drwyddynt mewn trol a cheffyl am hanner nos ar nos calan gaeaf ac yn mynd at y plas gan obeithio cael ei dalu.

Mae stori ddiddorol am y lôn sy'n mynd heibio i'r giatiau ac i fyny at bentref Coedllai. Tua dechrau'r ugeinfed ganrif roedd glöwr yn cerdded i'w waith mewn pwll glo yn yr Wyddgrug. Wrth fynd i lawr y ffordd tua'r giatiau gwelodd geffyl gwyn yn dod allan o wrych, yn croesi'r ffordd ac yn diflannu drwy'r gwrych yr ochr arall.

Sylweddolodd ar unwaith mai ceffyl lledrithiol oedd hwn gan nad oedd unlle yn un o'r gwrychoedd i geffyl fynd trwyddynt ac nad oedd olion bod anifail wedi bod yn agos i'r lle.

Cymrodd mai rhybudd iddo i beidio mynd i'w waith oedd ysbryd y ceffyl a throdd yn ôl am adre.

Y diwrnod hwnnw bu damwain ddrwg yn y pwll a lladdwyd nifer o gydweithwyr y dyn. Roedd ysbryd y ceffyl gwyn wedi arbed ei fywyd.

Ychydig filltiroedd o faes yr Eisteddfod i gyfeiriad Wrecsam mae Plas Teg ac mae llawer o straeon ysbryd yn gysylltiedig a'r adeilad a'r ffordd fawr brysur o'i flaen. Mae mwy nag un gyrrwr wedi cael y profiad o weld merch yn cerdded ar draws y ffordd ac heb fedru arafu mewn pryd a'i tharo, ond er chwilio ym mhobman yn methu a dod o hyd i gorff. Ar adegau eraill mae modurwyr wedi gweld ysbryd dyn ar gefn ceffyl gwyn yn croesi'r ffordd.

Mae mwy nag un dafarn yn yr Wyddgrug yn honni bod yno ysbrydion ond yr enwocaf ohonynt yw ysbryd Daniel Owen. Mae wedi ei weld fwy nag unwaith yn nhafarn Y Pentan yn Stryd Newydd. Bu'n gweithio yn yr adeilad hwn am flynyddoedd fel teiliwr ac fe'i welwyd yn crwydro ar hyd y landin yn y dafarn. Does dim amheuaeth nad ysbryd y nofelydd ydyw - mae'n dal i wisgo'i het, yn union fel yn y darluniau ohono a'r cerflun o flaen y ganolfan a enwyd ar ei ôl.

Dyma ddetholiad o straeon ysbryd o fro'r Eisteddfod. Os oes arnoch awydd cael gwybodaeth am fwy ohonynt ewch i Siop y Siswrn a holi am y gyfrol neu ymwelwch â phabell Gwasg Carreg Gwalch ar y maes ac fe gewch gopi o'r llyfryn yno. Pwy a ŵyr nad oes gennych chi stori ysbryd dda na chroniclwyd hyd yma. Byddai'n dda cael ambell bwt am len gwerin ein bro yn Papur Fama o dro i dro.

Eirlys Gruffydd


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy