BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Rhian Davies a chriw o RuthunHanner cystal â nhad!
Tachwedd 2004
Profiad bythgofiadwy Rhian Davies yn croesawi ffans tîm pêl-droed Cymru i stadiwm Old Trafford, yng ngêm Cymru v Lloegr yn ddiweddar.
Wedi methu a chael fy nwylo ar un o'r tocynnau cysegredig prin i weld Cymru'n chwarae Lloegr am y tro cyntaf ers ugain mlynedd, roeddwn i wedi bodloni hefo gwylio'r gêm gyda chriw draw yn Nhafarn y Castell, Rhuthun.

Yna bnawn Gwener derbyniasom alwad ffôn yn Swyddfa'r Fenter Iaith yn cynnig cyfle nas ellid ei golli. Dorathy Roberts o gwmni cyfieithu Posib oedd ar ben arall y lein yn chwilio am rhywun ar frys a fyddai'n fodlon helpu Cymdeithas Pêl Droed Lloegr allan o bicil. Roeddent wedi penderfynu funud olaf y byddai hi'n arwydd o ewyllys da i gael negeseuon dwyieithog dros yr uchelseinydd yn stadiwm Old Trafford yn ystod y gêm. Yn wir i chi,dyma benderfynid a hanner, fforffedu gwario prynhawn yn y dafarn er mwyn achub croen Cymdeithas Bêl-droed Lloegr!

Mi oedd y diwrnod ei hun fel stori tylwyth teg, cael fy nhalu yn hael am fynd i wylio gêm y byddwn i'n hawdd wedi talu sawl gwaith dros y pris am docyn. Wedi taro ar draws hogie'r Wyddgrug yn mwynhau'r awyrgylch, a gwneud pwt o gyfweliad ar gyfer S4C, ces fy nhywys, megis un o aelodau staff y Gymdeithas Bêl-droed ei hun, a mam gyda fi bob cam, trwy'r "Directors Entrance" ac i'r "Premier Lounge".

Yno yn rhannu ystafell gyda ni oedd tîmau dan un ar hugain Cymru a Lloegr, yr athletwraig Olympaidd Kelly Holmes, a chriw o blant a oedd i fod yn fasgots am y diwrnod. Wedi teithio pum awr ar fws o Flaen Afon, roedd masgotiaid Cymru yn torri bolie i gael cyfarfod y tîm, a minnau yn eu mysg hefyd yn teimlo'r cynnwrf yn corddi ynof.

Rhian DaviesTua 2.30yp â'r stadiwm yn prysur lenwi, daeth yr hir ymaros i ben wrth i mi gael y fraint a'r anrhydedd o groesawu chwaraewyr, swyddogion a chefnogwyr Cymru i Old Trafford ar ran yr FA, trwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny dros yr uchelseinydd.

Roedd hi'n deimlad afreal iawn yn gwybod bod yr hyn a ddaw allan o fy ngheg yn cael ei ddarlledu dros y stadiwm anhygoel honno ac yn disgyn ar 65,000 pâr o glustiau. Dyma gamp clodwiwiaf fy mywyd, ac roeddwn cyn falched ag alarch ar lyn wrth eistedd yn ôl i lawr yn ymyl mam. Er, mae'n rhaid i mi gyfaddef y ces fy nhemptio'n fawr iawn i newid y neges a gofyn wrth Garry Speed i mhriodi i yn lle!!

Parhau a wnaeth y freuddwyd wrth i fi a mam ddarganfod ein bod ill dwy yn eistedd nid nepell o fainc Cymru. Yn wir petai mam wedi estyn ei llaw allan mi fyddai hi'n hawdd wedi gallu gwasgu tin Mark Hughes (ond rhyngoch chi a fi brwydro'n galed yn erbyn y temptasiwn hwn a wnaeth hi!)

Fel bachgen y bu fy nhad (Dai Davies) yn breuddwydio am gael chwarae dros Gymru, a fel y gwyddoch mi ddaeth hyn yn realiti wrth iddo fynd ymlaen i ennill 52 o gapiau dros ei wlad. Uchafbwynt y perfformiadau hyn oedd cael chwarae pedair gêm yn erbyn yr hen elyn oddi cartref yn Wembley. Yn rhyfeddol ni gollodd nhad r'un o'r gemau hyn, wrth brofi pleser cadw'r gôl mewn tair gêm gyfartal ac un buddugoliaeth godidog. Roedd hefyd yn rhan o'r tîm mawreddog a faeddodd Lloegr yn rhacs o bedair gôl i un ar y Cae Ras mis Mai, 1980 (saith mis yn union cyn fy ngeni, felly mi oeddwn i yno o rhyw fath, yn eistedd yn y dorf gyda mam!)

Fues i 'rioed yn ddigon ffôl i freuddwydio y buaswn i rhyw ddydd yn dilyn olion traed fy nhad i droedio caeau gleision y Cae Ras a'i thebyg, ond rwy'n eithaf sicr y daeth fy niwrnod anghredadwy yn Old Trafford mor agos i brofiadau gwefreiddiol fy nhad ag y galla i fyth freuddwydio. Ac efallai yn fy ffordd fach fy hun fy mod i wedi profi fy mod innau hanner cystal â nhad!

Rhian Davies

Rydym yn ffodus iawn o gael gwasanaeth Rhian Davies fel un o olygyddion Papur Fama. Mae hi'n dechrau ar ei gwaith yn y rhifyn yma. Da o beth yw cael gwaed ifanc i roi hwb i galon y Papur.

Merch o'r Wyddgrug yw Rhian ac fe gafodd ei haddysg yn Ysgolion Glanrafon a Maes Garmon cyn mynd i Brifysgol Caerdydd.

Rydym yn falch iawn ei bod wedi dod yn ôl atom i dref Daniel ac yn barod i ymroi yn y 'pethe'. Pob hwyl yn dy yrfa newydd Rhian.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy