| Mae'r llongyfarchiadau i'r llu a fu wrthi dros y 25 mlynedd diwethaf i gadw'r papur yn fyw. Ni cheisiaf enwi'r bobl yma ond da fyddai nodi'r swyddi sydd eu hangen i gadw'r olwynion yn troi :- teipyddion, cysodwyr, argraffwyr, golygyddion, dosbarthwyr, rhai â gofal am yr hysbysebion, y rhai fu'n casglu'r newyddion, y rhai sydd wedi cynnig ambell i erthygl neu lun. Nid rhestr gyflawn mo hon ond rhyw syniad mo'r math o waith sydd i'w wneud cyn i'r papur fynd i'w wely. Bydd rhaid enwi'n darllenwyr - y chi sy'n gyfrifol am fodolaeth y Papur. Ein diolch diffuant i'r rhai sydd wedi noddi'r Papur pan oedd y pwrs yn wag. Un apêl i bawb - daliwch ati. Gwnewch ymdrech i wneud rhywbeth ymarferol, drwy anfon erthygl neu lun i ni. Gwyn eich byd os gwnewch. Henffych Well! Dyma i chwi Fro Fama, bro ein papur ni, bro eich papur ch i - o ffriddoedd Cilcain hyd at lanw'r Ddyfrdwy, o awyr iach Llanfynydd hyd at ffwrneisi dur Shotton, o draddodiad eisteddfodol Caerwys i draddodiad milwrol Sealand, o amaethyddiaeth Eryrys hyd at dechnoleg modern Broughton, o hen weithfeydd Helygain hyd at siopau crand Caer. Ardal ddiddorol, llawn amrywiaeth. Adlewyrcha'r papur hyn i gyd - gyda'ch HELP chwi. Yr ydym yn ymwybodol iawn bod y mwyafrif ohonom ar hyn o bryd o gyffiniau'r Wyddgrug ei hun. Hen dro yw hyn. Mae o'n gymaint o bapur i bawb arall ohonoch ag yw i drigolion yr Wyddgrug. Mae gennych i gyd ran hollbwysig yn yr hwyl o'i redeg, a methiant fydd o os na fedrwch chwi i gyd deimlo ei fod yn bapur i chwithau. Os gwelwch yn dda, dewch i gysylltiad â ni gydag awgrymiadau a syniadau, mae arnom ni ofnadwy o angen eich cefnogaeth. Gadewch inni wybod am bobl a fedrai gyfrannu i'r papur. Dywedwch wrthym pa bethau yr hoffech chwi eu gweld ynddo. Mae Moel Fama' yn weladwy o bobman -ym 'mro' y papur, hyd yn oed o Gaer. Dyna paham y dewiswyd yr enw hwn. Roedd yna hefyd ychydig o chwarae ar eiriau, gan fod 'fanyma' ar lafar weithiau yn troi yn 'fama, felly golyga 'Bapur Fan Yma', a phapur yr ardal i'r dwyrain o Foel Famau. Diolch i'r dorf a weithiodd mor galed, gyda'r fath frwdfrydedd, i gynhyrchu'r rhifyn hwn. Bydd y nesaf yn well. A'r un canlynol yn well eto. Cewch weld! ! Mae cerdd 'I Gyfarch Y Fama', gan Gwilym R. Jones yn rhifyn Ebrill o'r papur.
 |