Flynyddoedd yn ôl, nid oeddwn yn siwr iawn ymhle, ar gyfandir enfawr Affrica, yr oedd lleoli Namibia. Erbyn edrych i mewn i'w safle, syndod oedd deall mor anferth yw'r wlad. Mae iddi 2000 cilomedr o arfordir ar lan môr yr Iwerydd gydag Angola ar ei ffîn ogleddol, Botswana, Zambia a Zimbabwe i'r dwyrain iddi a De Affrica i'r de. Mae tua 4 gwaith maint Prydain. Buom yn teithio am tua 2000 gilometr o fewn y wlad. Cawsom brofiad o'r thirwedd, ei thyfiant naturiol, ei phobloedd amrywiol a'i hanifeiliaid gwyllt, yn cynnwys adar cynhenid egsotig, fel fflamingo, creyr, ciconia, eryr, fwltur, pelican, cog ayyb. Gwefr oedd gweld pob un o'r 'Pump Pwysig' ('The Big Five' fel y'i galwant ym myd yr anifeiliad - llew, llewpard, eliffant, byffalo a rhinoseros) ond yr olaf. Roedd llewes a'i 4 cenau yn yfed o bwll o ddŵr nepell o'n cerbyd, llewpard yn troedio'n llechwraidd o dan y coed a'i guddliw yn asio'n berffaith â'i gefndir. Swil iawn yw'r llewpard, un sy'n dewis ymneilltuo i'r unigeddau tawel, diarffordd, ac felly amheuthun yw cael cip arno. Daeth rhes o eliffantod y diffaethwch i ymlwybro tua'r pwll dwr. Roedd 8 ohonynt - dau wryw mawr â chyrn ifori hir, dwy fam lai a 4 o rai bach. Y gwryw hynaf oedd yn arwain a'r gwryw arall ar ddiwedd yr 'orymdaith', y mamau a'r rhai bach yn y canol yn cael eu gwarchod gan y gwrywod rhag perygl. Mae natur yn rhyfeddol wir. Mae'r rhywogaeth hyn - eliffant y diffaethwch - wedi addasu i fywyd sych yr anialwch prin o ddŵr gan fedru byw ar 10% yn llai o ddiod nag eliffant arferol. Mae hefyd yn gallu codi ar ei ddwy droed ôl er mwyn gallu cyrraedd y dail uchaf ar y coed. Mae Parc Natur Etosha yng ngogledd Namibia yr un maint â'r Swistir. Ehangder gwastad o badell halen yw canol y Parc (y 'Pan', fel y'i gelwir). Prin yw'r pyllau dŵr i greaduriaid gwyllt y Parc yn anterth haf ac mae perygl iddynt farw o syched. Caiff y llynnoedd eu llenwi gyda phibellau tanddaearol o gronfa helaeth bellter i ffwrdd bellach. Sylweddolir fod rhywogaethau niferus o greaduriaid am ddiflannu am byth os na sicrheir cyflenwad digonol o fwyd a diod iddynt yn gyson. Un o'r rhywogaethau hyn yw'r 'llewpard hela' - anifail cyflymaf y ddaear. Dywedodd un o'r tywysoddion wrthym na fydd un o'r creaduriaid prydferth yma'n bodoli ymhen 20 mlynedd o fewn y Parc. Mae canolfannau penodol sy'n canolbwyntio ac yn arbenigo ar achub anifeiliaid amddifaid neu rhai a anafwyd mewn rhyw ffordd, ond mae'r dasg yn enfawr. Tyfodd yr erthygl hon yn ormod o hyd eisioes! Olaf na chrybwyllais air am drigolion y wlad na'r Namib - y diffaethwch rhyfeddol hwnnw - ac imi gyfyngu'r sylw yn bennaf i'r bywyd gwyllt a'i ryfeddodau diddiwedd. Efallai y caf gyfle eto...
 |