| Mae wedi ymddangos mewn rhai dramâu teledu eraill yn cynnwys Orrible! ,cyfres Johnny Vaughan ar BBC2. Ond dyma ei gyfle cyntaf i fod ar gyfres yn rheolaidd. Mae'n chwarae rhan Keith, y 'cyw olaf' yn nheulu'r Gurkhas ar stad o dai cyngor yng Nghaernarfon. Er bod yna ddisgwyliadau mawr ar Keith yn academaidd mae'r ffaith bod popeth yn mynd o chwith yn y cartref yn amharu ar bawb, yn enwedig arno ef (yn hollol wahanol i sut oedd hi go iawn yng nghartref Rhodri yn Yr Wyddgrug!) Cymeriad gwahanol Cred Rhodri fod cymeriad Keith yn wahanol i'r lleill ac yn dod ag elfen reit ysgafn i'r straeon ac mae'n mwynhau'r profiad yn fawr, "Mae'n braf cael bod yn ôl yn cychwyn ar yr ail gyfres 'rwan, ar ôl cael cymaint o hwyl yn ffilmio'r gyntaf" meddai. Mae'n ddiolchgar iawn am gael blas ar actio yng nghapel Bethesda ac yn ysgol Glanrafon, er mai bod yn bêl-droediwr oedd ei uchelgais. Mae'n arbennig o ddiolchgar i Mrs. Eirian Jones am roi cymaint o hwb a chefnogaeth iddo yn Ysgol Maes Garmon, ac yn amlwg, drama oedd un o'i hoff bynciau yno. Efallai hefyd fod yna dipyn bach o ddylanwad o'i gartref gan fod ei rieni (Menna a Jo Arwel) wedi bod yn weithgar gyda Chwmni'r Dreflan. Cyfarfod cyd-ddisgyblion Ar wahân i fwynhau actio mae Rhodri wrth ei fodd yn cael cyfarfod eto â'i gyd-ddisgyblion i lawr yng Nghaerdydd, lle mae'n byw pan nad yw'n ffilmio Tipyn o Stad, a chyfarfod rhai eraill a fu ym Maes Garmon sydd hefyd yn y busnes actio fel Llyr Evans a Cadfan Roberts. Yn ogystal ag actio, bydd Rhodri weithiau'n troi ei law at sgriptio ac fe gafodd un o'i ddramâu - Un Gwaed - ei pherfformio yn Yr Wyddgrug a Bangor dan arweiniad Iola Ynyr (hithau hefyd o'r Wyddgrug). Enillodd yr ail wobr yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd y llynedd. Yn y dyfodol buasai Rhodri yn hoffi cael mwy o brofiad ac amrywiaeth drwy berfformio gwahanol gymeriadau yn y theatr yn ogystal ag ar y teledu.
 |