BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Geraint Rhys, Gareth Owen, Steffan Giddins, Osian JonesBlwyddyn Newydd Dda
Ionawr 2007
Erbyn i chi ddarllen hwn mae'n debygol y byddwn wedi cyrraedd Hong Kong ond ar hyn o bryd, sef 13eg o Ragfyr rydym wedi cyrraedd Jadhpur sydd yng ngogledd India.

Yn ystod y deg diwrnod diwethaf rydym wedi teithio ac ymweld â llawer o atyniadau gwahanol.

Cychwynnom ym Mumbai ac i fod yn onest roedden ni'n pedwar mewn sioc i weld cyflwr y ddinas.

Roedd ysbwriel ymhobman, system carthffosiaeth agored ac arogl mor ofnadwy mae'n anodd ei ddisgrifio gyda phobl yn mynd i'r toiled ar ochr ffordd!

Dwi ddim yn meddwl byddai hynny yn cael ei ganiatáu ym Mhrydain rhywsut. Ein profiad cyntaf oedd taith mewn tacsi gafodd ei gynhyrchu tua hanner canrif yn ôl.

I brofi hyn dydi'r meter yn y car heb ei ddiweddaru, felly rydych yn credu eich bod am dalu llai na'r hyn raid i chi dalu.

Taith rhyw awr a hanner i ganol y ddinas a waw! Pobl yn canu corn ac yn gyrru fel pe tai mewn ras, ond doedd neb yn gwylltio.

Wedi taith o amgylch Mumbai yn ymweld ag atyniadau, megis Mani Bhavan, cartref Ghandi, ac ogofau Kanheri sef yr unig Barc Cenedlaethol yn y byd wedi'i leoli tu fewn i ffiniau dinas.

Ers hynny i fod yn fras rydym wedi hurio car a gyrrwr a theithio i'r gogledd

Diolch byth ein bod mewn 4x4 gan fod y priffyrdd yn debyg i 'dirt track' ac ar daith o 15awr i Udapur mae'n brofiad digon amhleserus.

Rydym wedi ymweld â llawer o demlau (gormod i'w henwi) ond maent yn ddiddorol - piti nad ydynt yn cael eu cynnal a'u cadw'n well.

Hyd yn hyn ein profiad gorau oedd taith i ganol yr anialwch. Roeddem wedi disgwyl aros mewn pabell yng nghanol 'nunlle ond gawsom steil!

Gwesty 5* yng nghanol yr anialwch am ond £ 15 Y noson gyda thoiled go iawn a phopeth byddwch yn ei ddisgwyl mewn gwesty pum seren.

Cawson reid ar gamel oedd digon annifyr ond eto yn llawer o hwyl wrth i ni weld machlud haul. Roeddem wedi'n siomi bod hyd yn oed yn yr ardal yma o anialwch Thar pobl yn gwerthu layers (Walkers Crisps i chi a fi), maen nhw yn cael eu gwerthu ymhobman.

Wedi noson o adloniant Indiaid gyda ni yn cyfrannu at y dawnsio, gan wneud ffyliaid o'n hunan, profon fwyd lleol. Bore canlynol roedd rhaid codi am 6 i weld yr haul yn gwawrio a hyn ar ben camel!

Nid oeddem wedi sylweddoli fod tymheredd yr anialwch more oer a rhaid oedd gwisgo'n gynnes (h.y. gwisgo nifer o grysau-t).

Hwyl am y tro o'r India bell oddi wrth Gareth, Geraint, Osian a Steffan.

O.N. Os ydych am golli pwysau peidiwch ag ymuno â 'Weight Watchers' - dewch i'r India am wythnos!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy