| Bydd yr wyl yn cael ei hagor gan Gethin Jones sy'n un o gyflwynwyr Uned 5 ond hefyd y fo a enillodd wobr 'Bachelor of the Year' gyda 'Company Magazine' felly ferched ar eich gorau ddiwrnod yr wyl! Bydd BBC Radio Cymru yn darlledu trwy'r prynhawn yng nghwmni bandiau sy'n perfformio'n fyw - Caryl a'r Band, Elin Fflur a'r Moniars, TNT , Meinir Gwilym ac Epitaph. Gyda Dafydd Du, Dylan Wyn a Jonsi'n cyflwyno a chrwydro'r maes. Yn ogystal bydd bws y BBC yno gyda chyfle i chi gael blas ar stiwdio recordio gymunedol. I'ch diddanu ar y maes : -Wal ddringo'r Urdd, Dawnsio Gwerin yng nghwmni rhai o blant y sir a Mabolgiamocs wedi eu trefnu gan yr Urdd. Cicio'r bêl o'r smotyn a digon i ddiddanu'r plant lleiaf ym mhabell Mudiad Ysgolion Meithrin a TWF. Ymhlith y stondinau mae Cwmni Cig Maethlon, Y Ffwrn Datws, Alff a Bet, Cwmni Sain, stondin Addysg Gymraeg a Chymraeg i oedolion, Coleg Glannau Dyfrdwy y Ffermwyr Ifanc a llawer iawn mwy. Bydd y giatiau ar agor am 1.00pm £1 i oedolion - plant am ddim. Dewch draw i ymuno yn hwyl yr wyl!
 |