| Gyda pherchnogion newydd yn rhedeg tafarn y Pentan, nid yw'r ystafell ymarfer bellach ar gael, ac felly bu'n rhaid dod o hyd i gartref newydd ar frys. I'r adwy y camodd y Clwb Criced, ac yno y byddwn ni o hyn ymlaen yn ddyfal ymarfer bob nos Fawrth am 7.3Oyh. Croeso mawr i aelodau newydd. Ond da chwi, peidiwch a gofidio, nid ydym ar frys i newid ein henw. Parti'r Pentan fyddwn ni'n aros, a nid Côr Clwb Criced! (Er mi ddaeth un cynnig i ni newid ein henw i Côr Blimey!) Ta waeth, cafodd y côr ddiwrnod penigamp yn cynrychioli Sir y Fflint yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau Awst yma. Wedi oriau maith o ymarfer y darn gosod "Yr Oenig" gan John Tavener, "Y Sipsiwn" gan William Mathias a "Wrth Fynd Efo Deio i Dywyn" trefniant Mervyn Burtch, dan ofal dyfal Siân Meirion, cawsom diwrnod i'w chofio ar ddydd Gwener ola'r Steddfod. Wedi perfformiad yn rhaglen deyrnged Geoff Jenkins yn y Babell Ddawns, a cynhesu pellach ar lwyfan maes Mentrau laith Cymru, cawsom y felltith (neu'r fendith) o fod yn gyntaf ar y llwyfan. Er na chawsom ni ein gosod yn y tri uchaf, teimlwn bod y côr wedi rhoi perfformiad haeddiannol dan oleuadau cynnes llwyfan y brifwyl. Braf oedd gweld cynrychiolaeth mor gref o'r ardal, yn Gymry Cymraeg, yn ddysgwyr ac heb anghofio ein haelodau di-Gymraeg. Hoffai'r côr i gyd ddiolch o waelod calon i Siân am ei hymroddiad parhaol a'i hamynedd yn rhoi fyny hefo ni gyd! Diolch hefyd i Chris Euston am gyfeilio i ni ar y dydd. Ar nodyn tristach hoffem ddiolch am gyfraniadau tri o'n haelodau sydd wedi ymadael dros gyfnod yr haf. Pob lwc i Sasha a Tudur yn eu cartrefi newydd, a gobeithio y cewch chi gymaint o groeso gan gorau eraill yn eich hardaloedd newydd. Hwyl fawr arbennig hefyd i June sydd bellach wedi dychwelyd i Seland Newydd, diolch am ei chyfeillgarwch a chofier bod y drws bob amser yn agored i bob un ohonynt i ddychwelyd! Am wybodaeth pellach ynglyn a'r côr cysylltwch a'n hysgrifennydd newydd Hafwen ar 07778878387.
 |