BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Teulu'r MckenziesY McKenzies yn gweld y byd
Mehefin 2006
Hanes teulu'r Mckensies sydd wedi symud i fyw yng Nghaliffornia ers dwy flynedd.
Rydym wedi bod yma yn Irvine, Califfornia am dros dwy flynedd erbyn hyn.

Doeddwn i ddim wedi bod i America cyn symud yma, ac i fod yn onest, doedd gen i fawr o awydd ymweld â'r lle chwaith. Rydym yn cael ein dylanwadu gymaint gan y cyfryngau ac roeddwn i yn bersonol yn meddwl am Americanwyr fel pobl anferth, gyda lleisiau uchel, o ia, a'r geiriau dychrynllyd "I just lurrrrve yourrrrr accent".

Ers blynyddoedd, roedd Al wedi trio fy mherswadio i fynd am wyliau i'r UDA, ond na, roeddwn wedi cyfarfod digon o'r Yanks tra'n gweithio fel telynores yn y gwestai o gwmpas Caer. Ond pan gollodd Al ei swydd yn Northwich, roedd yn rhaid i ni wynebu'r ffaith nad oedd yna lawer o swyddi iddo fo yn Sir Fflint, a doeddwn i ddim yn ffansïo symud i Lundain o gwbl. Beth bynnag, cafodd Al gynnig swydd yn Bristol, ac un arall yng Ngaliffornia.

Yr haul a enillodd, a sylweddolais fod yn rhaid i mi beidio meddwl am yr Americanwyr mewn ffordd mor afresymol. Roedd gen i ychydig o wybodaeth am y wlad o'r hyn roeddwn wedi gweld ar y teledu. Yn yr wythdegau, fi oedd ffan mwyaf y rhaglen "Fame", ac roeddwn yn gwylio'r "Cosby Show" pob nos Wener. Ac wrth gwrs, fedrwn i ddim anghofio "Dallas". Roedd Al yn poeni braidd wrth glywed hyn, ond nes i drio ei berswadio `mod i'n deall na fydd ein bywyd newydd fel y "Waltons" a "Little House on the Prairie".

Byd cyfan mewn milltir sgwâr
Dwy flynedd yn ddiweddarach, rwy'n sylweddoli does yna unrhyw raglen deledu all ddisgrifio fy mywyd fan hyn. I fod yn onest, mae trio disgrifio'r lle drwy ysgrifennu yn achosi penbleth i mi. Y broblem? Fy nghymuned, Santa Rosa. Byd cyfan o fewn un filltir sgwâr. Dychmygwch le sydd yn cynnwys pobol o bob rhan o'r byd, lle y clywir bron iawn pob iaith sy'n bodoli, a lle, wrth gerdded o gwmpas, mae aroglau holl fwydydd y byd yn llifo drwy'r awel ysgafn.

Mae amryw o resymau am yr holl bobol ryngwladol. Mae llawer iawn o fy nghymdogion yn dod o Corea, athrawes piano Mali yn un ohonynt. Mae hi wedi symud yma er mwyn i'w phlant gael eu haddysg yma. Mae ei gŵr hi yn dal i fyw yng Nghorea, ac yn dod draw am benwythnos unwaith y mis. Yr un yw'r stori ar gyfer rhan fwyaf o'r Coreaid gan eu bod nhw eisiau i'r plant fod yn rhugl yn y Saesneg.

Rheswm arall ydy, fel yn ein hachos ni, gwaith. Meddyliwch am Irvine fel chwaer fach Silicone Valley. Yma, mae cwmnïau anferth sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd i greu y nwyddau diweddaraf yn y byd technoleg. Maent yn dod â phobol sydd gyda sgiliau arbennig o bob rhan o'r byd. Dim syndod felly fod gan bob cwmni griw o gyfreithwyr eu hunain, sy'n trefnu visas o bob math er mwyn i'r gweithwyr ddod draw.

Pan 'rydych yn cyfarfod unrhyw un yn Irvine, gallwch cymryd yn ganiataol mae peirianwyr electroneg ydynt, a dim jyst am eu bod nhw'n edrych fel "geeks"! Mae'r rhan fwyaf o fy ffrindiau sydd yn byw yn fy nghymuned gyda'r un fath o visa, ac rydym yn cyfarfod pob diwrnod bron iawn. Pob wythnos rydym yn mynd i Ti a Fi yn y Rec, ac ambell dro rydym yn trefnu cinio rhyngwladol lle mae pob person yn dod â bwyd traddodiadol i'w rannu. Os ydych yn clywed rhywle fod coleslaw a chili yn fwydydd traddodiadol o Gymru, fi sydd ar fai!

O ran iaith, mae'r rhan fwyaf o fy ffrindiau yn medru siarad Saesneg, ond rwy'n ddiolchgar iawn am i mi wneud dwy flynedd o wersi Sbaeneg ym mar gwin Y Delyn. Mae fy ffrindiau sy'n dod o Dde America i gyd yn siarad Sbaeneg, ac mae'n debyg iawn i Bortiwgaleg sef yr iaith mae fy ffrindiau o Frasil yn siarad. Hefyd, mae pob dim yma yn ddwyieithog. Pob arwydd yn y siopau yn Saesneg a Sbaeneg, pob bil a phob llinell wybodaeth yr ydych yn ffonio yn cynnig dewis rhwng y ddwy iaith.

Pwysigrwydd ffrindiau
Mae ffrindiau mor bwysig i mi fan hyn. Pan mae teulu a'r hyn sy'n gartrefol i ni mor bell i ffwrdd, mae perthynas rhwng ffrindiau yn un unigryw. Rydyn yn helpu ein gilydd gymaint gan ein bod mor ddibynnol ar ein gilydd. Pethau syml fel gwarchod plant am awr tra rydym yn mynd at y deintydd neu'r doctor, neu jyst eisiau picio allan yn sydyn. Siarad a chwerthin tra mae'r plant yn chwarae yn y parc, ac ambell dro, jyst gwrando pan mae ffrind angen siarad a'r gwahaniaeth amser yn golygu fod teulu yn bellach i ffwrdd nag sy'n gyfforddus.

Bob ryw hyn a hyn, mae un o'r criw yn symud allan, ond, heb i ni sylwi bron iawn, mae 'na wyneb newydd yn dod heibio ac anodd ddychmygu bywyd hebddynt. Mae un o fy ffrindiau newydd symud nôl i India. Debyg na wnawn ni byth weld ein gilydd eto. Ond mae hyn yn rhan o'r daith. Cyfarfod pobl, dysgu ganddynt a symud ymlaen gan ddefnyddio'r hyn rydym wedi dysgu. Dwi'n teimlo fy mod i'n dysgu gymaint bob munud, fel petai fy mod i ar rolercoster yn trio cymryd popeth i fewn cyn i'r peth nesa' fflachio o fy mlaen. Pwy a wyr pryd ddaw y daith i ben, ond, waw, am daith arbennig.

Hwyl, Menna, Al, Mali a Ieu.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy